9. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22

– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 13 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:32, 13 Gorffennaf 2021

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2021-22. Rwy'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7726 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 22 Mehefin 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:32, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn 2021-22 unwaith eto yn canolbwyntio yn llwyr ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Mae'n rheoleiddio'r dyraniadau pwysig a wnaeth y Llywodraeth Cymru flaenorol i'n helpu ni a'n partneriaid i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i effaith y coronafeirws. Mae hefyd yn darparu cyfle i wneud newidiadau technegol sy'n ailddatgan cyllidebau Llywodraeth Cymru yn unol â'r portffolios gweinidogol newydd sy'n deillio o'r weinyddiaeth newydd, yn ogystal ag adlewyrchu addasiadau o ddigwyddiadau cyllidol diweddar y DU.

Mae'r gyllideb hon yn gwneud cynnydd o dros £1.1 biliwn i adnoddau cyllidol cyffredinol Cymru, gyda chynnydd o 5 y cant ar sefyllfa y gyllideb derfynol. Mae cyfanswm o £793 miliwn o gynnydd yn ein cynlluniau gwariant cyllidol, cynnydd o 4.1 y cant ers y gyllideb derfynol. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dros £700 miliwn o ddyraniadau i gyllidebau adrannol, ac mae £627 miliwn yn ddyraniadau o gronfa ymateb COVID-19. Un o'r blaenoriaethau allweddol fu cefnogi ein GIG a'i weithlu wrth iddo barhau i fod dan straen na welwyd ei debyg o'r blaen wedi ei achosi gan y pandemig. Ar gyfer hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £100 miliwn o gyllid ychwanegol i'w ddefnyddio ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd. I gefnogi economi Cymru, rydym wedi dyrannu £352.2 miliwn i ymestyn gwyliau ardrethi busnes y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, cymorth a fydd yn ymestyn hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, rhyw chwe mis yn hirach na'r rhyddhad cyfatebol a ddarperir yn Lloegr. Rydym ni wedi darparu £55 miliwn i helpu busnesau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer amodau masnachu mwy arferol.

Rydym wedi darparu dros £39 miliwn ar gyfer parhau â'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i gefnogi dysgu ac addysgu, gan ganolbwyntio'n benodol ar gymorth i'r dysgwyr mwyaf agored i niwed a difreintiedig. Dyrannwyd £19 miliwn arall i sicrhau bod plant yn parhau â'u cynnydd dysgu yn dilyn aflonyddwch yn ystod y pandemig, gan ganolbwyntio ar les plant a staff. Gwnaed dyraniad o £33 miliwn i addysg bellach ac awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr coleg a chweched dosbarth i ariannu amser addysgu ychwanegol, ac mae £6 miliwn wedi ei ddyrannu i gefnogi 1,400 o athrawon dan hyfforddiant sydd mewn hyfforddiant cychwynnol athrawon ar hyn o bryd i gwblhau eu cymwysterau a symud i addysgu amser llawn.

Mae mynediad at ddigwyddiadau hamdden, adloniant, chwaraeon a diwylliannol i blant a phobl ifanc yn hanfodol wrth adfer o effeithiau COVID-19. Dyna pam yr ydym yn darparu £4.5 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i gynnal gweithgareddau yn rhan o'r Haf o Hwyl. Ac rydym yn dyrannu £2 miliwn i'r sector addysg awyr agored preswyl yn gymorth i dalu am gostau gweithredu hanfodol. Mae'r gronfa adfer diwylliannol wedi rhoi cymorth hanfodol i unigolion ac i sector a fyddai'n wynebu cael ei ddinistrio pe na bai Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i ddarparu cymorth hanfodol. Dyna pam yr ydym yn dyrannu £30 miliwn i ymestyn y gronfa a chefnogi diwylliant amrywiol Cymru trwy'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu.

