Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am godi'r pwnc pwysig hwn am wasanaethau deintyddol ar gyfer pobl mewn cartrefi gofal. Fel y mae Aelodau'n gwybod, nod rhaglen Gwên am Byth, a gyflwynwyd yn 2015, sydd wedi'i chyfeirio ati, yw gwella hylendid y geg a gofal y geg ar gyfer pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal drwy ddatblygu dull cyson ar draws Cymru gyfan. Nawr, mae'r rhaglen yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau bod gan rai o'r bobl fwyaf agored i niwed fynediad teg ac addas at ofal iechyd y GIG. Rŷn ni'n gwybod bod iechyd y geg cynifer o'r bobl hynny yn gwaethygu pan fyddant yn symud i gartrefi gofal, yn aml o ganlyniad i ddirywiad yn eu hiechyd a'r ffaith nad ydyn nhw wedi bod yn symud gymaint yn y blynyddoedd cyn hynny, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia.
Mae Gwên am Byth yn cyd-fynd â 'Cymru Iachach', ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y GIG. Mae egwyddorion y rhaglen yn gofyn i gartrefi gofal sicrhau y pethau canlynol: y peth cyntaf yw bod polisi gofal ceg cyfredol ar waith; yn ail, bod staff yn cael eu hyfforddi mewn gofal y geg; yn drydydd, bod preswylwyr yn cael asesiad gofal y geg yn gyson; yn bedwerydd, bod yr asesiad yn arwain at gynllun gofal unigol, gyda'r nod o helpu i gynnal hylendid ceg da; ac yn bumed, bod preswylwyr yn cael eu cyfeirio at y tîm deintyddol pan fo angen.
Mae ein profiad yn dilyn pum mlynedd gyntaf y rhaglen wedi dangos bod sicrhau gwell iechyd y geg i bobl mewn cartrefi gofal yn gymhleth ac yn heriol. Mae dros hanner cartrefi gofal bellach yn cymryd rhan yn rhaglen Gwên am Byth, ac mae bron 8,000 o breswylwyr yn cymryd rhan. Rŷn ni wedi cael adborth cadarnhaol gan staff cartrefi gofal, preswylwyr, gofalwyr a gwasanaethau deintyddol cymunedol sy'n darparu'r rhaglen. O ganlyniad i'r cynnydd sy'n cael ei wneud, yn 2019 cyhoeddodd fy rhagflaenydd y byddai'r cyllid yn cael ei ddyblu i £0.5 miliwn, a dwi'n falch bod Peredur wedi nodi hyn. Diolch am hynny.
Mae'r rhaglen bellach yn rhan allweddol o raglen Cartref Gofal Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i darparu gan Gwelliant Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd. Mae integreiddio gyda Gwelliant Cymru wedi cryfhau Gwên am Byth ymhellach fel rhan annatod o waith cenedlaethol Cymru i wella iechyd y geg ymhlith oedolion.
Dŷn ni ddim yn cael llawer o drafodaethau ar y funud hon sydd ddim yn sôn am yr effaith enfawr y mae pandemig COVID wedi cael ar ddarpariaeth ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys amharu ar wasanaethau deintyddol cyffredinol a rhaglenni iechyd y geg i boblogaethau ar draws Cymru. Yr wythnos diwethaf, fel nodoch chi, rhannais i ddatganiad ysgrifenedig gydag Aelodau yn amlinellu'r cynnydd graddol mewn gwasanaethau deintyddol, a chadarnhau y bydd yr elfen diwygio contractau o'r newidiadau i'r system rŷn ni'n rhagweld yn cael ei gohirio tan fis Ebrill 2022. A thra bod COVID-19 yn parhau i beri pryder o ran iechyd y cyhoedd, mae angen i dimau deintyddol gynnal y mesurau rheoli heintiau.
Yn ystod pandemig feirws anadlol, mae deintyddiaeth wedi bod yn un o'r meysydd gofal sylfaenol mwyaf cymhleth i geisio ei leihau, ei ddarparu a'i adfer, yn arbennig o ystyried pa mor gyffredin yw triniaeth aerosol fel llenwadau, a pha mor agos yw'r clinigwr i'r person wrth ddarparu gofal deintyddol. Es i i'r deintydd yr wythnos diwethaf, a phan ddaeth y deintydd mewn, roedd e fel gweld rhywun oedd newydd ddod o gerdded ar y lleuad; roedd cymaint o offer arnyn nhw. Wrth i wasanaethau gynyddu eu capasiti yn raddol, mae timau deintyddol yn parhau i flaenoriaethu gofal brys. Maen nhw'n delio ag anghenion grwpiau sy'n agored i niwed, ac yn ymdrin â rhestr aros hir ar gyfer triniaethau yn sgil lleihau gwasanaethau deintyddol ac yn ailgyflwyno asesiadau a gofal rheolaidd wrth i'r capasiti gynyddu. Bydd rhai o'r bobl hynny sy'n agored i niwed ac angen gofal brys yn cynnwys pobl mewn cartrefi gofal sy'n rhan o raglen Gwên am Byth.