1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy groesawu’r datganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog a ddarparwyd i'r holl Aelodau yr wythnos diwethaf ar gynigion Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ailstrwythuro'r gynghrair merched yng Nghymru? Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn cytuno â'r weledigaeth o ddatblygu a gwella'r gêm i fenywod yng Nghymru, ond yn anffodus, er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu ad-drefnu strwythur y gynghrair i fenywod yng Nghymru mewn ffordd y mae gan sawl un ohonom amheuon difrifol yn ei chylch.
Mae a wnelo chwaraeon â theilyngdod, a dyna fel y dylai fod, ac mae codi a disgyn rhwng adrannau'n rhan o'r gêm, ond y canlyniadau ar y cae a ddylai benderfynu hynny. Felly, gyda hynny mewn golwg, hoffwn fynegi fy siom fod timau menywod Llansawel, Cascade a'r Fenni wedi disgyn o uwch adran gêm y menywod fel rhan o'r ailstrwythuro. Er y gwn ei fod yn benderfyniad a wnaed gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac nid gan Lywodraeth Gymru, Weinidog, a gaf fi ofyn pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynglŷn â'r mater hwn, a pha gymorth y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i'r clybiau yr effeithiwyd arnynt yn annheg gan y newid?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac am y cyfarfod a gefais gydag ef ar 24 Mehefin, pan wnaethom drafod y mater hwn? Wedi hynny, cyfarfûm â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a gwnaethant sawl ymrwymiad rwy'n disgwyl iddynt gadw atynt. Yn gyntaf, gwnaethant gytuno i gyfarfod â'r clybiau yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau ac i drafod unrhyw gymorth pellach y gallai fod ei angen arnynt. Ac rwy'n deall bod cyfarfod cadarnhaol eisoes wedi'i gynnal gyda thîm menywod Cascade, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi dweud y byddant yn sefydlu fforwm chwaraewyr ar gyfer haenau 1 a 2 a fydd yn cyfarfod yn fisol ac yn galluogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddeall materion yn well o safbwynt y chwaraewyr. Ac maent hefyd yn rhoi adborth i FIFA fod angen i chwaraewyr benywaidd chwarae rhan fwy yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu gêm.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn derbyn bod angen iddynt fyfyrio ar sut y gwnaethant gyfleu'r newidiadau hyn yn gyhoeddus, ac maent hefyd wedi ymrwymo i gynnal deialog agosach â Llywodraeth Cymru drwy gyfarfodydd misol â swyddogion, a chyda minnau hefyd. Ond yn y pen draw, mater i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yw ailstrwythuro gêm y menywod yng Nghymru, ond rwy'n disgwyl iddynt gadw at yr ymrwymiadau y maent wedi'u rhoi i mi.
A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb, Ddirprwy Weinidog? Felly, yn unol â'r thema chwaraeon, hoffwn droi yn awr at ddigwyddiadau chwaraeon peilot a gynhaliwyd yng Nghymru. Mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog fis yn ôl, gofynnais am ddiweddariad ar ddigwyddiadau chwaraeon peilot a gynhaliwyd ledled Cymru dros yr wythnosau cyn hynny. Yn ei ateb, dywedodd y byddai set arall o ddigwyddiadau peilot yn cael eu cynnal. Ond yn anffodus, ers iddo ateb y cwestiwn hwnnw, nid oes amserlen bellach wedi ei rhoi, ac ni ddywedodd yn benodol ychwaith pryd y byddai'r amserlen hon yn cael ei darparu. Felly, a gaf fi ofyn i chi pryd y gall y Senedd ddisgwyl mwy o wybodaeth am y set bellach o ddigwyddiadau peilot a addawyd gan y Prif Weinidog?