Er mwyn cefnogi Trafnidiaeth Cymru i dalu costau gweithredu'r rhwydwaith rheilffyrdd o fis Medi tan ddiwedd mis Tachwedd, rydym wedi dyrannu £70 miliwn. Ac mae £100 miliwn arall wedi ei ddyrannu ar gyfer mesurau nad ydyn nhw'n gysylltiedig â COVID, fel y rhaglen gyfnewid ryngwladol i Gymru ar gyfer dysgu sy'n newydd a chyffrous, cymorth hanfodol i Faes Awyr Caerdydd a dyraniadau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau o Lywodraeth y DU.

Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r anawsterau parhaus a achoswyd gan ddiffyg eglurder Llywodraeth y DU o ran penderfyniadau polisi sydd â goblygiadau cyllid i Gymru. Mae'r ansicrwydd hwn yn cael effaith andwyol ar ein setliad cyllid, gan ein rhoi o dan anfantais barhaus wrth gynllunio a rheoli ein cyllideb. Rwy'n dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol o ran benthyca a chronfa wrth gefn Cymru.

Yn erbyn cefndir y pandemig, mae'n hanfodol bod ein galwadau yn cael eu cydnabod i gefnogi cynllunio ariannol effeithiol i alluogi twf ac adferiad. Diolch i'r pwyllgor am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad. Byddaf yn darparu ymateb manwl maes o law, ond rwy'n bwriadu derbyn yr argymhellion. Rwy'n parhau i weithio gyda chyd-Aelodau i nodi'r pwysau sy'n gysylltiedig ag ymateb i'r pandemig a chyfleoedd i ariannu mesurau adfer COVID, a byddaf yn gwneud rhagor o gyhoeddiadau maes o law. Bydd yr holl ddyraniadau pellach yn cael eu rheoleiddio yn yr ail gyllideb atodol yn ddiweddarach eleni. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:37, 13 Gorffennaf 2021

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths. 

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Cynhaliodd y pwyllgor waith craffu ar y gyllideb atodol gyntaf ar 2 Gorffennaf. Diolch i’r Gweinidog am fod yn bresennol, a hefyd i'r Aelodau am gyfarfod yn weddol fyr rybudd i wneud y gwaith. 

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae'r gyllideb atodol hon yn dangos cynnydd o £1.2 biliwn i'r dyraniadau i adrannau Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n gynnydd o £19.7 biliwn i £20.9 biliwn. Mae'r dyraniadau wedi eu seilio yn bennaf ar ymateb parhaus Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai cyllideb atodol dechnegol yw hon sy'n symud i gyd-fynd â ffyrdd blaenorol o gyllidebu. Fodd bynnag, darparodd y tair cyllideb atodol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf wybodaeth fanwl. Rydym yn argymell y dylai cyllidebau atodol yn y dyfodol roi mwy o fanylion am sut y mae dyraniadau newydd wedi eu blaenoriaethu i sicrhau bod tryloywder yn cael ei gynnal.

Roeddem yn falch o glywed bod y Gweinidog wedi parhau i gyfarfod yn aml â Gweinidogion eraill i drafod gofynion cyllid, gan ddefnyddio dull mwy canolog o gyllidebu. Mae gan Lywodraeth Cymru lefel sylweddol o adnoddau cyllidol heb eu dyrannu wrth gefn. Rydym yn deall yr angen am hyblygrwydd i ymdrin â'r ymateb i'r pandemig a nodwn fod y Gweinidog yn bwriadu gwneud rhai dyraniadau sylweddol cyn bo hir. Edrychwn ymlaen at eu hystyried yn rhan o'r ail gyllideb atodol.

Dywedodd y Gweinidog fod gwarant cyllid Llywodraeth y DU y llynedd yn ddefnyddiol iawn o ran rhoi rhywfaint o sicrwydd i weinyddiaethau datganoledig. Fodd bynnag, clywsom fod materion arwyddocaol yn parhau o ran sut y mae Llywodraeth y DU yn cyfleu polisïau sy'n arwain at symiau canlyniadol i Gymru. Roedd cyfathrebu rhwng San Steffan a Chymru yn fater o bryder i'r Pwyllgor Cyllid blaenorol. Rydym yn bwriadu mynd ati i weithio'n agosach gyda chymheiriaid eraill i roi pwysau ar y cyd ar Lywodraeth y DU i egluro penderfyniadau cyllid. Rydym hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wella tryloywder wrth gyfrifo cyllid ac am ddulliau rhynglywodraethol a strwythurau llywodraethu mwy effeithiol na'r rhai sydd ar waith ar hyn o bryd.

Fel sydd wedi digwydd drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid sylweddol i gymorth economaidd. Y dyraniad mwyaf yn y gyllideb atodol yw £352.2 miliwn i ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith y bydd y rhyddhad ardrethi llawn i fusnesau yng Nghymru yn parhau am weddill y flwyddyn, yn wahanol i Loegr.

Gan symud ymlaen at drafnidiaeth, dileodd Llywodraeth Cymru £42.6 miliwn o'r benthyciad yr oedd wedi ei roi i Faes Awyr Caerdydd. Clywsom fod y Gweinidog blaenorol dros yr economi a thrafnidiaeth wedi dangos mai dileu oedd y ffordd fwyaf cost-effeithiol o gefnogi'r maes awyr bryd hynny. Fodd bynnag, defnyddiodd Llywodraeth Cymru gyllid cyfalaf trafodiad ariannol ar gyfer rhywfaint o'r benthyciad a roddodd i'r maes awyr, ac mae'n ofynnol iddi ad-dalu 80 y cant o gyfanswm y cyfalaf trafodiad ariannol a ddyrannwyd gan Drysorlys EM. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth am effaith ariannol ei phenderfyniad i ddileu rhan o'r benthyciad.

Mae £100 miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i gefnogi adferiad y GIG. Mae'r Gweinidog yn awgrymu y byddai'r cyllid hwn yn cefnogi sefydliadau'r GIG hefyd i ymateb i drydedd don bosibl. Rydym yn argymell y dylai'r Gweinidog egluro diben y £100 miliwn, gan gynnwys sut y caiff y cyllid ei ddefnyddio, ei ganlyniadau arfaethedig a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn adrodd ar yr effaith y mae'n ei chael yn y pen draw ar restrau aros y GIG.

Yn olaf, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cymorth ariannol a roddwyd i awdurdodau lleol drwy'r gronfa caledi llywodraeth leol, sy'n cefnogi mentrau gan gynnwys prydau ysgol am ddim, taliadau hunanynysu ac ychwanegiad at dâl salwch gweithwyr gofal cymdeithasol. Bydd y Gweinidog yn ymrwymo £26 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol drwy'r gronfa galedi. Gofynnwn am yr wybodaeth ddiweddaraf am fonitro ac effeithiolrwydd y gronfa a rhagor o fanylion am y £26 miliwn ychwanegol.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:41, 13 Gorffennaf 2021

Rwy’n falch o fod yn cael siarad yma yn y ddadl heddiw, y gyntaf i mi fel Cadeirydd newydd y Pwyllgor Cyllid. Deallaf fod y Pwyllgorau Cyllid blaenorol wedi cael perthynas adeiladol gyda'r Gweinidogion cyllid ac edrychaf ymlaen at barhau hynny yn fy rôl newydd. Diolch yn fawr.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 5:42, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser gen i fod yn rhan o'r ddadl hon heddiw ac rwy'n diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad agoriadol. Nid oes dim amheuaeth nad yw'r pandemig wedi gwthio Cymru i ochr y dibyn ac mae'n dangos pa mor bwysig yw hi fod Cymru yn parhau i fod yn rhan annatod o Deyrnas Unedig gref. Wedi'r cyfan, fe wnaeth y mesurau cadarn a weithredwyd yn gyflym gan Lywodraeth Geidwadol y DU o £8.6 biliwn o gyllid ers dechrau'r pandemig ddiogelu cannoedd ar filoedd o swyddi, gan amddiffyn bywoliaethau ar hyd a lled Cymru rhag rhai o effeithiau mwyaf difrifol y pandemig. Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol, wrth gwrs, at gynlluniau'r DU gyfan fel cynllun cadw swyddi y coronafeirws a'r cynllun incwm hunangyflogaeth.

