Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Weinidog, mae Clinig Pen-y-bont ar Ogwr yn glinig preifat sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae'n unigryw i Gymru, ac am y 24 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio mewn partneriaeth â'r GIG, gyda mwy na 50 o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y clinig ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru, tra bod elw'n cael ei roi yn ôl i'r GIG lleol.
Gwyddom i gyd fod y GIG yn sefydliad rhyfeddol, ond ni ddylem ei guddio rhag partneriaethau ystyrlon a buddiol sy'n cyflawni ar gyfer cleifion. A wnaiff y Gweinidog archwilio'r canlyniadau a gyflawnwyd gan y bartneriaeth hon fel y gall byrddau iechyd eraill ystyried manteision adeiladu capasiti yn y ffordd hon? Diolch.