Twristiaeth yn Sir Ddinbych

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:35, 7 Gorffennaf 2021

Diolch, Llywydd. Yr hyn dwi eisiau ei wneud yw tynnu sylw'r Gweinidog at gynlluniau sydd ar droed i greu llwybr beicio o Ruthun i Ddinbych ar hyd dyffryn Clwyd. Mi fyddai'r llwybr yma, wrth gwrs, yn cysylltu'r ddwy dref i drigolion lleol, o safbwynt teithio lesol, sydd, wrth gwrs, dwi'n gwybod, yn rhan bwysig o'r hyn mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w hyrwyddo. Ond mi fyddai fe hefyd yn cynnig atyniad ychwanegol i dwristiaeth wrth gysylltu dwy drefn farchnad hanesyddol, dau gastell canol oesol, wrth gwrs, a dilyn, gobeithio, hen lwybr y rheilffordd i lawr y dyffryn. Felly, yr hyn dwi eisiau ei wneud yw gwahodd y Gweinidog, pan fyddwch chi yn y cyffiniau, i ddod gyda fi i gwrdd â'r criw sy'n ceisio gwireddu'r llwybr yma, dan arweiniad y Cynghorydd Emrys Wynne, i weld y cynlluniau ac i weld y llwybr arfaethedig drosoch chi eich hun, gan gofio hefyd, wrth gwrs, fod yna gynlluniau cyffrous ar droed i adeiladu felodrom awyr agored yng ngogledd Cymru yn Rhuthun hefyd. Mi fyddai creu llwybr beicio i gysylltu'r dref â'r ardal ehangach yn sicr yn gaffaeliad mawr o safbwynt amgylcheddol, ond hefyd, wrth gwrs, fel bydd y Gweinidog dwi'n siŵr yn ei gydnabod, o safbwynt twristiaeth a'r economi leol.