Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Mae'r argyfwng o ran iechyd y cyhoedd yn parhau ac fe fydd y rheoliadau sy'n cael effaith ar ein bywydau ni yn fwy nag erioed o'r blaen yn parhau, ar hyn o bryd o leiaf, i roi gofynion cymesur ar y Llywodraeth o ran polisi a chapasiti cyfreithiol ac amser y Senedd. Er gwaethaf y dulliau cwbl newydd y bu'n rhaid i'r Senedd gynnal ei chyfarfodydd ynddyn nhw a phasio deddfwriaeth, ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe basiwyd Deddfau grymus i wneud newidiadau aruthrol mewn addysg a llywodraeth leol yn benodol. Y tymor hwn, mae'n rhaid inni fwrw ymlaen nawr â'r is-ddeddfwriaeth ar gyfer eu gweithredu, na all y Deddfau gael yr effaith a fwriedir hebddyn nhw.
Llywydd, mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi lansio cyfres o ymosodiadau na welwyd eu tebyg erioed ar bwerau a chyfrifoldebau'r ddeddfwrfa hon. Nid yw'r sylw y mae'n rhaid inni ei roi ar y cyd i'r rhaglen ddeddfwriaethol yn San Steffan wedi cael ei gyfyngu erbyn hyn i nodi ffyrdd y gellid sicrhau gwelliannau yng nghyfraith Cymru drwy gyfrwng Mesurau'r DU. Yn hytrach, mae'n rhaid inni archwilio pob Bil a gyflwynir am ffyrdd o'u defnyddio i danseilio cyfanrwydd y setliad datganoli, neu sy'n tynnu'n groes i bolisi Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar allu'r Llywodraeth hon a galwadau newydd ar swyddogaethau'r ddeddfwrfa hon o ran craffu.
Ac yna fe gawn ni'r rhaglen ddeddfwriaethol sylfaenol ei hunan. Llywydd, fe fyddaf i'n troi at gyflwyno rhagor o fanylion ynglŷn â'r gyfres gymhleth hon o ofynion deddfwriaethol, sy'n cyd-gloi, ymhen munud. Ond, yn gyntaf, fe hoffwn i fod yn glir mai dim ond dechrau taith ddeddfwriaethol y Senedd hon yw'r hyn yr wyf i'n ei nodi heddiw. Oherwydd yr ansicrwydd a'r cymhlethdodau a grybwyllwyd, rwy'n canolbwyntio heddiw ar y ddeddfwriaeth sydd i ddod ger eich bron yn y flwyddyn nesaf—ym mlwyddyn 1 y Senedd. Cyn belled â bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella fel yr ydym ni'n gobeithio, yna yn natganiad deddfwriaethol y flwyddyn nesaf fe ddylem ni fod mewn sefyllfa i ddweud mwy am yr hyn y bwriedir ei wneud yn ddiweddarach yn y tymor Seneddol hwn.
Llywydd, fe wnaeth y Llywodraeth y penderfyniad anodd y llynedd i beidio â chyflwyno dau Fil a oedd yn yr arfaeth, a chael ymgynghoriad arnyn nhw ar ffurf ddrafft, yn hytrach, ac rwy'n diolch i'r holl randdeiliaid hynny a roddodd o'u hamser nhw i gyflwyno sylwadau, y gwnaethom ni eu hystyried nhw'n ofalus, ac nid oes amheuaeth gennyf i y byddan nhw'n cryfhau ac yn gwella'r Biliau y byddwn ni'n eu cyflwyno nhw nawr.
Rydym ni wedi defnyddio'r profiad o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn ystod y pandemig wrth inni fireinio'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus, ac mae'n bleser gennyf i gadarnhau y bydd hyn yn cael ei gyflwyno ym mlwyddyn gyntaf y tymor Senedd hwn. Fe fydd yn creu cyngor partneriaeth gymdeithasol statudol a fydd yn gofyn i Weinidogion Cymru, ac i gyrff eraill, weithredu i ddilyn egwyddorion gwaith teg, a sicrhau caffael cyhoeddus sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol.
Ar ôl cydweithio'n â rhanddeiliaid, fe fyddwn ni'n cyflwyno'r Bil addysg drydyddol ac ymchwil hefyd, a fydd yn sefydlu comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Mae hyn yn hanfodol i wireddu ein gweledigaeth ni ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru. Fe fydd pwerau ariannu, cynllunio a rheoleiddio helaeth ganddo i wella ansawdd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar draws y PCET a'r sector ymchwil. Fe fydd buddiannau dysgwyr wrth wraidd hyn, ac fe fydd yn cydweithio â rhanddeiliaid a darparwyr addysg i wella canlyniadau unigol a chenedlaethol. Fe fydd ein rhaglen hirdymor ni o ddiwygio addysg yn sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl wedi'r pandemig, ac fe fydd y ddeddfwriaeth hon yn dangos eto ein hymrwymiad ni i ddysgu gydol oes.
Fe fydd yna Fil i alluogi newidiadau i Ddeddfau treth Cymru. Ar hyn o bryd, nid yw ein pwerau datganoledig ni i ddiwygio treth yn ddigonol i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau annisgwyl, megis dyfarniadau llys, bylchau neu newidiadau mewn trethi cyfatebol yn Lloegr, ac fe allai hynny gael effaith sylweddol ar rwymedigaethau unigolion ac ar ein refeniw ni. Fe fydd y Bil yn cynnig ffordd hyblyg ac ystwyth o ymateb, a chyfle i'r Senedd graffu ar newidiadau a'u cymeradwyo.
Yn dilyn ein Papur Gwyn y llynedd, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil amaethyddiaeth i greu system newydd o gymorth fferm a fydd yn sicrhau pŵer diogelu mwyaf natur drwy gyfrwng ffermio. Fe fydd hyn yn gwobrwyo ffermwyr sy'n cymryd camau i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, gan eu cefnogi nhw i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy. Fe fyddwn ni'n disodli'r pwerau amser cyfyngedig yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020, a dderbyniwyd gennym ni i ddarparu parhad a sefydlogrwydd y mae eu hangen yn fawr ar ein ffermwyr wrth inni ymadael â'r UE. Mae'r Bil yn darlunio cam cyntaf ein rhaglen diwygio amaethyddol ni, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid a ffermwyr o ran ein cynigion hirdymor.