Ond, Llywydd, ar ôl darllen y gyllideb atodol am y tro cyntaf, cefais fy synnu wrth nodi bod gwerth tua £2 biliwn o arian nad yw wedi ei ddyrannu o hyd yn eistedd yng nghoffrau Llywodraeth Cymru; £1.2 biliwn cyllidol a'r gweddill yn gyfalaf. Mae hwn yn swm sylweddol iawn o arian, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno. Dro ar ôl tro, rydym ni wedi clywed Gweinidogion Llywodraeth Cymru—a hynny'n gwbl briodol—yn galw am gyllid i ymdrin â'r pandemig. Ond wedyn i beidio â defnyddio'r cyfan ar adeg o argyfwng cenedlaethol, nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Llywydd, mae'n debyg iawn i gael arian ar gyfer llogi adeiladwr i atal eich nenfwd sydd wedi ei ddifrodi rhag cwympo i mewn, ac wedyn penderfynu peidio â defnyddio'r holl arian a roddir i chi gan olygu bod y risg yn parhau. Mae angen y buddsoddiad hwnnw ar bobl Cymru yn awr fel y gallan nhw ddechrau ailgodi'n gryfach. Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae angen cynllun adfer hirdymor cynaliadwy ar gyfer ein GIG, ein hysgolion, busnesau ac awdurdodau lleol hollbwysig arnom yn daer. Felly, Gweinidog, ble mae eich cynllun i fuddsoddi yr £1.2 biliwn hwn nad yw wedi ei ddyrannu? Pryd y bydd gwasanaethau yn gweld y cyllid sydd ei angen arnyn nhw yn daer?

Gweinidog, er fy mod i'n croesawu unrhyw gam credadwy i roi hwb i'n hadferiad economaidd, byddaf yn dal i dynnu sylw at feysydd o wendid. Nid yw'r rheswm dros hyn yn wleidyddol, ond dyna'r hyn y dylai gwrthblaid resymol ei wneud. Dyna pam yr wyf wedi fy siomi braidd na fydd rhannau o'r gyllideb atodol yn gwneud dim mwy na chrafu wyneb yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i helpu Cymru i adfer ar ôl y pandemig. Ystyriwch, er enghraifft, gronfa galedi llywodraeth leol, a ddaeth i ben ym mis Mehefin, sy'n golygu bod cynghorau yn wynebu ymyl dibyn yn ariannol erbyn hyn. Neu y ffaith mai dim mwy na diferyn yn y môr yw'r arian ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer ein GIG annwyl, neu'r ffaith frawychus nad yw'n ymddangos bod unrhyw gefnogaeth ychwanegol i'n cymunedau gwledig, er gwaethaf yr effaith andwyol y mae'r pandemig wedi ei chael ar yr ardaloedd gwledig hyn. Mewn geiriau eraill, mae llawer o'r mesurau a amlinellir yn y gyllideb atodol naill ai yn gyllid tymor byr neu'n fentrau sydd wedi cau, ond mae angen y mentrau hyn i ddarparu cymorth hirdymor.

