Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
O ran natur a rôl y busnes bach, credaf ein bod yn aml yn camddeall rôl busnesau bach. Nid peiriannau cyflogaeth mohonynt. Yn wir, mae nifer y busnesau bach o'i gymharu â maint y boblogaeth yn weddol sefydlog dros amser. Rwy'n credu bod gennym rywbeth tebyg i 6 miliwn o fusnesau bach yn y DU ar hyn o bryd—bron i 6 miliwn—ac o'r rheini, mae'r mwyafrif llethol ohonynt, dros eu hanner, yn cyflogi llai na 10 o bobl. Felly, ni allwn ddisgwyl i fusnesau bach fod yn beiriannau cyflogaeth. Clywaf bobl yn dweud mai busnesau bach yw anadl einioes yr economi, ond mewn gwirionedd, maent yn rhan eithaf sylfaenol o'r economi. Maent yn bodoli, ond nid ydynt yn beiriannau twf cyflym. Maent yn darparu sefydlogrwydd. Roeddent yn arfer dweud yn y 1970au y byddai problem diweithdra wedi ei datrys pe bai pob busnes bach yn cyflogi un gweithiwr ychwanegol. Wel, pe bai hynny'n wir, byddai wedi digwydd erbyn hyn, ac nid yw'n mynd i ddigwydd. Ond nid cyflogaeth yw'r unig amcan ychwaith, oherwydd gwyddom am dlodi mewn gwaith hefyd.
Credaf mai un o'r pethau allweddol sydd gan fusnesau bach yw cyfalaf cymdeithasol. Mae'n un o'r opsiynau allweddol sydd ganddynt fel elfen amgen yn lle cyflogaeth. Mae cyfalaf cymdeithasol yn allweddol oherwydd dyna lle mae'r wreichionen greadigol yn digwydd, pan fydd pobl yn rhyngweithio. Dyna lle mae busnesau cynaliadwy yn cael eu creu. Pan fydd pobl yn rhyngweithio â'u teulu a'u ffrindiau, gelwir hynny'n fondio cyfalaf cymdeithasol. Dyna pryd y mae busnesau bach yn dod o hyd i'w traed ac yn darganfod eu sylfaen. Ond mae twf busnesau bach yn digwydd drwy bontio cyfalaf cymdeithasol, pan fyddwn yn siarad â busnesau bach eraill, rhwydweithiau eraill. Fy mhryder ynglŷn â'r pandemig yw ei fod wedi crebachu rhwydweithiau mewn ffordd a fydd yn cymryd amser hir i'w hailadeiladu. Felly, mae ailadeiladu'r rhwydweithiau busnes hynny dros amser yn wirioneddol bwysig. Hoffwn weld hynny'n rhan allweddol o strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, nid yn unig creu busnes ond creu rhwydweithiau busnes. Os yw busnesau'n mynd i dyfu a llwyddo, credaf y bydd hynny'n gwbl allweddol.
Ni fydd y BBaChau ar eu pen eu hunain yn y sector twristiaeth yn ein galluogi i adfer; nid ydym yn ddigon naïf i gredu y bydd hynny'n ddigon. Mae'n rhaid i'r sector twristiaeth chwarae rhan yn yr adferiad, a mwy o ran nag a chwaraeai cyn y pandemig. Credaf fod hynny'n bwysig. Rydym yn aml yn meddwl mai twristiaeth yw ardaloedd glan y môr yng Nghymru, Bannau Brycheiniog, Yr Wyddfa, Eryri. Ystyriwn y rheini yn ardaloedd twristiaeth allweddol. Ond fe fyddwch yn gwybod bod gan Gymoedd de Cymru—a gallaf weld y Gweinidog, Dawn Bowden, yn cytuno—lawer iawn i'w gynnig. Mae gan ein cymuned ym mwrdeistref Caerffili lawer iawn i'w gynnig, ac rwy'n credu nad oes digon o bwyslais wedi bod arno fel lleoliad twristiaeth. Rydym yn sôn am deithiau dydd i gastell Caerffili, ond mae'n gymaint mwy na hynny. Mae gan Gaerffili gymaint mwy i'w gynnig. Cyfarfûm â'r Gweinidog yng nghastell Caerffili—pryd oedd hyn, dair wythnos yn ôl—ac roeddem yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £5 miliwn er mwyn i Cadw drawsnewid castell Caerffili fel lleoliad y flwyddyn nesaf. Ond yr hyn rydym hefyd eisiau ei wneud yw gwella'r strydluniau, rydym eisiau gwella'r llwybr twristiaeth, oherwydd mae'r rhwydweithiau cymdeithasol hynny y mae busnesau bach yn dibynnu arnynt hefyd yn dibynnu ar y gymdeithas y maent yn gweithredu ynddi. Felly, nid yw'n ymwneud â gwella un lleoliad yn unig, ond yn hytrach, â gwella'r amgylchedd yn ei gyfanrwydd.
Mae gennym hefyd faenordy Llancaiach Fawr o'r ail ganrif ar bymtheg. Mewn gwirionedd, fy nhad a wnaeth hwnnw'n weithredol pan oedd yn gadeirydd pwyllgor cynllunio Cyngor Dosbarth Cwm Rhymni ym 1982, a gallaf brofi hynny i chi. Os nad ydych yn fy nghredu—gwelaf fod y fainc flaen yn edrych yn amheus—gallaf brofi hynny i chi, oherwydd mae plac yno gyda'i enw arno. Ac os yw'r Dirprwy Weinidog eisiau dod i ymweld â'r lle, gallaf ddangos y plac iddi hithau hefyd, er bod angen ei lanhau os oes gan Lywodraeth Cymru rywfaint o arian ar gyfer hynny. Mae gennym barc Penallta hefyd ac mae gennym Barc Cwm Darran. Mae gennym gofeb genedlaethol glowyr Cymru a'r gerddi yn Senghennydd. Mae'n werth ymweld â'r rheini, ac rwy'n gwybod bod Tywysog Cymru wedi ymweld â'r lleoliad hwnnw yn y gorffennol; rwyf wedi gweld y llofnod yn y llyfr ymwelwyr. Mae gennym rodfa goedwig Cwm Carn; mae honno yn etholaeth Rhianon Passmore, ond ni fyddai'n maddau i mi pe na bawn i'n sôn amdani. Mae gennym gyrsiau golff fel Bryn Meadows a Bargoed. Mae gennym westai fel Neuadd Llechwen. Mae tafarn Murray's ym Margoed yn eithaf anhygoel, ac mae Aber Hotel bellach yn gweini bwyd. Mae'n rhaid i mi ddweud y pethau hyn oherwydd fy mod wedi'u gweld, maent yn bodoli ac maent yn anhygoel. A hefyd, gyda llaw, os ydych chi awydd mynd i sba, gallwch fynd i sba Captiva ym Mhwll-y-pant, cael triniaeth adweitheg gan Emma Burns Complementary Therapies, neu fynd at Lisa Morgan Beauty yng Nghanolfan Glowyr Caerffili.
Felly, rydym yn edrych ar yr heriau—[Torri ar draws.] Mae hyn i gyd yn mynd ar Facebook; rydych yn gywir. Rydym yn meddwl am yr heriau rydym yn eu hwynebu yn ein cymunedau o ganlyniad i COVID. Un o'r pethau a ddywedodd rhywun wrthyf ar fy nhudalen Facebook, pan ddywedais wrthynt nad oedd y cyhoeddiad yn Lloegr nad berthnasol i Gymru, oedd, 'Mae gennyf grwpiau mawr iawn o ffrindiau sydd bellach yn archebu gwestai ac yn teithio i Loegr. Mae gennyf ddigon o ffrindiau yn Llundain hefyd sydd bellach yn mynd ar wyliau i Ddyfnaint a Chernyw. Ni fydd twristiaeth Cymru yn cael unrhyw archebion o dan y cyfyngiadau presennol. Bydd swyddi'n cael eu colli yn anffodus'. Wel, fe wnes chwiliad i hyn. Mewn gwirionedd, mae'n anodd iawn dod o hyd i rywle i aros yng Nghymru yr haf hwn. Mae pobl yn mynd ar wyliau yn y wlad hon, ac nid wyf yn credu bod yn rhaid i ni boeni nad yw'r sector twristiaeth yn cael ymwelwyr eleni.
