2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych yn teimlo y byddai'n briodol ymddiheuro ar ran Llywodraeth Cymru am fethu ag atal trosglwyddiadau yn yr ysbyty yn ystod ton gyntaf ac ail don y pandemig?
Diolch yn fawr iawn, Russell. Wrth gwrs, mae pob marwolaeth yn y pandemig hwn wedi bod yn anodd, ac i'r rheini sydd wedi dal COVID yn yr ysbyty mae hyd yn oed yn fwy trasig. Rydym yn ymwybodol iawn o anawsterau'r sefyllfa. Wrth gwrs, yr hyn y mae'n rhaid inni ei gofio yw bod y bobl sy'n gwasanaethu yn yr ysbytai hynny hefyd yn perthyn i'r gymuned, a phan oedd lefelau'r trosglwyddiadau'n uchel yn y cymunedau hynny, roedd posibilrwydd bob amser y gallai pobl ddal COVID yn y ffordd honno. Hefyd, rydym newydd glywed, yn deimladwy, sut roedd Rhys ab Owen yn awyddus i weld rhywun sy'n annwyl iddo; mae yna bobl eraill a oedd eisiau gweld eu hanwyliaid yn yr ysbyty hefyd. Dylai hynny ddangos i chi pa mor anodd yw gwneud penderfyniadau a chadw cydbwysedd yn y sefyllfa hon. Bob tro y byddwch yn gadael rhywun i mewn, mae yna risg. A'r risg honno, yn enwedig mewn ysbyty—rydych yn caniatáu i bobl fynd i mewn i un o'r mannau anoddaf a mwyaf sensitif, lle gallai'r problemau fod yn drychinebus pe bai pobl yn dal COVID, ac rydym wedi gweld hynny. Felly, credaf fod y cydbwysedd hwn wedi bod yn eithriadol o anodd. Wrth gwrs, os ydych eisoes yn yr ysbyty, rydych yn debygol o fod yn fwy agored i niwed, ac felly os yw'n mynd i mewn i ysbytai, fel y mae wedi'i wneud, ac fel y bydd yn parhau i'w wneud, mae arnaf ofn—. Ond rydym wedi rhoi'r holl fesurau ar waith; rydym wedi nodi canllawiau llym iawn. Rydym wedi ceisio dysgu wrth inni symud ymlaen gyda hyn, ac wrth gwrs, gyda'r holl heintiau hynny, lle rydym wedi cael achosion yn ymwneud â diogelwch cleifion, ymchwiliwyd yn drylwyr i bob achos i weld beth y gallwn ei ddysgu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n derbyn yr hyn rydych wedi'i ddweud. O'm safbwynt i, roeddem ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn mynegi pryderon mawr am nifer y bobl a gâi eu heintio mewn ysbytai yng Nghymru o'r haf diwethaf ymlaen. Teimlaf fod Llywodraeth Cymru yn codi'i hysgwyddau ar y pryd, gyda'ch rhagflaenydd yn dweud bod gwersi wedi'u dysgu. [Torri ar draws.] Gallaf glywed y cyn-Weinidog iechyd; dylai fod yn gwrando ar yr hyn rwy'n ei ddweud yn hytrach na diystyru'r hyn rwy'n ei ddweud. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthych, Weinidog, yw bod ffocws mawr y llynedd ar drosglwyddiad cymunedol—ac ni fyddwn yn diystyru hynny; mae hynny'n gywir, dylid cael y ffocws hwnnw—ond nid oedd gennym y ffocws hwnnw o ran yr haint mewn ysbytai yr haf diwethaf ac y llynedd.
Nawr, gwyddom bellach fod un o bob pedair marwolaeth yng Nghymru yn debygol neu'n bendant o fod wedi digwydd i ganlyniad uniongyrchol i drosglwyddiad o ward i ward. Yn Hywel Dda ei hun, mae'n un o bob tair marwolaeth. Mae hynny'n sylweddol, ac rwy'n siŵr, Weinidog, na fyddech yn anghytuno pa mor sylweddol yw'r ffigurau hynny. Dyna 1,000 o bobl sydd wedi marw yn anffodus, gydag anwyliaid dirifedi yn galaru, pan ellid bod wedi osgoi hyn i raddau helaeth, neu i ryw raddau, pe bai Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n wahanol. Nawr, mae grŵp o 35 o glinigwyr hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru, a chredant mai un o'r cwestiynau y dylid eu gofyn fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw yw sut y gellir arwain sefydliadau gofal iechyd i leihau'r gyfradd farwolaeth hon. Mae hwn yn fater penodol i Gymru, felly a wnewch chi a'r Prif Weinidog roi sylw i'r pryderon a'r galwadau cynyddol, a chytuno i ymchwiliad cyhoeddus i'r ffordd yr ymdriniwyd â'r pandemig COVID-19 yng Nghymru? Fe ddywedoch chi eich hun yn eich ateb eich bod yn dysgu wrth fynd ymlaen. Dyna'r ffordd gywir o fynd ati, ond does bosibl nad yw'n rheswm pam ein bod angen ymchwiliad cyhoeddus i graffu'n briodol ar y broses.
Diolch yn fawr. Byddwn innau hefyd yn gwadu'r awgrym nad ydym wedi bod o ddifrif ynglŷn â'r trosglwyddiad nosocomiaidd o ddifrif mewn ysbytai, trosglwyddiad yr haint mewn ysbytai. Rydym wedi bod yn rhoi camau gofalus iawn ar waith, a bydd unrhyw un sydd wedi bod yn yr ysbyty yn deall pa mor llym y maent o ran pwy sy'n cael caniatâd i fynd i mewn a gwisgo cyfarpar diogelu personol, ac felly rwy'n gwrthod hynny'n llwyr. Fel y dywedwch, rydym yn ymchwilio i bob achos, ac rydym yn ceisio dysgu wrth inni symud ymlaen. Rwy'n gwybod ac rwy'n clywed y galwadau am ymchwiliad cyhoeddus, ac rwyf wedi darllen y llythyr sydd wedi'i ysgrifennu yn ofalus, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych ein bod yn dal i fod ynghanol pandemig. Mae angen i ni ymateb i hynny ar hyn o bryd, ac nid yw hyn ar ben. Os edrychwch ar yr amcanestyniadau yn enwedig yn Lloegr, gwyddom eu bod yn sôn yn awr am y posibilrwydd o ddwy filiwn o achosion y dydd. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn gyfan gwbl o ddifrif, a deall nad dyma'r amser inni gymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus, ond rydym yn dysgu wrth inni symud ymlaen.
Rwyf hefyd yn gwadu bod hwn yn fater penodol i Gymru. Gadewch inni beidio ag esgus na fu marwolaethau mewn ysbytai o ganlyniad i COVID mewn ysbytai yn Lloegr a'r trosglwyddiad hwnnw mewn ysbytai yn Lloegr. Nid yw hynny'n wir.
Wel, nid oeddwn yn awgrymu hynny o gwbl. Bydd hynny'n wir mewn gwledydd ym mhob rhan o'r byd, ond roeddwn yn awgrymu ei fod wedi digwydd i raddau mwy yng Nghymru a bod angen dysgu gwersi o hynny'n benodol. Nawr, mewn perthynas ag ymchwiliad i Gymru'n unig, a'r ffaith nad ydych yn barod i gyflwyno hwnnw—. Roeddwn yn ofalus iawn yn fy nghwestiwn i beidio â dweud ymchwiliad ar unwaith yn awr. Gofynnais yn benodol ynglŷn â chytuno i ymchwiliad cyhoeddus—dylwn ychwanegu hynny. Ond mae peidio â chytuno i hynny, rwy'n tybio, rwy'n credu, yn dangos diffyg tryloywder ynghylch rôl Llywodraeth Cymru wrth edrych ar sut y mae wedi ymdrin â'r pandemig.
