Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Nawr, gwyddom fod hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn, ac rydym yn cydnabod yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar aelodau unigol o'r tîm deintyddol ac ar y proffesiwn cyfan. Wrth i beryglon COVID-19 leihau, bydd modd darparu mwy o driniaethau. Nawr, mae arnom angen i bractisau deintyddol barhau i ddilyn mesurau llym ar gyfer rheoli heintiau, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, i ddiogelu staff practisau, cleifion a'r gymuned ehangach. Anogir practisau i weld cleifion gan ddefnyddio cyfnodau ailalw addas, wedi'u pennu yn ôl anghenion a risg eu cleifion.
Nawr, o ystyried yr angen i warchod preswylwyr sy'n agored i niwed mewn cartrefi gofal, cafodd ymgysylltiad wyneb yn wyneb gweithredol yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig ei oedi. Nid oedd y rhan fwyaf o weithwyr gofal deintyddol proffesiynol yn gallu mynd at staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn uniongyrchol ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb ar y pryd, sef yr hyn rydych chi wedi'i nodi. Fodd bynnag, parhaodd llawer o dimau deintyddol cymunedol lleol mewn cysylltiad â'r cartrefi gofal drwy e-bost a chyswllt galwadau ffôn. Sefydlwyd y Cwtsh Cartrefi Gofal—rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid i reolwyr cartrefi gofal—gan Cartrefi Gofal Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i gynorthwyo rheolwyr cartrefi gofal yn ystod a thu hwnt i'r pandemig. Nawr, mae'r llwyfan hwn yn rhoi cyfle i Gwên am Byth arwain at integreiddio â staff cartrefi gofal i ddarparu gwybodaeth am iechyd a hylendid y geg a sesiynau datblygu sgiliau.
Mae rheoli heintiau ac ynysu mewn cartrefi gofal yn llawer anos nag yn amgylchedd clinigol rheoledig ysbyty neu glinig deintyddol. Yn aml, mae gan bobl sy'n derbyn gofal cymdeithasol gyflyrau isorweddol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o gael eu heintio ac o farw o COVID-19. Mae rhai pobl angen cymorth corfforol gydag agweddau ar fywyd bob dydd, fel bwyta, ymolchi a gofal y geg, gan wneud ynysu llwyr yn anodd iawn iddynt. Nawr, mae hyn wedi ychwanegu cymhlethdod pellach at ddarpariaeth y rhaglen yn ystod y pandemig.
Mae'r angen am gyswllt wyneb yn wyneb mewn cartrefi gofal yn cael ei adolygu'n rheolaidd, a bydd timau lleol yn cael eu harwain gan ddarparwyr gwasanaethau ar lefel y gweithgarwch ym mhob cartref gofal. Mae timau Gwên am Byth wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chartrefi gofal drwy gydol y pandemig, tra'n monitro a rheoli anghenion sy'n dod i'r amlwg lle bo'n briodol. Mae hyn wedi sicrhau dull o weithredu a oedd yn blaenoriaethu anghenion brys, yn ogystal â darparu gwasanaethau deintyddol yn ehangach yng Nghymru. Ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r gwasanaethau deintyddol cymunedol ledled Cymru am yr ymdrechion y maent wedi'u gwneud i sicrhau y gall preswylwyr cartrefi gofal gael cyngor ac ymyriadau lle bo'n briodol drwy gydol y pandemig.
Nawr, lawn cymaint â heriau a chymhlethdod darparu gwasanaethau deintyddol, rwy'n cydnabod yn llawn yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael mewn cartrefi gofal. A thynnir sylw at y ffaith bod gan gartrefi gofal wahanol lefelau o brofiad neu adnoddau gweithlu i allu cymryd rhan lawn yn rhaglen Gwên am Byth. Mae'n ganmoladwy fod llawer o gartrefi gofal eisoes wedi ymgysylltu'n llawn â'r rhaglen a'u bod yn cyflawni rhagoriaeth o ran safonau gofal y geg. Fodd bynnag, erys y nod a oedd gennym cyn y pandemig: rydym yn disgwyl gweld bod y rhaglen ar gael ac yn cael ei chynnig ym mhob cartref gofal i bobl hŷn yng Nghymru.
Er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn ac ehangu mynediad at y rhaglen, rwyf wedi cyflwyno cynnig a dull gweithredu symlach gyda'r bwriad o gynorthwyo mwy o gartrefi gofal i gyrraedd y safonau gofynnol hanfodol a chymryd rhan. Fe'i gelwir yn Gwên am Byth Hanfodol. Bydd y cartrefi sydd eisoes yn cymryd rhan lawn yn parhau i gael eu cefnogi i gynnal rhagoriaeth o ran safonau gofal y geg. Gellir cychwyn y dull symlach mewn cartrefi gofal nad ydynt wedi dechrau'r rhaglen neu sydd wedi ei chael hi'n anodd cydymffurfio â'r dull presennol i Gymru gyfan. Drwy fabwysiadu'r dull hwn, gellir cynnwys pob cartref gofal ledled Cymru yn y rhaglen, a gall pob preswylydd elwa o'r manteision sy'n cael eu cynnig drwy Gwên am Byth. Mae'r rhaglen, gan gynnwys cynnig Gwên am Byth Hanfodol, bellach yn ailddechrau.
Gyda llwyddiant cyflwyno'r brechlyn, y defnydd o hyfforddiant digidol ac argaeledd dyfeisiau llif unffordd, mae'r risg i staff deintyddol cymunedol o fynd i gartrefi gofal bellach yn llawer iawn llai. Mae'r adferiad yn mynd rhagddo'n dda, ac rydym wedi ymgorffori gwersi o'r pandemig yn y rhaglen wrth inni edrych ymlaen, gan gynnwys mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol i ddarparu'r elfen hyfforddi, a fydd yn arwain at wneud y cynnig i bob cartref gofal preswyl yng Nghymru. Wrth i'r gwasanaethau barhau i ymadfer, rwy'n gobeithio y bydd y cynnig symlach yn galluogi pob cartref gofal i fod yn rhan o'r rhaglen hon, gan sicrhau bod gan rai o'n grwpiau mwyaf agored i niwed fynediad at y darpariaethau iechyd y geg sydd eu hangen arnynt. Ond diolch yn fawr am dynnu sylw'r Senedd at y mater pwysig hwn. Diolch.