Twristiaeth yn Sir Ddinbych

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:36, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Iawn, rwy’n cydnabod y realiti fod teithio llesol yn darparu cyfleoedd newydd i hyrwyddo twristiaeth mewn sawl rhan o Gymru, ac mae’r fenter y mae’r Aelod yn ei nodi yn enghraifft dda o’r potensial hwnnw. Nid wyf yn siŵr y gallaf roi sicrwydd llwyr iddo y byddaf yn ymweld; rwy'n cael llawer o gyfleoedd a gwahoddiadau i ymweld â gwahanol rannau o Gymru. Ond rwy'n fwy na pharod i fod â mwy o ddiddordeb nid yn unig yn y potensial twristiaeth, ond yn amlwg, gyda chyd-Aelodau sy'n gyfrifol am deithio llesol, i weld sut y gallwn gefnogi'r fenter a nodwyd gan yr Aelod.FootnoteLink