Mae hyn yn fy arwain at fy nghwestiwn olaf, Weinidog, ynglŷn â'r hyder mewn amgylchedd sy'n rhydd o COVID-19, a byddwn yn bryderus iawn—gwn eich bod chithau—am y 4,000 a mwy o bobl nad ydynt wedi mynychu triniaeth diagnosis canser. Byddwn yn awgrymu, a oes unrhyw ryfedd bod pryderon ynghylch ymweld ag ysbyty pan glywn am y ffigurau rwyf wedi'u hamlinellu ac rydym yn ymwybodol ohonynt. Nawr, fe fyddwch chi a minnau'n gwybod, ac rydym yn cytuno, y bydd gennym sefyllfa heriol iawn lle bydd gennym bobl â chanser datblygedig a thriniaeth fwy cymhleth yn awr, a rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru am hyn yr haf diwethaf gan weithwyr meddygol proffesiynol, ond nid ydym wedi gweld unrhyw waith sylweddol o ran safleoedd heb COVID na chanolfannau canser sy'n rhydd o COVID-19, sydd wedi bod yn bresennol yn Lloegr ers dros flwyddyn. Byddwn yn awgrymu, yn dilyn cyd-destun fy nghwestiynau cynharach, fod mwy o angen cael canolfannau sy'n rhydd o COVID-19 yma yng Nghymru bellach. Yn anffodus, bydd y penderfyniadau hyn yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau gofal lliniarol wrth i ganser ddod yn amhosibl ei drin os ceir diagnosis yn ddiweddarach, wrth gwrs. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog i gloi, a wnewch chi ddweud wrthym, felly, faint o bobl y mae eich adran wedi'u cyfrif sydd heb gael diagnosis, a pha mor hir yw'r ôl-groniadau? A wnewch chi gyflwyno cynlluniau penodol gerbron y Senedd hon ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion canser yn ogystal â dweud wrthym pryd y cyhoeddir cynllun gweithredu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser? Diolch, Weinidog.
Diolch yn fawr. Mae'n ddiddorol bod hyn wedi'i gyflwyno fel stori newyddion fawr, syfrdanol. Nid yw hynny'n wir. Rydym wedi bod yn dryloyw ynglŷn â hyn ar hyd y daith, ynglŷn â faint o bobl sy'n dal COVID mewn ysbytai. Fe'i cyhoeddir ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd. Ni wneir hynny yn Lloegr nac yn unman arall. Felly, os oedd unrhyw un eisiau gweld y rhain, nid yw hyn yn newydd, nid yw'n syfrdanol, mae wedi bod yno drwy'r amser a gallech fod wedi mynd ar ei drywydd.
O ran yr ymchwiliad cyhoeddus, mae'n anodd iawn dadgyfuno'r hyn a oedd yn digwydd yng ngweddill y DU oddi wrth yr hyn sy'n digwydd yma. Os edrychwch ar gyfarpar diogelu personol, roedd yna berthynas yno. Yn wir, yn y berthynas honno, yn ddiddorol iawn, roeddem yn rhoi rhywfaint o gyfarpar diogelu personol i rannau o Loegr. Ar frechlynnau, roeddem yn ddibynnol ar y cyflenwad gan gydweithio ledled y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n anodd iawn dadgyfuno hyn, a dyna pam rwy'n credu mai'r dull cywir o fynd ati yw cael ymchwiliad yn y DU ond gyda rhyw fath o is-adran i Gymru, lle bydd angen edrych yn fanwl ar yr hyn y gallwn ei ddysgu. Ond gallaf ddweud wrthych ein bod yn ceisio dysgu wrth inni symud ymlaen hefyd.
Rydym yn pryderu'n fawr am nifer y bobl nad ydynt wedi mynychu apwyntiadau mewn perthynas â diagnosis o ganser a'r ffaith bod llai o bobl wedi mynychu'r apwyntiadau hyn o gymharu â blynyddoedd eraill. Dyna pam ein bod wedi cynnal ymgyrch hysbysebu gynhwysfawr iawn i geisio annog pobl i ymgysylltu. Ac wrth gwrs, nid yw triniaethau canser erioed wedi'u hatal. Rydym wedi bod yn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn wasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig.
O ran canolfannau sy'n rhydd o COVID-19, nid wyf yn gwrthwynebu hyn mewn egwyddor. Y broblem sydd gennym yw mai goblygiad hynny yw bod yn rhaid ichi eu gwahanu oddi wrth yr adran damweiniau ac achosion brys a'r math o faterion llosg sy'n dod i mewn i ysbytai. Nawr, Russell, efallai eich bod chi eisiau mynd o gwmpas yn cau adrannau damweiniau ac achosion brys, ond nid wyf fi eisiau gwneud hynny. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn ynglŷn ag ymarferoldeb gwneud i hynny ddigwydd, ond rydym yn ceisio edrych ar ba ddewisiadau eraill sydd i'w cael, ac rwy'n falch o ddweud bod byrddau iechyd wedi cyflwyno rhai syniadau ac rydym yn dadansoddi'r rheini ar hyn o bryd.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi eisiau holi am adferiad y gwasanaeth iechyd hefyd, gan gyfeirio at sawl maes. Mi wnaf innau gyfeirio at y backlog yma o ddiagnosis canser, er yn edrych ar faes gwahanol o hynny. Mae'n bryder meddwl am filoedd o bobl—dros 4,000 yn ôl Macmillan—yn bosib sydd ddim wedi cael diagnosis. Ond mae'n bryder i fi, wrth gwrs, mai beth sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf ydy chwyddo problem oedd yn bodoli yn barod, ac un broblem oedd gennym ni mewn gwasanaethau canser oedd prinder gweithwyr i wneud y gwaith diagnosis. Dwi'n meddwl bod Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn sôn ein bod ni 97 radiolegydd yn brin yma yng Nghymru. Allwch chi ddim cael gwasanaeth diagnosis effeithiol, cyflym heb gael digon o radiolegwyr. Felly, wrth edrych ymlaen at adfer, allwch chi ddweud wrthym ni ba adnoddau fyddwch chi'n eu rhoi mewn lle i ddelifro yn benodol ar ddatrys rhai o'r problemau gweithlu sydd gennym ni?
Diolch yn fawr. Fel mae'n digwydd, dwi newydd ddod off galwad gyda HIW heddiw, lle roeddem ni'n siarad ynglŷn â'r problemau yn arbennig gyda radiolegwyr. Nawr, maen nhw wedi rhoi system mewn lle lle rŷm ni yn cynhyrchu tua 20 o radiolegwyr newydd bob blwyddyn, so mae hynny'n gynnydd eithaf mawr o ble rŷm ni wedi bod yn y gorffennol. Wrth gwrs, beth sy'n bwysig yw'r quality of training maen nhw'n ei gael, a dwi wedi gofyn iddyn nhw hefyd weld beth arall allwn ni ei wneud. Ydy e'n bosibl i ni, er enghraifft, anfon rhai o'r lluniau rŷm ni'n eu cael dramor fel bod nhw'n cael yr analysis dramor?
Felly, dwi yn meddwl bod yna le i ni fod yn ddychmygol o ran sut rŷm ni'n mynd ati i ymdrin â'r backlog yma yn arbennig pan fydd hi'n dod i ganser. Ond mi fyddwch chi'n ymwybodol hefyd ein bod ni wedi darparu £25 miliwn yn ychwanegol er mwyn sicrhau bod yr offer ar gael, fel ein bod ni'n gallu cynyddu a chyflymu'r broses yna, ac mae hynny eisoes wedi mynd i mewn i rai o'n hysbytai ni.
Mi wnaf i droi nesaf at wasanaethau orthopedig. Mae yna her enfawr o'ch blaen chi yn adeiladu capasiti. Dwi a phob Aelod yn fan hyn, dwi'n siŵr, wedi clywed am lawer gormod o gleifion yn aros yn llawer rhy hir mewn poen. Ym mis Ebrill eleni, mi oedd yna 88,000 o bobl yn aros am driniaeth trawma ac orthopedig, gyda 60 y cant yn aros dros 36 wythnos. Rhyw 11 y cant oedd y ffigur yn ôl yn 2019. Mae dros hanner bellach yn aros dros flwyddyn. Wrth gwrs, mi oedd y rhestrau aros yna eto yn rhy hir cyn y pandemig, felly pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni y byddwch chi, wrth drio delio efo'r broblem acíwt o backlog ychwanegol y pandemig, yn gwneud llawer mwy na thrio adfer gwasanaethau i sut oedden nhw o'r blaen? Sut byddwch chi rŵan yn llwyddo i drio creu gwasanaethau mwy cynaliadwy i'r hirdymor, achos dyna dŷn ni'n chwilio amdano fo wrth ddod allan o'r pandemig yma?
