Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Hefin David am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Senedd heddiw? A gwn fod nifer o Aelodau wedi'i defnyddio i dynnu sylw at gyrchfannau twristiaeth gwych yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau; fe fyddwch yn falch o wybod na fyddaf yn gwneud hynny. Nid wyf am sôn am lan y môr Aberafan mewn ymgais i ennill ffafriaeth y Dirprwy Lywydd yn fy rhanbarth. [Chwerthin.] Ni fyddwn yn breuddwydio gwneud hynny.
Y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn benodol yw un o'r sectorau sydd wedi dioddef waethaf ers i'r pandemig daro, a hoffwn groesawu'r lefelau digynsail o gefnogaeth a roddwyd i'r diwydiant gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Gellid dadlau mai twristiaeth a lletygarwch yw'r sectorau yn ein heconomi sydd wedi dioddef fwyaf dros y 18 mis diwethaf, drwy wahaniaethau difrifol neu'r addasiadau a osodwyd ar y sector, neu drwy gael eu gorfodi i gau'n gyfan gwbl. Mae'r ffaith bod rhai ohonynt yn dal i sefyll a gweithredu heddiw yn dyst i wydnwch y perchnogion busnesau bach hynny, eu staff a'r sector cyfan, ac fel y trafodwyd eisoes, gwyddom pa mor bwysig yw'r sector lletygarwch i economi Cymru.
Cyn y pandemig, cyflogai'r sector oddeutu 174,000 o bobl, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ac ychwanegai oddeutu £3.6 biliwn at werth ychwanegol gros Cymru. Mae hyn yn gwneud lletygarwch yn un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 10 y cant o'r gweithlu cenedlaethol. Gwyddom hefyd fod hwn yn sector sydd wedi elwa'n anghymesur o gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU. Ond tynnodd baromedr twristiaeth diweddaraf Cymru sylw at y newyddion calonogol fod tua 69 y cant o weithredwyr mewn rhyw ffordd yn hyderus y gallant redeg eu busnes yn broffidiol am weddill y flwyddyn, ond nid yw'r hyder hwnnw'n gyson ar draws y sector. Felly, er bod yr economi'n dechrau ailagor, mae rhai busnesau'n dal i gael trafferth o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus. Er enghraifft, mae'r mwyafrif—62 y cant—o fusnesau yn y sector twristiaeth yn gweithredu ar lai na chapasiti llawn, maent wedi cael llai o ymwelwyr nag arfer, ac er bod gan oddeutu 40 y cant o'r busnesau a oedd wedi derbyn archebion ymlaen llaw i mewn i 2021 fwy na'r arfer ar yr adeg hon o'r flwyddyn, nid yw'r addewid hwnnw wedi ei rannu ym mhob sector. Felly, yn y sector llety â gwasanaeth, dim ond 60 y cant o'r capasiti sydd ar gael sydd wedi'i archebu, o'i gymharu â 90 y cant yn y sector hunanarlwyo.
Felly, yn fwy nag unrhyw haf arall, yr haf hwn a ddylai fod yn haf i fynd ar wyliau yn y DU ac yng Nghymru, ac er fy mod yn rhannu optimistiaeth Hefin David ar gyfer y sector yn 2021, mae'n haf o gyfle a heriau i'r sector, oherwydd mae yna sectorau sy'n dal i gael trafferth gyda niferoedd ymwelwyr. Roedd tafarndai a chaffis yn gweithredu gyda 63 y cant yn llai o ymwelwyr nag arfer yn ystod hanner tymor mis Mai, ac roedd darparwyr gweithgareddau yn gweithredu ar 82 y cant yn llai o ymwelwyr nag arfer.
Mae'r pandemig wedi pwysleisio ymhellach y ddibyniaeth ar dwristiaeth a'r sector lletygarwch yn ogystal â busnesau bach eraill i gefnogi swyddi ac economïau lleol yng nghymunedau Cymru. Fodd bynnag, mae llawer o'r swyddi hyn yn parhau i fod mewn perygl, er bod yr economi'n dechrau ailagor. Canfu ymchwil a wnaed gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith fod bron i un o bob pum swydd yng Nghymru mewn sectorau a gaewyd, sef, yn fwyaf aml, teithio, twristiaeth, lletygarwch a manwerthu nad yw'n hanfodol, sef y rhai y mae cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio fwyaf arnynt. Yn ôl Banc Datblygu Cymru, roedd tua 21 y cant o BBaChau yng Nghymru wedi cau neu oedi masnachu dros dro yn ystod y pandemig, gyda'r rhan fwyaf o'r rhain, unwaith eto, yn y sector hamdden a lletygarwch, ac nid oedd gan draean o BBaChau unrhyw gronfeydd arian wrth gefn, neu lif arian ar ôl ar gyfer mwy na thri mis.
Felly, gyda hyn i gyd mewn golwg, erys y cwestiwn: beth y gallwn ei wneud i gefnogi'r sector sydd mor hanfodol i economi Cymru fel y gwyddom, ond sydd hefyd wedi wynebu aflonyddwch sylweddol ar yr un pryd? Er bod grantiau a phecynnau cymorth y Llywodraeth gan y ddwy Lywodraeth wedi cael croeso mawr iawn, nid yw'r rhan fwyaf o fusnesau yn y maes hwn rwyf wedi siarad â hwy eisiau dibynnu ar y grantiau hyn am byth. Felly, un o'r pethau y gallai Llywodraeth Cymru ei ystyried yn ei hadolygiad nesaf yw gweld a oes lle ganddynt i allu edrych ar ostwng y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol o 2m i'r rheol 1m a mwy, fel sy'n digwydd eisoes yn Lloegr a'r Alban. Mae'n debyg y byddai hyn yn mynd ymhellach nag unrhyw fesurau ariannol a gynigir i fusnesau ac yn caniatáu iddynt allu gweithredu'n ddiogel, ond hefyd mor agos at normalrwydd â phosibl. Oherwydd, wrth i'n hymgyrch frechu yng Nghymru a ledled y DU barhau, mae angen inni ofyn i ni'n hunain, 'Wel, os nad nawr, pryd?' Byddai newid bach fel hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i sector sydd wedi cael trafferth dros y 18 mis diwethaf.
Er fy mod yn ymwybodol fod diwydiannau eraill wedi'u heffeithio gan y pandemig COVID, twristiaeth a lletygarwch yn aml yw'r rhai sydd wedi gweld yr effeithiau mwyaf difrifol, ac rwy'n gobeithio bod cynllun adfer allweddol ar gael i helpu'r diwydiant i ffynnu, nid yn unig yr haf hwn, ond yn 2022 a thu hwnt.