Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn 2021-22 unwaith eto yn canolbwyntio yn llwyr ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Mae'n rheoleiddio'r dyraniadau pwysig a wnaeth y Llywodraeth Cymru flaenorol i'n helpu ni a'n partneriaid i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i effaith y coronafeirws. Mae hefyd yn darparu cyfle i wneud newidiadau technegol sy'n ailddatgan cyllidebau Llywodraeth Cymru yn unol â'r portffolios gweinidogol newydd sy'n deillio o'r weinyddiaeth newydd, yn ogystal ag adlewyrchu addasiadau o ddigwyddiadau cyllidol diweddar y DU.
Mae'r gyllideb hon yn gwneud cynnydd o dros £1.1 biliwn i adnoddau cyllidol cyffredinol Cymru, gyda chynnydd o 5 y cant ar sefyllfa y gyllideb derfynol. Mae cyfanswm o £793 miliwn o gynnydd yn ein cynlluniau gwariant cyllidol, cynnydd o 4.1 y cant ers y gyllideb derfynol. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dros £700 miliwn o ddyraniadau i gyllidebau adrannol, ac mae £627 miliwn yn ddyraniadau o gronfa ymateb COVID-19. Un o'r blaenoriaethau allweddol fu cefnogi ein GIG a'i weithlu wrth iddo barhau i fod dan straen na welwyd ei debyg o'r blaen wedi ei achosi gan y pandemig. Ar gyfer hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £100 miliwn o gyllid ychwanegol i'w ddefnyddio ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd. I gefnogi economi Cymru, rydym wedi dyrannu £352.2 miliwn i ymestyn gwyliau ardrethi busnes y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, cymorth a fydd yn ymestyn hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, rhyw chwe mis yn hirach na'r rhyddhad cyfatebol a ddarperir yn Lloegr. Rydym ni wedi darparu £55 miliwn i helpu busnesau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer amodau masnachu mwy arferol.
Rydym wedi darparu dros £39 miliwn ar gyfer parhau â'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i gefnogi dysgu ac addysgu, gan ganolbwyntio'n benodol ar gymorth i'r dysgwyr mwyaf agored i niwed a difreintiedig. Dyrannwyd £19 miliwn arall i sicrhau bod plant yn parhau â'u cynnydd dysgu yn dilyn aflonyddwch yn ystod y pandemig, gan ganolbwyntio ar les plant a staff. Gwnaed dyraniad o £33 miliwn i addysg bellach ac awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr coleg a chweched dosbarth i ariannu amser addysgu ychwanegol, ac mae £6 miliwn wedi ei ddyrannu i gefnogi 1,400 o athrawon dan hyfforddiant sydd mewn hyfforddiant cychwynnol athrawon ar hyn o bryd i gwblhau eu cymwysterau a symud i addysgu amser llawn.
Mae mynediad at ddigwyddiadau hamdden, adloniant, chwaraeon a diwylliannol i blant a phobl ifanc yn hanfodol wrth adfer o effeithiau COVID-19. Dyna pam yr ydym yn darparu £4.5 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i gynnal gweithgareddau yn rhan o'r Haf o Hwyl. Ac rydym yn dyrannu £2 miliwn i'r sector addysg awyr agored preswyl yn gymorth i dalu am gostau gweithredu hanfodol. Mae'r gronfa adfer diwylliannol wedi rhoi cymorth hanfodol i unigolion ac i sector a fyddai'n wynebu cael ei ddinistrio pe na bai Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i ddarparu cymorth hanfodol. Dyna pam yr ydym yn dyrannu £30 miliwn i ymestyn y gronfa a chefnogi diwylliant amrywiol Cymru trwy'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu.
Er mwyn cefnogi Trafnidiaeth Cymru i dalu costau gweithredu'r rhwydwaith rheilffyrdd o fis Medi tan ddiwedd mis Tachwedd, rydym wedi dyrannu £70 miliwn. Ac mae £100 miliwn arall wedi ei ddyrannu ar gyfer mesurau nad ydyn nhw'n gysylltiedig â COVID, fel y rhaglen gyfnewid ryngwladol i Gymru ar gyfer dysgu sy'n newydd a chyffrous, cymorth hanfodol i Faes Awyr Caerdydd a dyraniadau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau o Lywodraeth y DU.
Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r anawsterau parhaus a achoswyd gan ddiffyg eglurder Llywodraeth y DU o ran penderfyniadau polisi sydd â goblygiadau cyllid i Gymru. Mae'r ansicrwydd hwn yn cael effaith andwyol ar ein setliad cyllid, gan ein rhoi o dan anfantais barhaus wrth gynllunio a rheoli ein cyllideb. Rwy'n dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol o ran benthyca a chronfa wrth gefn Cymru.
Yn erbyn cefndir y pandemig, mae'n hanfodol bod ein galwadau yn cael eu cydnabod i gefnogi cynllunio ariannol effeithiol i alluogi twf ac adferiad. Diolch i'r pwyllgor am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad. Byddaf yn darparu ymateb manwl maes o law, ond rwy'n bwriadu derbyn yr argymhellion. Rwy'n parhau i weithio gyda chyd-Aelodau i nodi'r pwysau sy'n gysylltiedig ag ymateb i'r pandemig a chyfleoedd i ariannu mesurau adfer COVID, a byddaf yn gwneud rhagor o gyhoeddiadau maes o law. Bydd yr holl ddyraniadau pellach yn cael eu rheoleiddio yn yr ail gyllideb atodol yn ddiweddarach eleni. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig