2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 7 Gorffennaf 2021.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56720
Mae practisau meddygon teulu ledled Cymru yn darparu ystod eang o opsiynau i gleifion gael mynediad at wasanaethau drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae brysbennu clinigol yn arf allweddol i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, ar yr adeg gywir, gan y person cywir.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn broblem gynyddol yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac amlygwyd hyn yn yr wythnosau diwethaf—ddwywaith, mewn gwirionedd—ym meddygfa St Mark yng Nghei Connah, lle mae'n amlwg fod yna brinder meddygon, ac yn Queensferry, lle mae practis yn cael ei symud, neu o bosibl yn cael ei symud, i Gei Connah, oherwydd nad yw'r adeilad presennol yn addas at y diben.
Weinidog, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi gyfarfod â'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â'r broblem ym meddygfa St Mark a sicrhau bod ganddynt nifer digonol o feddygon teulu? A wnewch chi hefyd ofyn i'ch swyddogion ymchwilio i'r posibilrwydd o adeiladu canolfan feddygol newydd bwrpasol i wasanaethu Queensferry a'r cymunedau cyfagos?
Diolch yn fawr, Jack. Gwn fod rhai problemau wedi codi'n benodol gyda meddygfa yng Nghei Connah yn yr wythnosau diwethaf. Credaf na ddylai rhai o'r materion a welsom yno, lle anfonwyd neges fod y practis wedi'i gau mewn gwirionedd, ac yn cynghori cleifion i ffonio rhif arall, fod wedi digwydd. Mae'r bwrdd iechyd yn ymwybodol iawn o hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio, wrth gwrs, fod ein clinigau a'n gwasanaethau wedi'u hadeiladu ar y bobl sy'n eu darparu, a gallant hwythau hefyd fynd yn sâl, a dyna a ddigwyddodd yn yr achos penodol hwn.
Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gennym sefyllfa lle rydym, wrth gwrs, yn edrych ar y seilwaith mewn perthynas â meddygfeydd ledled Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod llawer iawn o waith i'w wneud mewn perthynas ag uwchraddio meddygfeydd ledled Cymru. Mae gennym ymrwymiad yn ein maniffesto i greu meddygfeydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yn gobeithio gwneud hynny ar ffurf rhyw fath o system hybiau fel ein bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i roi hynny ar waith. Mater i'r bwrdd iechyd lleol fydd penderfynu ar y flaenoriaeth ar gyfer pennu'r rheini. Felly, byddwn yn cynnal trafodaethau pellach gyda hwy, ond rydym yn edrych i weld sut y gallwn gyflawni'r ymrwymiad hwnnw a oedd wedi'i nodi'n glir iawn yn ein maniffesto.
Wel, cefais gopi o e-bost claf at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf, yn cwyno bod diffyg meddygon teulu parhaol ym meddygfa St Mark yng Nghei Connah bellach yn 'achosi problemau mawr gan na ellir trefnu apwyntiad i weld meddyg'. Ceisiwyd ffonio'r dderbynfa o 8 y bore ymlaen ar 22, 23 a 24 Mehefin, ac ar bob achlysur, buont yn aros am 45 munud cyn cael gwybod nad oedd unrhyw apwyntiadau ar ôl. Ar 28 Mehefin, roedd neges lais yn dweud bod y feddygfa ar gau. Wrth ymateb i mi, dywedodd y bwrdd iechyd mai gwraidd y broblem oedd salwch annisgwyl dau feddyg teulu a oedd i fod yn bresennol ac ar ddyletswydd ddydd Llun, gan ychwanegu bod hyn o ganlyniad i salwch sydyn ac mae hyn bellach yn destun ymyrraeth gan y tîm ardal i sicrhau nad yw'r sefyllfa hon yn digwydd eto. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn mynd i'r afael â'r broblem a nodwyd cyn 28 Mehefin, ac mae problemau tebyg yn cael eu nodi gan etholwyr sy'n gleifion mewn practisau eraill.
Pa ymgysylltiad a gawsoch neu y bwriadwch ei gael gyda'r cyrff proffesiynol perthnasol, lle mae naw mlynedd bellach ers i Gymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru lansio ymgyrchoedd yn rhybuddio aelodau fod y bom yn tician, a saith mlynedd ers i bwyllgor meddygol gogledd Cymru ddod i'r Cynulliad a rhybuddio bod ymarfer cyffredinol yng ngogledd Cymru mewn argyfwng?
Wel, diolch yn fawr iawn. Nawr, ers lansio ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' mae gogledd Cymru yn arbennig wedi elwa o nifer fwy o benodiadau i hyfforddiant ymarfer cyffredinol. Felly, y llynedd, recriwtiwyd 29 o hyfforddeion newydd i gynlluniau hyfforddi arbenigol ym Mangor, yn Nyffryn Clwyd ac yn Wrecsam. Felly, credaf y dylai hynny ddangos i chi fod llawer o waith yn cael ei wneud ar hyn, yn benodol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Mae'r mater arall rydych yn sôn amdano, yn ymwneud â mynediad at feddygon teulu, a gwnaethom nodi safonau a gyhoeddwyd gennym yn ôl ym mis Mawrth 2019, ac roedd cyfres gyfan o safonau roedd angen i feddygon teulu ymateb iddynt cyn cael y taliad ychwanegol a oedd yn ddyledus—ac rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelodau heddiw i nodi pwy a gafodd beth a phwy a gyflawnodd beth mewn perthynas â chyrraedd y safonau hynny. Felly, mae gennym fesurau a ffyrdd o geisio rhyngweithio ac ymgysylltu, a byddwn yn gwneud hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda gwasanaethau meddygon teulu, i sicrhau y gallwn wella mynediad i'n cleifion ledled Cymru. Gallaf roi gwybod i chi fod tua 76 y cant o bractisau ledled Cymru wedi cyrraedd yr holl safonau mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn ystod oriau arferol, ac mae hynny'n cymharu â 65 y cant y llynedd. Ond rwy'n ymwybodol iawn fod hynny'n awgrymu na wnaeth 24 y cant lwyddo i wneud hynny, a dyna'r rhai y mae angen inni ganolbwyntio arnynt.