5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Busnesau bach a thwristiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:59, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw a'r cyfle i siarad am rôl busnesau bach yn cynnal economïau lleol. Fel y dywedodd yr Aelod dros Gaerffili, mae busnesau bach yn ganolog i'n pentrefi a'n trefi, ac mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, mae'r busnesau bach hynny'n rhan o sector twristiaeth a lletygarwch blaenllaw. Yn anffodus, tarodd y pandemig lawer o'r busnesau hynny'n galed, ac er bod rhai wedi gallu goroesi'r storm, nid oedd eraill mor ffodus. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i fusnesau, ac mae busnesau yn sir Benfro wedi bod yn ddiolchgar am y cymorth hwnnw. Fodd bynnag, i lawer, nid aeth yr arian hwn yn ddigon pell i wneud iawn am golli refeniw drwy gydol y pandemig. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod llawer o fusnesau wedi syrthio drwy'r rhwyd ac nad oeddent yn gallu cael cymorth yn gyflym, gan fygwth cynaliadwyedd eu busnesau. 

Yn ystod y pandemig, cynhaliais gyfres o fforymau twristiaeth lleol rhithwir, gyda fy Aelod Seneddol lleol, i glywed gan fusnesau am yr heriau roeddent yn eu hwynebu, ac fe'i gwnaethant yn glir iawn mai'r hyn roeddent ei angen fwyaf gan Lywodraeth Cymru oedd cefnogaeth, ac eglurder yn wir. Roedd llawer yn teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwrando arnynt a bod polisïau a rheoliadau Llywodraeth yn cael eu gwneud heb ystyried yr effaith y byddent yn ei chael ar fusnesau llai.

Nawr, mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector busnesau bach a'r sector twristiaeth er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Mae angen i'n strategaeth economaidd ganolbwyntio ar gynnal a datblygu ein diwydiant twristiaeth fel un o sylfeini ein heconomi sydd o bwys cenedlaethol. Mae gennym gyfoeth o ran treftadaeth, iaith, morweddau, cefn gwlad, chwaraeon a chestyll, ac ni ddylem byth danbrisio pa mor bwysig yw twristiaeth i ni yng Nghymru gyda chymaint o fusnesau'n dibynnu arni. Mae'r busnesau sy'n rhan o'n sector twristiaeth yn dibynnu'n fawr ar ddiwydiannau eraill megis lletygarwch, ffermio a chynhyrchu bwyd yn ogystal â datblygu canol trefi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol. Ni allwn danbrisio pwysigrwydd datblygiadau ffyrdd, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a buddsoddiad yng nghanol y trefi hynny i'w cynnal a'u cadw'n ddeniadol i ymwelwyr.

Cytunaf â rhanddeiliaid fel y Ffederasiwn Busnesau Bach fod angen i Weinidogion weithio gyda'r diwydiant i sefydlu sut y byddwn yn ymadfer ar ôl y pandemig a sut ddyfodol sydd o'n blaenau, nid yn unig fel ymateb i COVID, ond oherwydd bod dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar economi gref wedi'i chynnal gan fusnesau bach fel anadl einioes ein cymunedau. 

Nawr, mae'r cynnig yn cydnabod ymgyrch Llywodraeth Cymru i annog pobl i fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a chefnogi ein sector twristiaeth yn y wlad hon. Wrth i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar hyrwyddo gwyliau yng Nghymru, mae'n hanfodol fod Gweinidogion yn gweithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn. Er mwyn cydnabod potensial ein cynnig twristiaeth yn llawn, mae'n rhaid cydweithio â'r sector. Yn anffodus, yn hytrach na hynny, amlinellodd rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru gynlluniau i ymgynghori ar ddeddfwriaeth i ganiatáu i awdurdodau lleol godi ardoll dwristiaeth, er gwaethaf yr effaith andwyol y bydd y dreth honno'n ei chael ar y sector. Nawr, gofynnodd yr Aelod dros Gaerffili, ar ddechrau'r ddadl hon, inni fynegi barn ar dreth dwristiaeth bosibl. Wel, mae'n debyg na fydd yn synnu clywed fy mod yn gwrthwynebu treth dwristiaeth; mae'n rhywbeth y mae busnesau yn sir Benfro yn ei erbyn ac rwy'n cytuno â hwy y gallai gael effaith ddinistriol ar y sector ar adeg pan fo'n ceisio sefydlogi yn dilyn y pandemig.

Nawr, mae gennym gyfle, ar ôl y pandemig, i fod yn arloesol yn y ffordd y cefnogwn fusnesau bach, a busnesau newydd yn enwedig, ac efallai y bydd y Gweinidog yn dweud wrthym wrth ymateb i'r ddadl hon beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â busnesau newydd mewn sectorau sy'n bodoli eisoes fel twristiaeth a lletygarwch, sy'n hanfodol i ni fel gwlad.

Yn gynharach eleni, dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans

'ar ôl y pandemig, bydd cyfle i adeiladu Cymru newydd sy'n cael ei gyrru gan fusnesau arloesol ac entrepreneuraidd yn y wlad hon sydd â delfrydau cymdeithasol ac amgylcheddol wrth wraidd popeth a wnânt.'

Wrth gwrs, mae'n llygad ei le: mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cynnydd mewn gweithgarwch entrepreneuraidd ac annog busnesau newydd fel ffordd o ysgogi adferiad economaidd. Mae Cymru angen strategaethau a syniadau newydd i gefnogi busnesau newydd ac mae arni angen strategaeth sy'n ceisio tyfu ein heconomi drwy gydnabod pwysigrwydd busnesau bach ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru greu'r meddylfryd newydd hwnnw yn awr.

Ddirprwy Lywydd, mae'r economi dwristiaeth yn cefnogi tua 16,000 o swyddi llawn amser ac yn dod â £585 miliwn i sir Benfro yn unig, ac mae'n sector rhyng-gysylltiedig sy'n cefnogi ein diwydiannau ffermio, lletygarwch a chreadigol. Ac wrth wraidd y ffigurau hynny mae busnesau bach, felly mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain pa mor bwysig yw busnesau bach i'n heconomïau lleol o ran darparu swyddi hanfodol a datblygu cadwyni cyflenwi lleol ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.