Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Weinidog, hoffwn barhau â thema ariannu. Rwy'n ofni fy mod yn troi'n ôl ato, oherwydd rwy'n awyddus iawn i gael atebion gennych. Diolch yn fawr iawn i Peredur ac i Natasha hefyd am godi'r mater pwysig hwn. Cefais sioc fawr o glywed gan Dŷ Gobaith a Thŷ Hafan mai 10 y cant yn unig o'u cyllid a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru. Gadewch inni ddod at wraidd y mater: yn yr Alban, daw 50 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth yr Alban; Gogledd Iwerddon, 25 y cant; Lloegr, 21 y cant. Ac eto, dim ond 10 y cant rydym yn ei roi. Rwy'n siŵr y gallem wneud yn well. Felly, fy apêl i chi yw: a gawn ni ymrwymo i gynyddu hynny yn y maes gwirioneddol bwysig hwn ac a allwch chi fod yn llawer cliriach ynglŷn ag amserlenni? Mae yna bedwar mis yn nhymor yr hydref; o fis Medi hyd at y Nadolig. A allwch chi fod ychydig bach yn gliriach ynglŷn â faint rydych chi'n edrych arno a phryd y cawn y canlyniad hwnnw? Diolch yn fawr iawn.