Hoffwn ddweud rhywbeth am lacio rheolau hefyd. Mae arolygon barn yn dangos nad yw'r rhan fwyaf ohonom eisiau i'r rheolau gael eu llacio'n rhy helaeth, yn enwedig mewn perthynas â masgiau. Mae perygl gwirioneddol y bydd y rhan fwyaf ohonom yn cadw draw o leoliadau lletygarwch pan nad yw gwisgo masg yn orfodol mwyach. Byddai hyn yn effeithio'n niweidiol ar y sector twristiaeth. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed beth fyddai'r Ceidwadwyr yn ei ddweud am hynny. Ond rwy'n credu bod canlyniadau, a hoffwn i'r Llywodraeth ystyried hynny fel rhan o'u hadolygiad yr wythnos nesaf. Rwy'n gwybod ei fod yn ymwneud â thystiolaeth glinigol ac rwy'n gwybod ei fod yn ymwneud yn llwyr â'r hyn y mae'r swyddog meddygol yn ei ddweud, ond fe allai fod canlyniadau anfwriadol os yw'r Prif Weinidog yn dweud nad oes gorfodaeth i wisgo masgiau mwyach.
Yn olaf, hoffwn sôn am yr ardoll dwristiaeth, oherwydd rwy'n siŵr nad oes amheuaeth y bydd y Ceidwadwyr yn sôn amdani, a hoffwn glywed beth sydd gan Blaid Cymru i'w ddweud am hyn hefyd. Mewn gwirionedd, rwy'n cefnogi ardoll dwristiaeth yn y ffordd y mae'n cael ei chynnig drwy awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru. Ond mae angen mwy o eglurder arnom, Weinidog, ynglŷn â diben yr ardoll, oherwydd dywedir na fydd yn cael ei neilltuo. Felly, sut y bydd hynny'n gweithio? Sut y bydd yr ardoll arfaethedig yn gweithio? Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dweud wrthym fod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod rhagofal a phryderon llawer yn y sector ynghylch y cynnig. Ni fyddem eisiau iddo fygwth hyfywedd, ond ar yr un pryd, rwyf eisoes wedi sôn am olwg y stryd yng Nghaerffili. Pe bai gan gyngor Caerffili ffynhonnell ychwanegol o gyllid i ddatrys rhai o'r materion hynny y gellir eu targedu'n uniongyrchol mewn perthynas â thwristiaeth, credaf y byddai'n rhywbeth y dylem ei groesawu. O ganlyniad, credaf na fydd ardoll dwristiaeth, os caiff ei gwneud yn iawn, yn niweidio twristiaeth. Gallai wella twristiaeth yn yr ystyr honno mewn gwirionedd. Ond rwy'n credu mai'r hyn rydym ei eisiau'n wirioneddol yw mwy o fanylion am hynny. Credaf fod angen inni glywed sut y bydd hynny'n cael ei wneud. Sylwaf fod Adam Price wedi dweud yn 2017 ei fod yn syniad a haeddai gael ei archwilio. Felly, hoffwn wybod beth yw safbwynt Plaid Cymru, ac rwy'n fwy na pharod i glywed mwy gan y Ceidwadwyr ynglŷn â pham na ddylid ei wneud. Efallai y dof yn ôl ato, felly, wrth grynhoi ar y diwedd.
Yn olaf, mae rhan allweddol o'n cynnig yn ymwneud â rhanddeiliaid, ac os yw adferiad yn mynd i weithio, credaf fod angen i leisiau busnesau bach chwarae rhan yn yr hyn sy'n dod nesaf. Mae gan y sector twristiaeth lais enfawr yn yr hyn y maent eisiau ei weld. Byddwn yn pryderu pe byddem yn gweld ffyniant eleni a bod hwnnw'n cael ei ddilyn gan fethiant y flwyddyn nesaf, pan fydd pawb yn penderfynu mynd dramor eto. Rwy'n credu bod yn rhaid i leoliadau twristiaeth fod yn ofalus, oherwydd os byddant yn codi crocbris eleni bydd hynny'n atal pobl y flwyddyn nesaf, ond ar yr un pryd mae angen i ni hefyd edrych ar ganlyniadau marchnad chwyddedig eleni a fydd yn llai wedyn y flwyddyn nesaf. Tybed beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hynny. Sut y maent yn cynllunio ymlaen llaw, nid ar gyfer 2021, ond ar gyfer 2022, a pha randdeiliaid y byddant siarad â hwy er mwyn datrys y mater hwnnw a chynllunio ar gyfer y sefyllfa gylchol honno?
Felly, drosodd atoch chi—at yr Aelodau. Rwyf eisiau clywed yr hyn a fydd yn cael ei ddweud heddiw. Rwyf am wneud nodiadau fel lladd nadroedd, a gobeithio y byddaf yn gwneud cyfiawnder â'r hyn a fydd wedi'i ddweud ar ddiwedd y ddadl.