Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Mae'n bwysig bod pobl yn deall nad rhyw fath o dividend Brexit ydy hyn, er enghraifft, achos mi ellid, mewn egwyddor, bod wedi cael statws porthladd rhydd tra'n dal yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac mae eisiau, fel mae'r Gweinidog yn ei ddweud, i bobl ddeall bod Llywodraeth Geidwadol Prydain yn cynnig llawer llai ar gyfer porthladdoedd rhydd yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr—rhyw £8 miliwn, o'i gymharu â £25 miliwn. Ond, oes, mae eisiau edrych ar y cyfleon. Felly, all Llywodraeth Cymru, tra'n mynnu cael maes chwarae gwastad o ran cefnogaeth ariannol posib, sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i ddeall yn union pa fanteision a allai ddod i Gaergybi yn ymarferol, ym mha sectorau, a balansio hynny, hefyd, efo sgil-effeithiau negyddol posib?