Ac yn ail, rydym hefyd wedi gweld yn Lloegr, gyda'r Rhaglen Ymchwil i Ddigwyddiadau, pan fynychodd dros 58,000 o bobl ddigwyddiadau dan do ac awyr agored, gan gynnwys gemau yn stadiwm Wembley, na fu unrhyw niferoedd sylweddol o achosion yn gysylltiedig â'r digwyddiadau hyn. Felly, gwyddom y gellir cynnal digwyddiadau chwaraeon yn ddiogel yn Lloegr. Er ein bod wedi gweld canfyddiadau manwl o'r digwyddiadau cam 1 hyn, nid ydym wedi gweld canfyddiadau digwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru eto. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau pa gymorth sydd ar gael i glybiau sy'n dal i orfod cyfyngu ar faint o gefnogwyr a all ddod i'w stadiwm? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi canfyddiadau ei chynllun digwyddiadau peilot cychwynnol fel y gallwn weld a ellir cynnal y digwyddiadau chwaraeon hyn yn ddiogel yng Nghymru, fel y gwnaethant yn Lloegr, ac fel y gall yr Aelodau o'r Senedd hon a'r cyhoedd ddeall y sail resymegol dros unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol?
Fel y gŵyr yr Aelod, roedd cam 2 y digwyddiadau peilot yn cynnwys naw digwyddiad yma yng Nghymru, gan gynnwys Eid a Tafwyl yng nghastell Caerdydd, Gwarchod y Gwenyn yn Aberhonddu a gêm Cymru yn erbyn Albania. Cwblhawyd pob un o'r rheini'n llwyddiannus a bydd gwaith ar yr adroddiad terfynol yn cael ei gwblhau cyn bo hir. Cyn hynny, mae llawer o'r canfyddiadau eisoes wedi llywio rhai o'r canllawiau diwygiedig ar gyfer digwyddiadau. Rydym yn dal i gael trafodaethau manwl gyda threfnwyr digwyddiadau ynghylch trydydd cam y digwyddiadau peilot, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau dan do. Felly, bydd y penderfyniadau ar y ffordd ymlaen o ran llacio pellach ar gyfyngiadau ar ddigwyddiadau yn digwydd yn yr adolygiad 21 diwrnod, ac rydym yn derbyn yn llwyr, wrth gwrs, fod gwerth digwyddiadau i'n heconomi ymwelwyr yn sylweddol, ac felly mae angen inni barhau i gefnogi'r sector drwy gydol y cam nesaf.
Credaf ei bod hi'n bwysig dweud, mae'n debyg, wrth edrych ar yr adroddiad a gawsom ar y digwyddiadau peilot yn Lloegr, nad ydynt yn rhoi cymaint o wybodaeth ar hyn o bryd â'r hyn sydd ei angen arnom ynglŷn â throsglwyddiad y feirws yn y digwyddiadau hynny. Ychydig iawn o brofion a gynhaliwyd ar ôl y digwyddiadau. Mae cryn dipyn y mae angen inni ei ystyried pan ydym yn dal i fynd i'r afael â'r cynnydd yn yr amrywiolyn delta ar hyn o bryd. Ond mae'r rhaglen ar gyfer y trydydd cam yn parhau, mae digwyddiadau prawf pellach ar y gweill, a chyhoeddir y manylion cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.
Diolch am eich ateb. Yn anffodus, mae ychydig o anghysondeb o hyd o ran caniatáu gwylwyr i ddychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon a chlybiau chwaraeon ledled Cymru. Felly, wrth i gefnogwyr ddychwelyd i stadia mewn niferoedd llai, mae rhai o anghysondebau'r rheoliadau COVID yng nghyswllt chwaraeon hefyd wedi cael eu dwyn i fy sylw. Er ei bod yn wych gweld rhai o gefnogwyr Cymru yn dychwelyd i gefnogi tîm rygbi Cymru yn stadiwm Principality ar gyfer y set ddiweddaraf o gemau rhyngwladol, yn ogystal â rhai cefnogwyr yn dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon eraill, mae'r rheolau ynglŷn â hyn yn parhau i fod yn aneglur. Felly, er enghraifft, yn stadiwm Principality, gofynnir i gefnogwyr wisgo masgiau o gwmpas y lleoliad ond gallant eu tynnu pan fyddant yn eu seddau. Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y gall hyd at 100 o gefnogwyr ddychwelyd i gemau Uwch Gynghrair Cymru. Maent hefyd wedi dweud bod yn rhaid gwisgo masgiau bob amser, yn ogystal â gwirio tymheredd a chwblhau holiadur meddygol wrth fynd i mewn, er nad yw hynny'n ofynnol gan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer eu gemau hwy. Mae Criced Morgannwg wedi dweud nad oes angen gwisgo masgiau wrth eistedd, ond fel Undeb Rygbi Cymru, mae angen eu gwisgo wrth gerdded o gwmpas y stadiwm, yn ogystal â gwirio tymheredd wrth fynd i mewn, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ond yn wahanol i Undeb Rygbi Cymru. Felly, mae yna anghysondeb amlwg yno hefyd.
Ceir problem hefyd mewn perthynas â swigod aelwydydd. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn eu canllawiau ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru, a Chriced Morgannwg wedi dweud na chaiff y rheini nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd eistedd gyda'i gilydd, ond dywed gwefan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer deiliaid tocynnau ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn, 'Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, nid oes cyfyngiad ar bwy y gallwch fynychu gyda hwy', sy'n wahanol eto i'r rheol chwech, er enghraifft, mewn tafarndai a bwytai. Er fy mod yn deall mai cyfrifoldeb y Gweinidog iechyd yw llunio rheoliadau COVID, eich rôl chi fel y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon yw sicrhau bod gan sefydliadau chwaraeon ddealltwriaeth gyson o reoliadau Llywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd, mae rhai o'r sefydliadau chwaraeon mwyaf yng Nghymru yn dehongli rheoliadau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn mewn ffyrdd tra gwahanol. Felly, a gaf fi ofyn: pa gamau rydych yn eu cymryd nid yn unig i sicrhau bod gan bob corff chwaraeon ddealltwriaeth gyson o'r rheoliadau, ond hefyd fod cefnogwyr sy'n mynychu digwyddiadau chwaraeon yn cael eu trin yr un mor deg â phobl sy'n mynychu lleoliadau eraill, fel tafarndai a bwytai?
Credaf fod y canllawiau a roddwyd i'r holl sefydliadau hyn yn gyson. Mater i'r sefydliadau eu hunain yw cynnal eu hasesiadau risg eu hunain yn seiliedig ar eu lleoliadau, eu niferoedd a sut y byddant yn diogelu yn erbyn yr haint. Felly, boed yn ddigwyddiad dan do neu'n ddigwyddiad awyr agored, mae'r canllawiau'n gyson. Yr hyn nad yw'n gyson, o reidrwydd, yw'r penderfyniadau y mae trefnwyr y digwyddiadau hynny'n eu gwneud ynglŷn â'r lleoliadau a'r niferoedd dan sylw, gan fod hynny'n dibynnu ar yr asesiad risg unigol ar gyfer pob digwyddiad.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod yn croesawu'r ffaith bod y cymorth cyfredol i fusnesau wedi'i ymestyn tan ddiwedd mis Awst, ac roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle, wrth gwrs, a ddarparwyd gan y Gweinidog i gael sesiwn friffio cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud. Ond wrth gwrs, rhai o'r sectorau sy'n cael eu taro galetaf yw'r rheini sy'n dibynnu ar aelodau'r cyhoedd yn cymysgu dan do ac yn agos at ei gilydd, ac mae pob un ohonynt yn weithgareddau sydd naill ai wedi wynebu cyfyngiadau difrifol neu wedi'u gwahardd yn gyfreithiol am ran helaeth o'r flwyddyn ddiwethaf. Er enghraifft, mae'r cyfyngiadau hyn wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau a sefydliadau yn y sector diwylliant, megis theatrau, lleoliadau cerddoriaeth fyw a chlybiau nos. Y diwydiant nos yw pumed diwydiant mwyaf y DU, ond erbyn i glybiau nos allu ailagor, amcangyfrifir y bydd 40 y cant i 50 y cant yn llai ohonynt yn weithredol o gymharu â'r ffigurau cyn COVID. Er bod clybiau nos yn deall eu bod ar gau er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, maent yn teimlo bod yna ddiffyg eglurder sylweddol mewn perthynas ag ailagor.
