Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
—a'u gweithgarwch nhw, ac fe allaf ddeall amharodrwydd y Llywodraeth i ychwanegu at yr heriau y mae diwydiant yn eu hwynebu o ganlyniad i Brexit a'r tswnami, a COVID. Ond un o'r pethau sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd—yn ogystal â'r terfyn cyflymder safonol o 20 mya mewn ardaloedd preswyl, sy'n cyfrannu llawer iawn at aer glân, mae angen inni reoleiddio ein bysiau ni o'r newydd hefyd, os ydym eisiau darparu cyfleoedd clir a fforddiadwy i bobl adael eu car gartref ar gyfer teithiau rheolaidd.