Yn olaf, Gweinidog, gwn fod y pandemig wedi cael effaith andwyol ar y sector trafnidiaeth, ac rwy'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi darparu cymorth ychwanegol, fel yr £16 miliwn i Faes Awyr Caerdydd a £70 miliwn i Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, mae'n werth nodi, fel y crybwyllwyd yn adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, fod hyn ar ben y ffaith bod y Llywodraeth wedi dileu gwerth £40 miliwn o ddyledion Maes Awyr Caerdydd a £167 miliwn ychwanegol a roddwyd i Trafnidiaeth Cymru y llynedd. Yn amlwg, nid yw hon yn ffordd gynaliadwy o redeg gwasanaethau. A wnewch chi ddweud wrthyf a yw Llywodraeth Cymru yn wynebu twll du ariannol yn y dyfodol oherwydd hyn? Beth yw eich cynlluniau ar gyfer rhoi'r gwasanaethau hyn yn ôl ar ddyfodol ariannol cynaliadwy? Mae amser yn hanfodol yma. Mae angen cynllun beiddgar, uchelgeisiol arnom i sicrhau bod Cymru yn adfer ar ôl COVID. Mae angen i bob un ohonom ni nawr weithredu er budd cenedlaethol Cymru, a dyna pam yr wyf i'n mawr obeithio, Gweinidog, y byddwch yn rhoi sylw i fy ngalwadau i heddiw. Diolch, Llywydd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:46, 13 Gorffennaf 2021

A gaf i ddechrau drwy, efallai, gydnabod yr amgylchiadau heriol mae'r Llywodraeth wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yma, gyda diffyg adolygiadau gwariant, diffyg sicrwydd o safbwynt y cyllid sy'n dod, a'r ariannu ad hoc yn dod o gyfeiriad San Steffan? Mae'n dda deall ein bod ni'n gobeithio nawr symud i gylchdro bach mwy sefydlog, gyda dwy gyllideb atodol yn lle tair, ac yn y blaen. Mae pawb, dwi'n siŵr, yn croesawu hynny. Fel plaid, wrth gwrs, rŷn ni'n hapus i fod yn bragmatig a chydnabod yr amgylchiadau anodd hynny, cyhyd â bod y Llywodraeth a'r Gweinidog yn dryloyw ac yn agored gyda ni wrth i ni fynd ati i graffu'r prosesau yna.

Mi fyddem ni'n cefnogi'r galwadau am well trafodiadau rynglywodraethol. Dwi wedi bod ar y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, wrth gwrs, yn gwrando ar yr Ysgrifennydd Gwladol mewn un sesiwn yn dweud bod yna gannoedd o filiynau o arian ychwanegol yn dod i gyfeiriad Cymru yn sgil un cyhoeddiad, ac wedyn, dwy funud wedyn, yn clywed Gweinidog Cymru yn dweud mai degau o filiynau o arian ychwanegol a oedd yn dod lawr y ffordd. Dyw hynny ddim, yn fy marn i, yn adlewyrchu yn dda iawn ar y sefyllfa sydd ohoni. Mae pawb yn crafu pen ynglŷn â ble mae'r gwir, a dwi yn meddwl bod angen i'r ddwy Lywodraeth godi uwchlaw hynny yn y cyfnod nesaf yma. Dyw hi ddim yn gwneud lles i unrhyw un, a dyw hi ddim, yn sicr, yn help o safbwynt craffu i ni fel Aelodau, na chwaith i sicrhau bod yr arian ychwanegol yna, faint bynnag sy'n dod yn y pen draw, yn gweithio mor galed ag sy'n bosib o safbwynt darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru. Ond dyna ddiwedd y bregeth ar hwnna.

Wrth gwrs, dwy elfen sydd, i bob pwrpas, yn y gyllideb atodol yma, fel oedd y Gweinidog yn esbonio. Mae ymarferiad technegol o ailddatgan cyllidebau i adlewyrchu portffolios newydd, a dwi wastad, fel Aelod o wrthblaid, eisiau mwy o wybodaeth. Mae wastad yn anodd dilyn lle mae'r arian yna yn mynd, o un portffolio i'r llall, a byddwn i eto yn ategu'r ple sydd wedi cael ei wneud yn y gorffennol i gynnig mwy o fanylder i ni pan fo'n dod i rai o'r ffigyrau hynny.

Yr ail beth, efallai—ie, cyllideb atodol yw hi, ond mae yna deimlad retrospective iawn, onid oes, yn y gyllideb atodol yma? Mae'r rhain i gyd yn gyhoeddiadau y mae'r Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo iddyn nhw. