Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch. Ni fyddwn wedi'i alw'n 'adborth i'w groesawu'. Cefais sioc, ac rwy'n siŵr bod gweithwyr ar y rheng flaen wedi cael sioc hefyd, a hwythau'n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, fod pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru bellach wedi galw am adolygiad. Roedd y llythyr a anfonwyd gan arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnwys sylwadau brawychus, Weinidog, megis,
'wrth ymdrin â digwyddiadau ar lefel leol gall fod tensiynau o hyd ynghylch penderfyniadau a dewisiadau'.
Ac mae nifer o arweinwyr wedi awgrymu nad yw pethau fel y dylent fod. Mae awdurdodau lleol yn galw arnoch i gwestiynu pa mor dda y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau, ac a ellid cael model gweithio amgen, mwy effeithiol. Credwn fod hynny'n sicr. Fel y dywedasom yn 2018, dylid chwalu'r cwango. Mae wedi mynd o un argyfwng i'r llall.
Collodd sgandal y cytundeb pren o leiaf £1 filiwn i drethdalwyr Cymru. Er bod adroddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi'i lunio ar gost o £45,000 i'r trethdalwr, anwybyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y cyngor a gwahardd saethu adar hela ar dir cyhoeddus. Yn ei ymchwiliad i lifogydd mis Chwefror, canfu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fod rôl a gwasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u hymestyn y tu hwnt i gapasiti, ac mai dim ond tua hanner y 70 o staff ychwanegol roedd eu hangen—a hynny yn ôl y prif weithredwr a 'Llifogydd yng Nghymru ym mis Chwefror 2020: Adolygiad Rheoli Digwyddiadau Llifogydd'—30 yn unig a gafodd eu penodi.
Canfu'r adroddiad adran 19 diweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fod llifogydd ym Mhentre wedi'u hachosi gan weddillion pren yn golchi oddi ar ochr y mynydd ac yn blocio cwlfert lleol. Fe wnaethant bwyntio bys yn bendant iawn at Cyfoeth Naturiol Cymru. Methiant arall. Yn Aberconwy, gorfodwyd tirfeddianwyr lleol i wneud gwaith ar arglawdd Tan Lan, wedi i Cyfoeth Naturiol Cymru wrthod talu. Roeddent yn dweud y byddai'r gwaith yn costio £150,000 i'w wneud, ac mae fy etholwyr wedi llwyddo i wneud y gwaith am £15,000. Ac rydym yn dal i ddisgwyl ateb ynglŷn â'n cais cymunedol yn galw am garthu afon Conwy, diogelu Castell Gwydir, a chael gwared ar y siâl sy'n cronni o gwmpas pont Llanrwst.
Nid fi yw'r unig un sydd heb unrhyw hyder o gwbl yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ymateb yn effeithiol i lifogydd, ac o'r herwydd, rwyf wedi egluro y dylem gael asiantaeth lifogydd genedlaethol i Gymru, sy'n canolbwyntio 100 y cant ar lifogydd. A ydych chi'n cytuno â hynny?
Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru dalu iawndal i'r trigolion yr effeithiwyd arnynt yn y Rhondda. A ydych yn ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud hynny? Ac a ydych yn cytuno y dylech ymateb i lythyr y Cynghorydd Andrew Morgan drwy ymrwymo i adolygu sut y gellid modelu Cyfoeth Naturiol Cymru yn well wrth symud ymlaen?
Mae nifer y cwynion rwy'n eu derbyn am Cyfoeth Naturiol Cymru yn awr, a'r diffyg ymddiriedaeth sydd gan y cyhoedd yn y sefydliad hwn yn awr, yn peri cryn bryder. A wnewch chi wrando ar eiriau'r 22 arweinydd awdurdod lleol sydd â'u gwybodaeth leol eu hunain ac sy'n gwybod beth sy'n gweithio iddynt hwy a beth nad yw'n gweithio? Ac a wnewch chi edrych, os gwelwch yn dda, Weinidog, unwaith ac am byth, ar ailstrwythuro Cyfoeth Naturiol Cymru? Diolch, Ddirprwy Lywydd.