Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Gwnaf. Mae'r ddwy fargen ddinesig yn gwneud cynnydd da. Mae bargen ddinesig bae Abertawe yn gwneud cynnydd da, gyda phum prosiect wedi'u cymeradwyo a £54 miliwn o gyllid y fargen ddinesig wedi'i ryddhau. Yng Nghaerdydd, mae'r gronfa fuddsoddi wedi ymrwymo £198 miliwn hyd yn hyn ar gyfer 12 prosiect, ac mae naw ohonynt eisoes yn y broses o gael eu cyflawni.