Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd a'i swyddogion wir yn gweithio'n gyflym ar y mater hwn, sy'n amlwg yn bwysig iawn i gynifer o bobl. Mae'n bwysig iawn bod ganddyn nhw le diogel i fyw ynddo, ac mae cladin, fel y gwyddom, wedi achosi risgiau ac yn gallu achosi risgiau os bydd tân, ond mae'n amlwg nad hwnnw yw'r unig bryder. Nid wyf i'n credu y bydd y Gweinidog yn gallu gwneud datganiad yr wythnos nesaf, sef yr unig wythnos sydd ar ôl cyn diwedd y tymor, yn anffodus, ond rwy'n siŵr y bydd yn hysbysu'r Aelodau pan fydd y darn hwnnw o waith wedi'i gwblhau.