Porthladdoedd Rhydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:07, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi cael ystod o drafodaethau ar borthladdoedd rhydd gyda chyd-Weinidogion, gan gynnwys y Gweinidog Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw gynnig gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phorthladd rhydd yng Nghymru. Er hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi nodi amodau clir lle gellid defnyddio dull gweithredu ar y cyd, gan gynnwys, yn bwysig,  cyllid cydradd â phorthladdoedd rhydd Lloegr.