Wrth gwrs, nid oes modd rhagweld trywydd y pandemig ac ni allwn syrthio i'r fagl o nodi dyddiadau mympwyol ar gyfer ailagor, ond fel y mae pethau, nid oes gan y sector diwylliant unrhyw syniad sut y bydd ailagor yn gweithio. Er bod y cymorth ariannol a ddarparwyd i'r sector wedi'i groesawu, wrth gwrs, bydd angen amser ar fusnesau i baratoi i weithredu; o'm profiad personol, mae hynny'n aml yn golygu oddeutu pedair wythnos o rybudd, a sawl mis mewn rhai achosion. Hyd yn oed os na allant agor yn gyfan gwbl ar hyn o bryd, byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod rhai manylion. Felly, a all y Llywodraeth ddarparu amlinelliad o'r union amodau a fydd yn caniatáu i'r diwydiant ailagor, ac a fydda'n gysylltiedig â'r rhaglen frechu a/neu'r gyfradd heintio er enghraifft, a sut y bydd ailagor yn gweithio i leoliadau lle mae pobl yn agos at ei gilydd yn gorfforol?
Credaf mai'r her wrth roi ateb gonest i'r cwestiwn hwnnw yw nad ydym yn gwybod beth yw'r holl broblemau sy'n codi gyda hynny, ac mae'n rhaid inni fod yn onest ynglŷn â hyn. Gwyddom ein bod ynghanol ymchwydd sylweddol o heintiau coronafeirws. Gwyddom fod y berthynas rhwng yr haint a niwed yn wahanol. Dyma pam nad yw'r gyfradd o bobl mewn ysbytai a marwolaethau wedi codi yn y ffordd a welsom yn y gorffennol. Ac a dweud y gwir, gyda'r cyfraddau a welwn heddiw, pe na bai'r rhaglen frechu wedi bod mor llwyddiannus, byddem eisoes wedi mynd i'r cyfeiriad arall. Nawr, mae hynny'n newyddion da, gan ei fod yn dangos bod gennym fwy o le i symud. Yr hyn na allwn ei ddweud, serch hynny, yw, 'Mae gennym fformiwla bendant yn awr sy'n dweud wrthym faint o niwed a fyddai'n cael ei achosi a'r lle ychwanegol sydd gennym i symud.' Rydym yn gweithio drwy hynny, serch hynny, a'r hyn na allaf ei wneud yw achub y blaen ar y sgyrsiau nad ydym wedi'u gorffen o fewn y Llywodraeth gyda'r cyngor gan ein cynghorwyr gwyddonol nad yw'n derfynol eto, ac yn wir, y cyngor gan ein cynghorwyr iechyd cyhoeddus hefyd. Fodd bynnag, ar draws y Llywodraeth rydym yn deall ein bod mewn cyfnod yn awr lle mae cydbwyso'r niwed i iechyd a'r niwed economaidd a mathau eraill o niwed rydym bob amser wedi gorfod eu hystyried bellach yn symud tuag at y niwed mwy i weithgarwch economaidd. Nid yw hynny'n golygu nad oes cydbwysedd i'w gael, ond credwn ein bod mewn perthynas wahanol.
Felly, fe fyddwn yn parhau i edrych ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar y berthynas sydd wedi newid, nid wedi torri, rhwng yr haint a niwed. Byddwn yn parhau i edrych ar bwysau ar y GIG. Byddwn yn parhau i edrych ar yr effaith ar yr economi. A byddwn yn parhau i edrych ar lwyddiant y rhaglen frechu. Bydd hynny'n caniatáu inni gael y sgyrsiau sydd eisoes yn mynd rhagddynt gyda'r sector digwyddiadau, gyda'r sector lletygarwch, gydag eraill. Clybiau nos yw un o'r ychydig sectorau sydd ar gau o hyd, ac rydym yn awyddus i ddarparu'r math o bersbectif y bydd ei angen arnynt i ganiatáu iddynt ailagor yn ddiogel, ac fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth ateb cwestiynau blaenorol, i feddwl am eu prosesau eu hunain ar gyfer y canllawiau a fydd ar waith, a'u hasesiadau risg eu hunain y bydd angen iddynt eu cynnal ar gyfer eu staff a'u cwsmeriaid.
