2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:27, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Mike Hedges wedi codi'r mater hwn, mater cladin, yr wythnos diwethaf, ond ar ôl hynny rwyf i wedi cyfarfod â thrigolion eraill ym Mae Caerdydd, ac rwy'n gwybod bod protest ddydd Sadwrn yma ynglŷn â'r materion cladin yng Nghaerdydd; maen nhw'n mynd o'r BBC i'r Senedd. Trefnydd, mae angen i Lywodraeth Cymru roi atebion i'r trigolion hyn. Mae angen iddyn nhw wybod faint sydd ar gael, sut y bydd modd ei ddefnyddio, cwestiynau o ran pwy sy'n gymwys i wneud cais a pha ddiffygion a gaiff eu cynnwys. A gawn ni ddatganiad cynhwysfawr gan y Gweinidog, os gwelwch yn dda, i ateb eu cwestiynau a thawelu eu pryderon cyn y toriad? Trefnydd, bydd Aelodau o bob lliw gwleidyddol, gan gynnwys eich plaid chi eich hun, yn parhau i ofyn y cwestiynau hyn nes y byddwn ni, ac yn bwysicach, y trigolion, yn cael yr atebion y maen nhw'n eu haeddu. Diolch yn fawr.