Gofal Lliniarol i Blant

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:40, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Jane, a hoffwn ei gwneud yn glir ein bod yn cydnabod bod angen inni wneud yn well yn y maes hwn a dyna pam ein bod yn cynnal yr adolygiad hwn; dyna pam yr oedd yn ein maniffesto a dyna pam ein bod wedi symud ymlaen yn gyflym iawn—dim ond ychydig wythnosau yn ôl y cawsom ein hethol ar y maniffesto hwnnw ac rydym eisoes wedi trefnu gweithdy a fydd yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn. Felly, os hoffech fwy o fanylion, rhagwelir y bydd yr adolygiad hwnnw'n cymryd oddeutu tri i bedwar mis. Felly, gallaf fod mor fanwl â hynny. Rydych yn llygad eich lle: gall tymor yr hydref bara'n hir, ond dylai hynny roi gwell syniad i chi o'r union adeg pan fyddwn yn gobeithio adrodd ar y sefyllfa hon, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny.