Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Altaf. Nid wyf yn gwybod digon am y bartneriaeth benodol hon i wneud sylwadau arni, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn ymchwilio ymhellach. Gwn fod rhai o'r bobl roeddwn ar alwad â hwy ddydd Sadwrn yn ymwneud ag Ysbyty Tywysoges Cymru, felly byddaf yn edrych ymhellach i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei ddysgu o hynny. Diolch.