Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Llywydd, gyda'r Llywodraeth newydd hon fe ddaw dyletswyddau newydd ac, o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, mae'n rhaid inni baratoi rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Fe fyddaf yn gosod y rhaglen lawn gerbron yn yr hydref, ond mae'n bleser gennyf i gyhoeddi y byddwn ni'n cyflwyno ein Bil cydgrynhoi cyntaf eleni, gan ddwyn ynghyd ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol. Mae'r ddeddfwriaeth hon, y mae llawer ohoni'n hen iawn, wedi mynd yn fwyfwy cymhleth ac fe all gyflwyno her ddryslyd i berchnogion adeiladau rhestredig neu henebion cofrestredig sy'n gallu drysu gweithwyr cyfreithiol proffesiynol hyd yn oed o bryd i'w gilydd. Fe fydd y Bil yn creu deddfwriaeth benodol, gwbl ddwyieithog i Gymru sydd mor hygyrch â phosibl, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Senedd i fynd â'r Bil hwn drwy'r broses graffu newydd a gyflwynwyd o dan Reol Sefydlog 26C.
Llywydd, yn y flwyddyn i ddod, fe fyddwn ni hefyd yn cyflawni nifer o nodau sydd ar ein rhaglen lywodraethu drwy is-ddeddfwriaeth. Fe fydd hyn yn cynnwys gwneud terfyn cyflymder safonol o 20 mya mewn ardaloedd preswyl a gwahardd parcio palmant lle bynnag y bo modd gwneud hynny.
Fel y dywedais i, fe fyddwn yn cyflwyno pecyn sylweddol o weithredu deddfwriaeth ar gyfer Deddfau pwysig a basiwyd yn y Senedd ddiwethaf. Felly fe fyddwn ni'n llunio deddfwriaeth i gefnogi ysgolion ac athrawon i gyflawni ein newidiadau radical i'r cwricwlwm i Gymru a system decach sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gefnogi dysgwyr hyd at 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Fe fyddwn ni'n rhoi'r Ddeddf rhentu cartrefi ar waith, sy'n golygu newid ar raddfa eang i'r gyfraith sy'n llywodraethu tenantiaethau preswyl yng Nghymru. Fe fydd hyn yn gwella hawl a diogelwch pobl sy'n byw yn y sector tai rhent, yn atal pobl yn cael eu troi allan yn ddialgar, yn sicrhau bod anheddau yn addas i bobl fyw ynddynt, ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i denantiaid fod â chontractau ysgrifenedig. Ac fe fyddwn ni hefyd yn rhoi darpariaethau'r Ddeddf llywodraeth leol ac etholiadau ar waith cyn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, sy'n cynnwys rhoi cydbwyllgorau corfforaethol ar waith. Fe fydd hyn yn sicrhau y gall aelodau lleol wneud penderfyniadau gyda'i gilydd ynghylch gwasanaethau llywodraeth leol pwysig er mwyn dinasyddion a chymunedau eu rhanbarthau nhw. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol, i leihau'r diffyg democrataidd, ac rydym ni'n awyddus i weld mwy o bobl yn cael eu cofrestru a mwy o bobl yn pleidleisio. I gyflawni hyn, fe fyddwn ni'n cyhoeddi cyfres o egwyddorion ar gyfer diwygio etholiadol ac yn dechrau rhaglen uchelgeisiol o ddatblygiadau arloesol ar gyfer etholiadau 2022 a 2026. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol i gyflawni cyfres o newidiadau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol a fydd yn dangos y gwerth a roddwn ni ar ddemocratiaeth a llywodraeth leol yng Nghymru.
Felly, dyma ein rhaglen ni ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond mae ein rhaglen lywodraethu ni'n nodi uchelgeisiau tymor hwy sy'n gofyn am ddeddfwriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys diddymu'r defnydd o blastig untro mwyaf cyffredin, cyflwyno ein Deddf aer glân ni, a mynd i'r afael â diogelwch adeiladau i sicrhau na fydd Grenfell arall byth yn digwydd. Fe fyddwn ni'n ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion adolygiad diweddar Comisiwn y Gyfraith o'r fframwaith henffasiwn ar gyfer rheoli tipiau glo ac yn mynd i'r afael â nhw. Serch hynny, wrth inni weithio gyda'n rhanddeiliaid mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol a chydgynhyrchu i lunio'r ddeddfwriaeth gywir, nid wyf i'n awyddus i bennu amserlenni penodol ar hyn o bryd. Ac, fel y gwelsom ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ni wyddom byth beth allai ddigwydd a fyddai'n gofyn inni ail-lunio ein cynlluniau.
Llywydd, nid yw ein rhaglen ddeddfwriaethol yn bodoli mewn gwagle. Roedd mwy nag 20 o gynigion am Fesurau'r DU yn Araith y Frenhines ym mis Mai yn debygol o gynnwys darpariaethau yn ymwneud â meysydd datganoledig, ac fe fydd yn ofynnol i'r Llywodraeth hon a'r Senedd eu hystyried nhw. Mae rhai, fel y Mesur Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a'r Bil caffael, yn amlwg yn gorgyffwrdd â chynigion yr wyf i wedi eu cyhoeddi heddiw. Mae'n rhaid inni negodi ein ffordd erbyn hyn drwy gyfyngiadau ac ansicrwydd newydd ynglŷn â'n pwerau ni sy'n deillio o Ddeddf fewnol y farchnad ac sy'n ymdrin â Llywodraeth nad yw'n rhoi fawr o sylw i swyddogaeth y Senedd hon a chonfensiwn Sewel—rhywbeth a welsom ni'n ddiweddar wrth iddo gyflwyno Bil i Gydsyniad Brenhinol heb aros am gydsyniad y ddeddfwrfa hon gan nad oedd hynny'n cyd-fynd â'u hamserlen nhw. Ond, Llywydd, ni fydd hyn yn tynnu ein sylw oddi ar gyflawni ein rhaglen unigryw i Gymru, sy'n seiliedig ar ein gwerthoedd unigryw yng Nghymru, ac rwy'n ei chymeradwyo i'r Aelodau heddiw.