Ymgynghoriadau Wyneb yn Wyneb â Chlinigwyr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:06, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod ein fferyllfa gymunedol a'n fferyllwyr yn eithriadol o bwysig yn GIG Cymru ac yn sicr pan oeddwn i'n Weinidog iechyd 10 mlynedd yn ôl, fe wnes i wir annog ein fferyllwyr. Rwy'n cofio iddyn nhw gynnal cynlluniau arbrofol i ni o ran dosbarthu'r brechlyn ffliw, er enghraifft, ac, rwy'n credu, ar y pryd, eu bod nhw wedi cael eu tanddefnyddio yn y modd yn sicr nad ydyn nhw ar hyn o bryd. Byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog iechyd yn ymwybodol o'r materion yr ydych chi'n eu codi wrth iddi edrych ar y contract ar hyn o bryd.