Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:51, 7 Gorffennaf 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi eisiau holi am adferiad y gwasanaeth iechyd hefyd, gan gyfeirio at sawl maes. Mi wnaf innau gyfeirio at y backlog yma o ddiagnosis canser, er yn edrych ar faes gwahanol o hynny. Mae'n bryder meddwl am filoedd o bobl—dros 4,000 yn ôl Macmillan—yn bosib sydd ddim wedi cael diagnosis. Ond mae'n bryder i fi, wrth gwrs, mai beth sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf ydy chwyddo problem oedd yn bodoli yn barod, ac un broblem oedd gennym ni mewn gwasanaethau canser oedd prinder gweithwyr i wneud y gwaith diagnosis. Dwi'n meddwl bod Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn sôn ein bod ni 97 radiolegydd yn brin yma yng Nghymru. Allwch chi ddim cael gwasanaeth diagnosis effeithiol, cyflym heb gael digon o radiolegwyr. Felly, wrth edrych ymlaen at adfer, allwch chi ddweud wrthym ni ba adnoddau fyddwch chi'n eu rhoi mewn lle i ddelifro yn benodol ar ddatrys rhai o'r problemau gweithlu sydd gennym ni?