1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2021.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd datganoli gweinyddu lles? OQ56748
Croesawodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ym mis Hydref 2019. Yn dilyn argymhellion y pwyllgor, rydym ni'n gwella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau lles a byddwn yn parhau i archwilio sut y byddai datganoli'r system fudd-daliadau ymhellach yn gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru.
Diolch am yr ateb yna, Trefnydd. Mae nifer fawr o randdeiliaid wedi awgrymu y gallai datganoli'r broses o weinyddu lles gynnig cyfle i greu system fwy tosturiol. Dywedodd y comisiynydd pobl hŷn, er enghraifft, bod dull yr Alban wedi helpu i symud tybiaethau oddi wrth rhai o stigma a baich yn gysylltiedig â'r system. Gallai datganoli i Gymru ganiatáu i ni wneud yr un peth.
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, fel y mae'r Trefnydd yn gwybod, rwy'n siŵr, wedi archwilio'r goblygiadau ariannol i Gymru o ddatganoli'r un pecyn o fudd-daliadau sydd wedi cael eu datganoli i'r Alban, ac ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth ganddyn nhw i awgrymu y byddai datganoli'r pwerau hyn yn anghynaladwy yn gyllidol. Yn wir, dywedasant, yn dibynnu ar y dull Barnett a ddefnyddiwyd a natur y cytundeb rhynglywodraethol, y gallai Trysorlys Cymru elwa'n sylweddol ar ddatganoli pwerau lles.
Os yw Llywodraeth Cymru yn awyddus i gynorthwyo ac amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, yna byddwn yn erfyn ar y Llywodraeth i geisio pwyso am ddatganoli'r broses o weinyddu lles yn ystod hanner cyntaf y tymor hwn. Ni allwn fforddio i aros i Lywodraeth fwy blaengar fod ar gael ar ben arall yr M4—gallwn newid bywydau pobl a gallwn amddiffyn pobl yn y fan yma, nawr, o'r lle hwn, a byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn rhannu'r uchelgais hwnnw hefyd.
Wel, rwy'n sylweddoli y gallai datganoli pwerau penodol yn ymwneud ag elfennau o nawdd cymdeithasol roi amrywiaeth ehangach o ddulliau i ni fynd i'r afael â thlodi; rwy'n sicr yn credu y byddem ni'n Llywodraeth lawer mwy tosturiol na Llywodraeth y DU. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n asesu yn ofalus sut y bydd unrhyw newidiadau hirdymor i nawdd cymdeithasol, gan gynnwys datganoli budd-daliadau lles, yn cael eu hariannu. Nid oes unrhyw ddiben mewn cael y pwerau heb y cyllid. Rydym ni wedi cael ein dal ormod o weithiau, fel Llywodraeth, o ran pwerau yn dod atom ni. Rwy'n cofio cynllun lleihau'r dreth gyngor—ac mae'r Gweinidog cyllid yn gwenu arnaf i—wyddoch chi, mae'r grym wedi dod draw ond nid y cyllid. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod hynny.
Ac, wrth gwrs, rydym ni mewn cyfnod anodd dros ben. Nawr, rydym ni wedi cael cyfnodau anodd o'r blaen, ar ôl degawd o gyni cyllidol gan Lywodraeth y DU, ond mae pandemig COVID-19 wedi cynyddu'r heriau hynny. Felly, rwy'n credu y byddem ni'n wyliadwrus iawn o ran cytuno ar unrhyw newidiadau i'r system nawdd cymdeithasol, ac mae hynny yn cynnwys datganoli budd-daliadau lles ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai'r peth iawn nawr yw canolbwyntio ar wneud yn siŵr—oherwydd mae'r ysgogiadau gennym ni i wneud hyn—ein bod ni'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella canlyniadau i'r rhai sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig a bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw, a dyna oedd un o'r argymhellion a ddaeth allan o adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Wel, fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a luniodd yr adroddiad 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well' y llynedd, clywsom, yn yr Alban, fod datganoli'r broses weinyddu, yn enwedig asesiadau o rai budd-daliadau, wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol lwyr yn yr Alban. Ond nododd ein hadroddiad hefyd bod yn rhaid cydbwyso
'gwobr bosibl darparu gwasanaethau sy’n gweddu’n well i anghenion penodol Cymru' yn erbyn y
'posibilrwydd o dorri’r undeb cymdeithasol' ledled y DU, sy'n sail i'r
'egwyddor bod gan holl ddinasyddion y DU hawl gyfartal i’r wladwriaeth les,a bod budd-daliadau a beichiau’n dibynnu ar angen ac nid daearyddiaeth.'
Pan drafodwyd yr adroddiad hwn gennym ni fis Medi diwethaf, croesawais y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion, y dylai sefydlu
'“system fudd-daliadau Gymreig” gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt...[wedi] eu cyd-gynhyrchu gyda phobl sy’n hawlio’r budd-daliadau hyn a’r cyhoedd ehangach yng Nghymru' a'i fod yn defnyddio pecyn cymorth dull bywoliaethau cynaliadwy Oxfam, gan gydnabod bod
'gan bawb alluoedd ac asedau y gellir eu defnyddio i wella eu bywydau', ac ychwanegu,
'Mae angen i ni droi geiriau yn weithredu go iawn yn awr fel bod pethau'n cael eu gwneud gyda phobl o'r diwedd yn hytrach nag iddyn nhw.'
Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ers hynny i droi ei geiriau yn weithredu go iawn—[Anghlywadwy.]
Wel, fel y soniais, fe wnaethom groesawu yn fawr argymhellion yr adroddiad hwnnw, ynglŷn â sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r ysgogiadau a oedd gennym ni, i wneud yn siŵr bod pobl ledled Cymru yn deall yr holl gymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw. Rwy'n falch iawn bod gweithredu'r cynllun gweithredu pwyslais ar incwm tlodi plant Llywodraeth Cymru wedi helpu i gynyddu incwm pobl ledled Cymru i'r eithaf.
Cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yr adroddiad ar gynnydd y cynllun gweithredu hwnnw—yr wythnos diwethaf oedd hi rwy'n credu—ac un canlyniad oedd bod y rhaglen o gyngor a chymorth pwyslais ar incwm wedi'u targedu yn golygu y cynorthwywyd pobl i hawlio incwm ychwanegol o bron £2.5 miliwn. Mae mynd i'r afael â thlodi a darparu ar gyfer y rhai mwyaf anghenus yn sicr yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon yng Nghymru, ac mae diwygiadau blaenorol i'r system nawdd cymdeithasol wedi codi problemau yma yng Nghymru, ac rydym ni'n parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol dim ond yr wythnos diwethaf, ynghylch y swm atodol i'r £20, ac i geisio cadw hwnnw, fel y gwnaeth chwe Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol blaenorol.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Rhianon Passmore.