Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod UK Hospitality Cymru wedi bod yn galw am strategaeth ariannu ddoeth naw mis newydd i gynorthwyo busnesau i oroesi ac ymadfer, a diogelu swyddi ar gyfer y dyfodol. Nawr, mae busnes lletygarwch yn fy etholaeth yn parhau i ddweud wrthyf eu bod yn dal i fod mewn sefyllfa enbyd a bregus. Felly, a allwch ddweud wrthym a fyddwch yn ystyried derbyn awgrym UK Hospitality Cymru a cheisio datblygu strategaeth naw mis?