3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 7 Gorffennaf 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r galwadau gan arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru? TQ562
Rwy'n croesawu adborth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn sicr, mae angen inni sicrhau bod ein cyrff, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yn y sefyllfa orau i gyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol sylweddol. Rydym yn dechrau gyda'r adolygiad o swyddogaethau rheoli perygl llifogydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt yn y strategaeth llifogydd genedlaethol.
Diolch. Ni fyddwn wedi'i alw'n 'adborth i'w groesawu'. Cefais sioc, ac rwy'n siŵr bod gweithwyr ar y rheng flaen wedi cael sioc hefyd, a hwythau'n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, fod pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru bellach wedi galw am adolygiad. Roedd y llythyr a anfonwyd gan arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnwys sylwadau brawychus, Weinidog, megis,
'wrth ymdrin â digwyddiadau ar lefel leol gall fod tensiynau o hyd ynghylch penderfyniadau a dewisiadau'.
Ac mae nifer o arweinwyr wedi awgrymu nad yw pethau fel y dylent fod. Mae awdurdodau lleol yn galw arnoch i gwestiynu pa mor dda y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau, ac a ellid cael model gweithio amgen, mwy effeithiol. Credwn fod hynny'n sicr. Fel y dywedasom yn 2018, dylid chwalu'r cwango. Mae wedi mynd o un argyfwng i'r llall.
Collodd sgandal y cytundeb pren o leiaf £1 filiwn i drethdalwyr Cymru. Er bod adroddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi'i lunio ar gost o £45,000 i'r trethdalwr, anwybyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y cyngor a gwahardd saethu adar hela ar dir cyhoeddus. Yn ei ymchwiliad i lifogydd mis Chwefror, canfu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fod rôl a gwasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u hymestyn y tu hwnt i gapasiti, ac mai dim ond tua hanner y 70 o staff ychwanegol roedd eu hangen—a hynny yn ôl y prif weithredwr a 'Llifogydd yng Nghymru ym mis Chwefror 2020: Adolygiad Rheoli Digwyddiadau Llifogydd'—30 yn unig a gafodd eu penodi.
Canfu'r adroddiad adran 19 diweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fod llifogydd ym Mhentre wedi'u hachosi gan weddillion pren yn golchi oddi ar ochr y mynydd ac yn blocio cwlfert lleol. Fe wnaethant bwyntio bys yn bendant iawn at Cyfoeth Naturiol Cymru. Methiant arall. Yn Aberconwy, gorfodwyd tirfeddianwyr lleol i wneud gwaith ar arglawdd Tan Lan, wedi i Cyfoeth Naturiol Cymru wrthod talu. Roeddent yn dweud y byddai'r gwaith yn costio £150,000 i'w wneud, ac mae fy etholwyr wedi llwyddo i wneud y gwaith am £15,000. Ac rydym yn dal i ddisgwyl ateb ynglŷn â'n cais cymunedol yn galw am garthu afon Conwy, diogelu Castell Gwydir, a chael gwared ar y siâl sy'n cronni o gwmpas pont Llanrwst.
Nid fi yw'r unig un sydd heb unrhyw hyder o gwbl yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ymateb yn effeithiol i lifogydd, ac o'r herwydd, rwyf wedi egluro y dylem gael asiantaeth lifogydd genedlaethol i Gymru, sy'n canolbwyntio 100 y cant ar lifogydd. A ydych chi'n cytuno â hynny?
Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru dalu iawndal i'r trigolion yr effeithiwyd arnynt yn y Rhondda. A ydych yn ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud hynny? Ac a ydych yn cytuno y dylech ymateb i lythyr y Cynghorydd Andrew Morgan drwy ymrwymo i adolygu sut y gellid modelu Cyfoeth Naturiol Cymru yn well wrth symud ymlaen?
Mae nifer y cwynion rwy'n eu derbyn am Cyfoeth Naturiol Cymru yn awr, a'r diffyg ymddiriedaeth sydd gan y cyhoedd yn y sefydliad hwn yn awr, yn peri cryn bryder. A wnewch chi wrando ar eiriau'r 22 arweinydd awdurdod lleol sydd â'u gwybodaeth leol eu hunain ac sy'n gwybod beth sy'n gweithio iddynt hwy a beth nad yw'n gweithio? Ac a wnewch chi edrych, os gwelwch yn dda, Weinidog, unwaith ac am byth, ar ailstrwythuro Cyfoeth Naturiol Cymru? Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch ichi am hynny, Janet Finch-Saunders. Nid wyf yn siŵr pa un o'ch cwestiynau niferus roeddech eisiau i mi ganolbwyntio arnynt, felly rwyf am ganolbwyntio ar y rhai sydd bwysicaf yn fy marn i. Yn gyntaf oll, rwyf eisoes wedi cael cyfarfod gyda thîm arwain Cyfoeth Naturiol Cymru, lle rwyf wedi bod yn hynod glir ynglŷn â fy nisgwyliadau ar gyfer sut y byddant yn rheoli adnoddau yn y dyfodol, sut y byddant yn rheoli'n gyffredinol, a'u perthynas ag awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru mewn dull tîm Cymru o weithredu.