Wel, dwi eisiau gwneud yn siŵr nad ydym ni'n colli'r cyfle yma o'r pandemig i newid pethau. Mae lot wedi newid eisoes ac mae eisiau i ni glymu mewn yr hyn sy'n dda o ran y newidiadau sydd wedi bod yn y ffordd mae'r gweithlu yn ymddwyn, ond hefyd y systemau rŷm ni'n eu defnyddio. Roeddwn i'n falch i fod yn rhan o gynhadledd dros y penwythnos gyda chymdeithas orthopaedig o India. Mae lot fawr o'n orthopaedic surgeons ni yn dod o India yng Nghymru, ac roedd e'n dda i glywed eu syniadau nhw ynglŷn â sut ddylen ni fod yn cyflymu'r broses. Ac, wrth gwrs, bydd hynny, efallai, yn cynnwys y posibilrwydd o gael canolfannau yn uniongyrchol, efallai'r canolfannau oer yma—y canolfannau uniongyrchol roeddwn i'n sôn amdanyn nhw. Felly, rydym ni jest yn analeiddio i weld sut byddai hynny'n digwydd yn ymarferol a sut byddai hynny'n gallu cael ei ariannu. Ond rŷm ni yn awyddus iawn i weld sut allwn ni ddefnyddio'r achlysur yma i ymdrin â'r broblem ond hefyd i'n cael ni i le gwahanol yn ystod y tymor canolig.
Dwi am gwblhau, os caf i, Llywydd, drwy droi at COVID hir. Mae o'n bryder mawr i fi. Mae gen i bryderon mawr am bobl ifanc, a dweud y gwir, ar hyn o bryd, wrth i gyfyngiadau gael eu codi. Mi gawn ni gyfle i drafod hynny eto. Ond dwi eisiau edrych yn benodol, yn sydyn, ar effaith COVID hir ar y gweithlu iechyd a gofal. O fy ngwaith i fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, dwi'n gweld cyfran ryfeddol o uchel o'r bobl dwi'n siarad â nhw yn bobl sydd wedi mynd yn sâl drwy eu gwaith nhw mewn iechyd a gofal. Mae eisiau edrych ar hyn. Mae eisiau cynnig cefnogaeth iddyn nhw, a dwi eisiau gwybod beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i'w cefnogi nhw, achos maen nhw'n haeddu'r gefnogaeth yna am y gwaith maen nhw wedi ei wneud a'r ffaith eu bod nhw wedi rhoi eu hunain mewn perig yn ystod y pandemig yma. Ond pan fyddwn ni'n edrych ar y gwaith adfer hefyd, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth mae hi'n mynd i'w wneud i wthio am sicrwydd bod y rhain yn cael cefnogaeth i ddod yn ôl i'r gwaith, achos dŷn ni angen sicrhau bod ein gweithlu ni'n llawn, ac mae dioddefwyr COVID hir o fewn y gweithlu iechyd a gofal eisiau mynd yn ôl i'r gwaith i wneud yr hyn maen nhw wedi cael eu hyfforddi i'w wneud? Allwn ni ddim aros yn rhagor am sicrwydd bod yna driniaeth a thegwch yn mynd i gael eu rhoi i'r nifer uchel, dwi'n ofni, o weithwyr sydd yn dioddef yn y ffordd yma.
Diolch yn fawr. Byddwch chi'n ymwybodol, yn ein cyhoeddiad ni am y cynllun newydd ar adferiad, mi roesom ni sylw arbennig i'r rheini oedd yn dioddef o COVID hir a oedd yn gweithio yn ein system iechyd a gofal ni, a sicrhau bod canllawiau ar gael i roi syniad i gyflogwyr i sicrhau eu bod nhw'n gwybod sut ddylai'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth gofal fod yn ymateb i'r rheini sydd yn dioddef o COVID hir. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n glir yn yr adroddiad yna.