Diolch, Weinidog, a byddwn yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd y sgyrsiau'n parhau gyda'r diwydiant nos fel y gallant gael eglurder wrth inni symud ymlaen. Os caf symud ymlaen at y cynllun cadw swyddi, bydd y Gweinidog unwaith eto'n ymwybodol wrth gwrs ein bod wedi cael sawl trafodaeth y tu allan i'r Siambr ar y pwnc hwn. Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau'r broses raddol o ddirwyn y cynllun cadw swyddi i ben. Ers 1 Gorffennaf, bydd y Llywodraeth yn gostwng ei chyfraniad at gyflogau gweithwyr ar ffyrlo o 80 y cant i 70 y cant, ac o 1 Awst, bydd yn talu 60 y cant o gyflog gweithiwr ar ffyrlo, gan adael i'r cyflogwyr dalu'r 10 y cant coll am y tro cyntaf—penderfyniad a fydd yn arwain at ganlyniadau sylweddol i filoedd o fusnesau ledled Cymru. Er mai pobl ifanc oedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr a roddwyd ar ffyrlo i ddechrau, mae ailagor siopau, bariau a bwytai wedi caniatáu i lawer o bobl dan 25 oed ddychwelyd i'r gwaith neu ddod o hyd i swyddi newydd yn y sectorau hynny dros y misoedd diwethaf, ond mae llawer o weithwyr a busnesau'n dal i'w chael hi'n anodd. Gallai gweithwyr hŷn wynebu risg uwch, o gofio bod oddeutu hanner y rheini sy'n dal i fod ar ffyrlo yn 45 oed neu'n hŷn, yn ôl Sefydliad Resolution, sydd wedi dweud yn eu harchwiliad o safonau byw blynyddol ar gyfer 2021 fod y patrwm hwn o weithwyr iau'n dychwelyd o fod ar ffyrlo yn gynt wedi arwain at weithwyr hŷn ar ffyrlo llawn yn wynebu'r risg fwyaf o fod allan o waith am gyfnodau hir. Amcangyfrifir bod cymaint ag un o bob pedwar aelod o staff sy'n dal i ddibynnu ar y cynllun rhwng 55 a 64 oed. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r dadansoddiad demograffig o bobl yng Nghymru sy'n dal i fod ar ffyrlo, ac a yw'r Gweinidog yn rhannu pryderon Sefydliad Resolution mai gweithwyr hŷn a allai wynebu lefelau uwch o ddiweithdra wrth i ddiwedd y cynllun ffyrlo agosáu?
Mae ein safbwynt ar wybodaeth am y farchnad lafur a'r cysylltiadau sydd gennym nid yn unig â'r arolygon ehangach ond gyda'r sectorau busnes eu hunain yn un rydym yn parhau i'w ystyried, wrth inni drafod y llwybr pellach tuag at agor rhannau o'n heconomi, fel rydym yn dal i feddwl y gellir llacio'r cyfyngiadau yn y dyfodol. Dyna'r sgwrs anghyflawn y cyfeiriais ati yn eich cwestiwn cyntaf.
