5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Busnesau bach a thwristiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:04, 7 Gorffennaf 2021

Mae'r pwynt wedi cael ei wneud yn barod yn y ddadl: pan dŷn ni'n meddwl am y diwydiant twristiaeth, dŷn ni'n tueddu canolbwyntio'n bennaf ar ein harfordiroedd, ein mynyddoedd, a'n parciau cenedlaethol. Ond mae Cymru yn disgleirio gyda chymaint o lefydd hardd sydd yn gudd, efallai; gemau disglair o dan yr wyneb sy'n haeddu denu mwy o ymwelwyr.

Dŷn ni eisoes hefyd wedi clywed yn y ddadl am ba mor angenrheidiol yw hi i helpu'r diwydiant twristiaeth—sector sydd yn wynebu tri gaeaf, fel mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi'n hatgoffa. Collodd chwarter y busnesau yn y sector yng Nghymru dros 80 y cant o’u refeniw arferol yn 2020, felly mae’n amlwg bod angen strategaeth i helpu adferiad y busnesau hyn.

Ond, hoffwn i weld rhan o’r strategaeth honno yn canolbwyntio ar helpu busnesau bach mewn rhanbarthau fel y de ddwyrain, sy’n ceisio denu ymwelwyr i’r cymunedau yma, sydd yn hyfryd ac sydd yn fywiog—strategaeth sydd yn helpu hosteli sy’n gwasanaethu’r rhai sy’n cerdded neu sydd yn beicio ar lwybr y Taf; sy’n cynorthwyo bwytai a tea rooms sy’n edrych mas dros ein cestyll a’n golygfeydd gogoneddus; sy’n cefnogi grwpiau sydd yn dathlu ein treftadaeth ddiwydiannol—mae'r pwynt yma wedi cael ei sôn amdano fe ychydig yn beth yr oedd Hefin yn ei ddweud—gyda phennau’r pyllau, y traphontydd neu'r viaducts, a'r gwaith maen mawreddog a oedd unwaith mor ogoneddus.

Hoffwn i weld y strategaeth yma yn egluro sut y bydd yn gweithio gyda grwpiau lleol hefyd, drwy weithio gyda busnesau bach sydd wedi’u hymgorffori yn eu cymunedau; sydd yn hybu ymwybyddiaeth o draddodiadau Cymraeg; ac sydd yn defnyddio cadwyni cyflenwi a chynnyrch lleol. Mae gennym gyfle yma i arddangos mwy o gynnyrch lleol ac i gefnogi cymaint o gadwyni cyflenwi bychain sydd wedi dioddef cymaint gyda Brexit a’r pandemig.

Dylai unrhyw drafodaeth am adferiad ar ôl COVID ffeindio ffyrdd o rymuso ein cymunedau—ie, efallai trwy levy; mae'n rhaid i ni ystyried hynny—a meithrin twristiaeth sydd yn foesegol, ethical tourism, sydd ddim yn defnyddio’r golygfeydd fel cefndir yn unig ar gyfer digwyddiadau a allai fod yn digwydd yn unrhyw le. Dyma dwristiaeth sydd ddim yn ychwanegu at yr argyfyngau hinsawdd neu natur.

Er budd cyflogwyr a’n cymunedau ni hefyd, rwy’n mawr obeithio y bydd y strategaeth sy’n deillio o hyn oll yn adlewyrchu’r pwyntiau dwi wedi eu codi heddiw. Bydd mwy o bobl yn mynd ar wyliau yn nes at gartref eleni, ac maent yn debygol o ddod ar draws agweddau godidocaf ein cenedl o’r newydd. Gadewch i ni ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod pobl wastad yn gallu teimlo'r un rhyfeddod hwnnw pan fyddent yn ymweld â Chymru, a’u bod yn dysgu ein hanesion difyr.