Rydym eisoes yn cynnal adolygiad o'r trefniadau rheoli llifogydd, fel y dywedais. Mae gennym nifer fawr o drefniadau rheoleiddio yn dod yn ôl o Ewrop, ac rwyf eisoes wedi gofyn am drefnu adolygiad o strwythur a darpariaeth y pwerau rheoleiddio newydd hynny. Mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd o allu Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar yr holl adolygiadau hyn ar yr un pryd â darparu eu gwasanaethau hanfodol ar lawr gwlad.
Rwyf wedi gofyn i bob awdurdod rheoli llifogydd adolygu eu prosesau wrth i ni nesáu at y gaeaf nesaf. Rydym eisoes wedi cynnal dau ymarfer brys i sicrhau bod pawb yn gwybod pwy ddylai fod yn gwneud beth os bydd llifogydd eithafol neu ddigwyddiadau tywydd eraill yn digwydd yn ystod y gaeaf nesaf. Ac wrth gwrs, rwyf mewn cysylltiad agos â'r gymdeithas llywodraeth leol, corff y mae gennyf berthynas ragorol ag ef drwy gymwynasgarwch fy nghyfaill agos a fy nghyd-Aelod Rebecca Evans fel Gweinidog llywodraeth leol, i barhau i drafod yn gadarn â hwy a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae angen imi ddatgan buddiant yn y mater hwn, gan fy mod yn byw yng nghymuned Pentre, ac fe gefais fy effeithio yn bersonol gan lifogydd 2020.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae gennyf fy mhryderon a fy rhwystredigaethau fy hun gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe ddioddefodd dros 200 eiddo a busnes lifogydd yn y Rhondda y llynedd. Cymerwyd camau ar unwaith gan Lywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf i gyweirio'r systemau cwlfert a draenio. Darparwyd deialog glir ar gyfer y preswylwyr drwyddi draw. Yn anffodus, ni ellir dweud hyn am Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae trigolion yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd yn teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn teimlo bod diffyg atebolrwydd o fewn y corff cyhoeddus. Rwy'n rhannu'r safbwyntiau hyn.
Roedd ymddygiad Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn rhyddhau adroddiad adran 19 cyngor Rhondda Cynon Taf ar lifogydd Pentre yn warthus. Mae gwrthod cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ddigwyddiadau ofnadwy y llynedd yn sarhaus, o ystyried bod tystiolaeth glir mewn lluniau a fideos o weddillion pren o dir Cyfoeth Naturiol Cymru yn blocio'r cwlfert uwchben Pentre. Dylai cyrff cyhoeddus fod yn barod i gydweithredu â chyrff cyhoeddus eraill er budd trigolion. Nid ydym wedi gweld hynny o gwbl gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Rhondda. Am y rhesymau hyn, rwy'n credu bod angen adolygiad brys ar Cyfoeth Naturiol Cymru, a byddwn yn gwerthfawrogi cyfarfod gyda'r Gweinidog i drafod hyn ymhellach er budd y trigolion a'r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd.
Diolch am y sylwadau hynny, Buffy. Rwyf eisoes wedi croesawu adroddiad adran 19 Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â llifogydd 2020 ym Mhentre, ac rwy'n cydymdeimlo â'r holl drigolion, gan eich cynnwys chi, a ddioddefodd yn sgil y llifogydd yn y tywydd eithafol hwnnw y llynedd.
Mae'n amlwg fod yna rai canfyddiadau sy'n peri pryder mawr, ac mae'n amlwg fod angen dysgu gwersi yn dilyn y llifogydd dinistriol hynny. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf wedi cydnabod hyn yn eu hadroddiadau, a gwn eu bod yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag argymhellion i wella lefel yr amddiffyniad rhag llifogydd a ddarperir i'r gymuned. Ni allaf roi sylwadau ar y materion unigol sy'n ymwneud ag iawndal ac yn y blaen am resymau amlwg. Rwy'n fwy na bodlon cwrdd â chi ac arweinwyr awdurdodau lleol, ac mewn gwirionedd, credaf fod gennym gyfarfod o'r fath yn syth ar ôl y cwestiwn amserol hwn. Felly, byddaf wrth fy modd yn cymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw a rhoi ystyriaeth bellach i'r hyn y gallwn ei wneud.
Rwy'n awyddus iawn i ystyried yr adborth gan arweinwyr awdurdodau lleol, partneriaid cyflenwi eraill, a'r cyhoedd yng nghyd-destun y gwersi y mae angen i ni eu dysgu. Mae angen inni hefyd sicrhau bod pob awdurdod rheoli perygl llifogydd yn cydweithio i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer cymuned Pentre a'r cymunedau eraill ledled Cymru, er mwyn egluro'r camau y maent wedi'u cymryd ers y llifogydd yn 2020 ac i roi sicrwydd na fydd hynny'n digwydd eto yn y gaeaf sydd i ddod.
Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd a natur yn y Senedd oherwydd ein hinsawdd newidiol a'r rheidrwydd i ddiogelu rhag i ddigwyddiadau tywydd eithafol ddod yn llawer mwy cyffredin. Felly, rwy'n deall ac yn derbyn difrifoldeb y sylwadau rydych wedi'u gwneud a byddwn yn sicr yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd perthnasol i sicrhau bod gennym gynlluniau argyfwng cadarn ar waith, a'n bod wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol i wneud popeth y gallwn ei wneud i fod mor barod â phosibl ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Mae'n iawn inni ofyn cwestiynau i Cyfoeth Naturiol Cymru a chodais yr union fater hwn ddoe yn y Senedd, ond rwy'n bryderus ynghylch cywair y sylwadau a wnaethpwyd heddiw. Yn y pen draw, rwy'n credu bod angen inni gofio bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Yn eu hadolygiad a'u hadroddiad eu hunain ar y llifogydd, dywedasant eu bod wedi eu tangyllido a bod hynny wedi'i gofnodi ers nifer o flynyddoedd, ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, mae angen 60 i 70 aelod ychwanegol o staff arnynt, ac maent yn dal i fod heb eu cael.
Felly, a gaf fi ofyn am beidio â gwneud Cyfoeth Naturiol Cymru yn fwch dihangol ar hyn yn unig, ond ei bod yn bryd inni gael ymchwiliad annibynnol llawn i'r llifogydd? Oherwydd, wrth i weddill adroddiad adran 19 gael ei gyhoeddi, nid Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig fydd ar fai—bydd cwestiynau yn cael eu gofyn i Lywodraeth Cymru; bydd cwestiynau'n cael eu gofyn i awdurdodau lleol; bydd cwestiynau'n cael eu gofyn i Dŵr Cymru. Mae gan nifer o sefydliadau gyfrifoldeb am lifogydd ac mae'n ddarlun cymhleth iawn, a cheir rhesymau gwahanol. Hyd yn oed yn yr adroddiad adran 19, dywedir bod rhywfaint o fai ar gyngor Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â'r draeniau ym Mhentre hefyd, felly nid oedd yn canolbwyntio ar Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig.
Os gwelwch yn dda, o gofio'r anghydfod cyhoeddus hwn ac o ystyried yr holl bryderon a godwyd, a allwn ni gael yr ymchwiliad annibynnol hwnnw i'r llifogydd, er mwyn i bobl gael cyfiawnder a'r atebion y maent yn eu haeddu, ac a gawn ni fynd i'r afael â llifogydd unwaith ac am byth ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na chomisiynu adolygiad ar ôl adolygiad, a mynd i'r afael â'r achos sylfaenol a datrys y mater hwn ar frys?
Wel, diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny, Heledd. Rwy'n sicr yn cytuno â'r sylwadau lle'r oeddech yn canmol gwaith y nifer fawr o staff Cyfoeth Naturiol Cymru a weithiodd y tu hwnt i alwad dyletswydd yn ystod y llifogydd. A hoffwn ychwanegu fy niolch i'r staff hynny, gan gynnwys y staff sy'n gweithio'n benodol ar y materion hyn. Roedd staff o bob rhan o'r sector cyhoeddus yn gweithio'n galed iawn yn y cyfnod cyn y llifogydd ac yn wir yn ystod yr argyfwng wedyn—ymhell y tu hwnt i alwad dyletswydd, ac rwy'n sicr eisiau diolch iddynt am wneud hynny.
Fel y dywedais, rydym eisoes wrthi'n adolygu'r trefniadau rheoli llifogydd. Rydym eisoes wedi adolygu'r rheini gyda nifer o gyrff cyhoeddus ac rwyf eisoes wedi cyfarfod â thîm arwain Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn trafod fy ngofynion wrth symud ymlaen i gael cyswllt â hwy fel rhan o'n dull tîm Cymru, yn union fel yr amlinellwyd gennych.
Fel rwyf eisoes wedi'i esbonio i chi sawl gwaith yn y Senedd, nid wyf yn cytuno â'ch galwad am ymchwiliad annibynnol. Credaf fod hynny'n dargyfeirio adnoddau oddi wrth y mater dan sylw. Rwy'n sylweddoli nad ydych yn cytuno â hynny, ond mae arnaf ofn nad wyf yn cytuno â chi ar y pwynt hwnnw. Byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl bartneriaid eraill ledled Cymru i sicrhau ein bod yn ystyried yr holl wersi a ddysgwyd a bod gennym yr adnoddau cywir ar gael yn y lle iawn ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Hoffwn atgoffa pawb fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn llawer mwy nag awdurdod amddiffyn rhag llifogydd. Maent yn cyflogi 1,900 o staff ac mae ganddynt gyllideb o £180 miliwn. Nid yw hwn yn sefydliad bach heb ddigon o adnoddau ac rwy'n credu bod angen i'r cyhoedd yng Nghymru ddeall hynny yng ngoleuni'r sylwadau sy'n cael eu gwneud heddiw.
Diolch, Weinidog.