Ni chredaf ei fod mor syml â dweud mai gweithwyr hŷn neu iau a fydd yn cael eu heffeithio, gan y gwyddom fod llawer o weithwyr iau wedi cael eu taro’n galed iawn yn ystod y pandemig hefyd, ac yn y sectorau y sonioch chi amdanynt, mae rhai pobl yn mynd yn ôl i'r gwaith, ond mae'r sectorau hynny hefyd yn wynebu her wirioneddol mewn perthynas â llafur gan fod rhai pobl wedi symud ymlaen i wahanol ddiwydiannau a gwahanol swyddi. Felly, mae gennym her ar draws ystod o oedrannau, a'r risg i bobl iau, os na allant ailymuno â'r byd gwaith, yw y gall hynny gael effaith andwyol ar eu potensial a'u gallu i gyflawni yn y dyfodol. Ac os yw gweithwyr hŷn allan o waith am gyfnod hir, ac os yw cwmnïau'n gwneud penderfyniadau naill ai i leihau eu nifer o staff neu ddod â'r busnes i ben, wrth inni weld y cymorth ffyrlo'n lleihau, mae yna risg wirioneddol, ac rydym wedi gweld hyn sawl gwaith gyda thrychinebau economaidd yn y gorffennol, y gall fod yn anodd iawn i bobl, yn enwedig pobl â sgiliau uwch, ddychwelyd i fyd gwaith ar gyflogau sy'n gymesur, ac mae hynny ynddo'i hun yn cael effaith wirioneddol. Felly, mewn mwy nag un ystod oedran, rydym yn cydnabod ein bod yn rheoli risgiau sylweddol yn yr economi ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei hymagwedd tuag at ffyrlo ac i feddwl am ffordd fwy hyblyg o gefnogi busnesau wrth i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud, ac nid yw'r broses o ailagor ein heconomi wedi'i chwblhau mewn unrhyw ran o'r DU, ac yn yr un modd, nid ydym yn hollol sicr beth fydd yn digwydd yn y pandemig a beth y gall hynny ei olygu i weithgarwch economaidd yn y dyfodol chwaith.
Wrth gwrs, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd wedi rhybuddio y gallai cost ychwanegol i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd arwain at ddegau o filoedd o weithwyr yn wynebu cael eu diswyddo. Er mwyn sicrhau nad yw lleihau a dirwyn y cynllun ffyrlo i ben yn arwain yng Nghymru at y canlyniad posibl a amlinellwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw waith cynllunio wrth gefn i'w galluogi i barhau i gefnogi gweithwyr a busnesau Cymru drwy ffyrlo os bydd San Steffan yn rhoi'r gorau i'w cymorth?
Ac yn ychwanegol at hyn, wrth gwrs, yng Nghymru, er bod nifer y bobl ar ffyrlo wedi gostwng yn gyson dros yr ychydig fisoedd diwethaf, yr wythnos diwethaf, roedd 88,000 o weithwyr yng Nghymru yn dal i fod ar ffyrlo. Wrth gwrs, rydych wedi rhybuddio eich hun na ddylid dirwyn y cynllun ffyrlo i ben cyn bod economi Cymru'n barod, ac yn San Steffan, mae fy nghydweithiwr Ben Lake wedi cyhuddo Trysorlys y DU o lynu'n ormodol at ddyddiadau mewn perthynas â chymorth ariannol er yr ansicrwydd parhaus mewn perthynas â'r economi. Gyda risg barhaus o ansefydlogrwydd economaidd wrth inni ddod allan o'r pandemig, mae'n hanfodol fod y Trysorlys yn parhau i weithredu yn y ffordd fwyaf hyblyg os yw o ddifrif yn mynd i gynorthwyo pobl a busnesau i ddod allan o'r argyfwng hwn.
Mae Cyngres yr Undebau Llafur hefyd wedi rhybuddio Gweinidogion i beidio â throi cefn ar adferiad economaidd y DU drwy ddirwyn cymorth i weithwyr a busnesau i ben yn rhy fuan. Pe bai sefyllfa iechyd y cyhoedd yn dirywio'n annisgwyl wrth inni agosáu at yr hydref a'r gaeaf, a yw Llywodraeth Cymru yn barod i gamu i'r adwy a chefnogi gweithwyr a busnesau Cymru? A chyda phenderfyniadau’r Canghellor yn plethu â chyhoeddiad Prif Weinidog y DU yr wythnos hon y bydd Lloegr yn llacio'r holl gyfyngiadau o 19 Gorffennaf, a fydd Llywodraeth Cymru yn modelu nid yn unig sut y bydd hyn yn effeithio ar sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru, ond ar yr amgylchedd economaidd hefyd? A yw'r Gweinidog hefyd yn cytuno, os nad yw San Steffan yn gwneud hyn yn iawn, gyda'r sefyllfa economaidd a'r sefyllfa iechyd yn dirywio, y gallai hyn gostio i ni yn hirdymor?
