Systemau Digidol GIG Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:17, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod datrysiadau TG wedi'u dyfeisio ers blynyddoedd bellach gan ymarferwyr o fewn y GIG, megis ap pwrpasol y mae dau feddyg teulu yn fy etholaeth yn ei ddatblygu gyda chwmni lleol. Bydd yr ap hwn yn galluogi cleifion i gael mynediad at eu cofnodion, i feddyginiaethu eu cyflyrau eu hunain yn well ac i archebu presgripsiynau rheolaidd, gan rymuso'r meddygon teulu hefyd i ledaenu gwybodaeth iechyd y cyhoedd. Weinidog, sut rydych chi'n sicrhau, serch hynny, fod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gallu goruchwylio'r mathau hyn o ddatrysiadau ac allosod arferion gorau a'u cynnwys yn eu dull 'unwaith i Gymru'?