Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
—pan gynigiwyd atebion y gellir eu cyflawni i ni. Felly, yn hytrach na drysu'r mater hwn gydag ail gartrefi wedi'u hadeiladu at y diben hwnnw, fel yr oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, pa gamau uniongyrchol y byddwch chi yn eu cymryd nawr felly i nodi'r angen lleol penodol yn y mannau poblogaidd hyn ar gyfer cartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol ac, ar wahân, tai fforddiadwy ar gyfer rhent canolradd, neu berchentyaeth cost isel, ac yna i sicrhau mwy o gyflenwad o'r ddau fath yn y mannau poblogaidd i ddiwallu'r angen hwn?