Yn amlwg, os na fydd Llywodraeth y DU yn rhoi ystyriaeth briodol i'r hyn a fydd yn digwydd nesaf gyda'r pandemig y mae pob un ohonom am ei weld yn dod i ben, gallai hynny arwain at ganlyniadau sylweddol o ran iechyd y cyhoedd a'r economi, ac mae digon o sylwebaeth ynglŷn â hynny ac ynglŷn â chydbwyso risg yn y dewis y mae Prif Weinidog y DU wedi'i wneud ar gyfer Lloegr mewn perthynas ag ailagor a'r hyn y gallai hynny ei olygu o ran nifer yr achosion o'r haint, y mae eu gwaith modelu eu hunain wedi dangos y bydd yn cynyddu'n sylweddol.
Nawr, yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud penderfyniadau bwriadol ynghylch cefnogi busnesau gyda chymorth mwy hael i fusnesau fel y gallant oroesi'r pandemig. Dyna pam y bu modd imi gyhoeddi'r cam pellach o gymorth i fusnesau tan ddiwedd mis Awst, felly ceir rhywfaint o sicrwydd ychwanegol i fusnesau wrth inni barhau i wneud penderfyniadau ynglŷn ag ailagor. Ac roeddwn yn falch o ddarparu sesiwn friffio i chi, ac yn wir, gwnaed y cynnig i lefarydd y Ceidwadwyr hefyd.
Yr her i ni, serch hynny, fydd meddwl sut y gallwn wneud hynny'n fwy llwyddiannus yn y dyfodol a'r adnoddau rydym wedi'u cadw i gefnogi busnesau. Nawr, rydym yn y sefyllfa hon am ein bod wedi rheoli agweddau eraill ar y pandemig mewn ffordd wahanol. Felly, mae gennym fwy o le i symud am ein bod wedi caffael cyfarpar diogelu personol mewn ffordd wahanol, am lai o gost ac yn fwy effeithlon, ac nid ydych wedi gweld unrhyw fath o lwybr i'r breintiedig yng Nghymru gan nad oes un yn bodoli. Hefyd, mae gennym wasanaeth profi, olrhain a diogelu llawer mwy effeithlon sy'n costio llai o lawer na'r system yn Lloegr. Mae hynny wedi rhoi mwy o le i symud er mwyn i ni allu bod yn fwy hael gyda'n cymorth i fusnesau. Rwyf eisoes yn gweithio gyda swyddogion ac yn cael sgyrsiau gyda sectorau busnes ynglŷn â sut y gallem eu cefnogi yn ystod yr adferiad gyda'r adnoddau sydd ar gael.
Wrth gwrs, gallai'r holl bethau hynny fynd i gyfeiriad gwahanol. Yn hytrach na buddsoddi yn yr adferiad a buddsoddi yn sgiliau'r dyfodol ac mewn arloesi, efallai y bydd angen inni fynd yn ôl i fuddsoddi mewn mwy o gymorth brys. Mae gennym rywfaint o allu i wneud hynny, ond os bydd y pandemig yn mynd i gyfeiriad annisgwyl arall, byddem yn disgwyl, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU ddarparu adnoddau'r DU i fusnesau ledled y DU pe baem yn y sefyllfa honno. Ond rwy'n obeithiol y bydd modd inni wneud dewisiadau cadarnhaol yn y dyfodol gan sicrhau cydbwysedd priodol rhwng iechyd y cyhoedd a'n dyfodol economaidd.