Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Diolch. Fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd o ran ein hymgynghoriad ar Bapur Gwyn 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth' ar 9 Chwefror. Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer gwella trefniadau gofal cymdeithasol er mwyn galluogi'r sector yn well i gyflawni'r weledigaeth sydd wedi'i nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Daeth yr ymgynghoriad 12 wythnos i ben ar 6 Ebrill. Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru erbyn hyn.
Felly, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch personol i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad. Mae'r crynodeb hwn o'r adroddiad ymatebion yn rhoi trosolwg o'r amrywiaeth gyfoethog a sylweddol o farn a safbwyntiau a gafodd eu cynnig mewn dros 150 o ymatebion. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cydnabod yr heriau a oedd wedi eu nodi yn yr achos dros newid. Roedden nhw'n cytuno ar y cynigion ar gyfer system symlach sy'n seiliedig ar ganlyniadau, yn canolbwyntio ar ansawdd a gwerth cymdeithasol, wedi ei harwain yn strategol ac nid yn adweithiol, ac wedi ei gwreiddio mewn gwaith partneriaeth ac integredig.
Roedd y mwyafrif llethol yn credu bod cymhlethdod y sector yn rhwystr i wella gwasanaethau. Roedd cyfran sylweddol o'r ymatebion yn cytuno bod arferion comisiynu yn canolbwyntio'n anghymesur ar gaffael. Am y rhesymau hyn, roedd cefnogaeth eang i fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth a mwy o bwyslais ar gomisiynu yn ôl ansawdd, canlyniadau, hawliau a lles. Teimlai ymatebwyr y gallai fframwaith cenedlaethol leihau cymhlethdod a dyblygu. Roedd llawer o'r farn y gallai'r fframwaith hefyd annog a hwyluso integreiddio a chomisiynu ar y cyd rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn ogystal, disgrifiodd yr ymatebion gyfle pwysig i gryfhau partneriaethau rhwng comisiynwyr, cymunedau a darparwyr i gyd-gynllunio atebion lleol â dychymyg er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i unigolion wrth sicrhau gwerth am arian.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn y dylai'r swyddfa genedlaethol gyfuno grwpiau cenedlaethol presennol lle mae gwerth ychwanegol, er mwyn lleihau dyblygu, cyfuno adnoddau a galluogi gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd. Roedd y safbwyntiau ar leoliad y swyddfa genedlaethol yn amrywio. Nid oedd y rhan fwyaf o ymatebion llywodraeth leol yn cefnogi newid strwythurol, ond roedd eraill o'r farn bod angen i swyddfa genedlaethol fod yn annibynnol ar y Llywodraeth er mwyn dwyn partneriaid i gyfrif a meithrin perthynas â'r farchnad.
O ran byrddau partneriaeth rhanbarthol, roedd dros hanner yr ymatebwyr yn credu eu bod wedi eu cyfyngu gan eu dyluniad a'u strwythur. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr hyn yn dod o'r trydydd sector, y sector annibynnol a gan ddinasyddion. Roedd galwadau am adolygiad ffurfiol o strwythurau ac aelodaeth byrddau partneriaeth rhanbarthol i fod yn rhan o unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol. Roedd y rhan fwyaf o gyrff statudol o'r farn bod pwerau deddfwriaethol yn ddigonol i alluogi byrddau partneriaeth rhanbarthol i ymgymryd â'u cyfrifoldebau presennol. Roedd yr ymatebion hyn yn pwysleisio bod partneriaethau yn ymwneud ag ymddiriedaeth a pherthynas, a bod angen i bartneriaid gydweithio i gyflawni'r newid angenrheidiol. Cafodd llawer o enghreifftiau eu darparu gan bob sector ynglŷn â sut y byddai modd cryfhau byrddau partneriaeth rhanbarthol, naill ai yn eu fformat presennol neu fel endidau cyfreithiol.
Rydym yn gwybod bod angen i bartneriaid weithio gyda'i gilydd ar nifer o lefelau i ddiwallu anghenion pobl. Roedd y trydydd sector yn glir bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn anodd eu llywio ar gyfer unigolion. Gan ychwanegu at y gwaith partneriaeth cryf a welwyd yn ystod pandemig COVID, rwyf i'n awyddus i weld partneriaethau effeithiol yn ffynnu ar lefel clwstwr, awdurdod lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
O ran y Gymraeg, nododd nifer o ymatebion anawsterau o ran darparu gwasanaethau Cymraeg ar lefel leol, a'r heriau y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ran dyletswyddau presennol y Gymraeg. Roedd consensws bod yn rhaid i'r Gymraeg fod wrth wraidd datblygu polisi yn y dyfodol, ac os caiff corff newydd ei sefydlu, y dylai fod yn ofynnol iddo gydymffurfio â safonau'r Gymraeg.
Mynegodd ymatebwyr ymrwymiad clir a llethol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynigion polisi hyn ymhellach. Yn unol â'n rhaglen lywodraethu, rwyf i wedi ymrwymo i gyflwyno fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth ac i gryfhau partneriaethau i gyflawni dros bobl Cymru. Bydd y ffordd yr ydym yn gwneud hynny yn cael ei llywio gan adborth yr ymgynghoriad a thrwy ymgysylltu eto â'r sector.
Mae'n bwysig edrych i'r dyfodol a sut yr ydym yn datblygu system decach yn ôl. Glasbrint yw ein cynigion Papur Gwyn ar gyfer sector gofal a chymorth cryfach, mwy cytbwys. Maen nhw'n ymwneud ag atebion hirdymor i wella ein system a sicrhau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn parhau i annog pawb sydd â diddordeb i gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth o sicrhau lles i bobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw a gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw. Diolch yn fawr.