Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Yn amlwg, os na fydd Llywodraeth y DU yn rhoi ystyriaeth briodol i'r hyn a fydd yn digwydd nesaf gyda'r pandemig y mae pob un ohonom am ei weld yn dod i ben, gallai hynny arwain at ganlyniadau sylweddol o ran iechyd y cyhoedd a'r economi, ac mae digon o sylwebaeth ynglŷn â hynny ac ynglŷn â chydbwyso risg yn y dewis y mae Prif Weinidog y DU wedi'i wneud ar gyfer Lloegr mewn perthynas ag ailagor a'r hyn y gallai hynny ei olygu o ran nifer yr achosion o'r haint, y mae eu gwaith modelu eu hunain wedi dangos y bydd yn cynyddu'n sylweddol.
Nawr, yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud penderfyniadau bwriadol ynghylch cefnogi busnesau gyda chymorth mwy hael i fusnesau fel y gallant oroesi'r pandemig. Dyna pam y bu modd imi gyhoeddi'r cam pellach o gymorth i fusnesau tan ddiwedd mis Awst, felly ceir rhywfaint o sicrwydd ychwanegol i fusnesau wrth inni barhau i wneud penderfyniadau ynglŷn ag ailagor. Ac roeddwn yn falch o ddarparu sesiwn friffio i chi, ac yn wir, gwnaed y cynnig i lefarydd y Ceidwadwyr hefyd.
Yr her i ni, serch hynny, fydd meddwl sut y gallwn wneud hynny'n fwy llwyddiannus yn y dyfodol a'r adnoddau rydym wedi'u cadw i gefnogi busnesau. Nawr, rydym yn y sefyllfa hon am ein bod wedi rheoli agweddau eraill ar y pandemig mewn ffordd wahanol. Felly, mae gennym fwy o le i symud am ein bod wedi caffael cyfarpar diogelu personol mewn ffordd wahanol, am lai o gost ac yn fwy effeithlon, ac nid ydych wedi gweld unrhyw fath o lwybr i'r breintiedig yng Nghymru gan nad oes un yn bodoli. Hefyd, mae gennym wasanaeth profi, olrhain a diogelu llawer mwy effeithlon sy'n costio llai o lawer na'r system yn Lloegr. Mae hynny wedi rhoi mwy o le i symud er mwyn i ni allu bod yn fwy hael gyda'n cymorth i fusnesau. Rwyf eisoes yn gweithio gyda swyddogion ac yn cael sgyrsiau gyda sectorau busnes ynglŷn â sut y gallem eu cefnogi yn ystod yr adferiad gyda'r adnoddau sydd ar gael.
Wrth gwrs, gallai'r holl bethau hynny fynd i gyfeiriad gwahanol. Yn hytrach na buddsoddi yn yr adferiad a buddsoddi yn sgiliau'r dyfodol ac mewn arloesi, efallai y bydd angen inni fynd yn ôl i fuddsoddi mewn mwy o gymorth brys. Mae gennym rywfaint o allu i wneud hynny, ond os bydd y pandemig yn mynd i gyfeiriad annisgwyl arall, byddem yn disgwyl, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU ddarparu adnoddau'r DU i fusnesau ledled y DU pe baem yn y sefyllfa honno. Ond rwy'n obeithiol y bydd modd inni wneud dewisiadau cadarnhaol yn y dyfodol gan sicrhau cydbwysedd priodol rhwng iechyd y cyhoedd a'n dyfodol economaidd.