Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr iawn, Vikki, a gwn fod rhai meddygon teulu wedi bod yn anhygoel o arloesol yn y ffordd y maent wedi ymateb i'r pandemig, gan wybod ei bod yn anodd cwrdd â phobl wyneb yn wyneb o dan rai amgylchiadau, ac felly maent wedi bod yn ddyfeisgar iawn, ac mae'n wych clywed bod hynny'n digwydd yn eich etholaeth. Rwy'n sicr yn hapus iawn i drosglwyddo—os gallwch drosglwyddo'r wybodaeth honno i mi, fe wnaf yn siŵr ei bod yn cyrraedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sydd bellach wedi cymryd drosodd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrth gwrs, a gwn eu bod yn gweithio'n galed i nodi technolegau newydd a thechnolegau sy'n datblygu sydd â photensial i wella gwasanaethau iechyd a gofal. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny, a byddaf yn cyfarfod â phennaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yr wythnos nesaf.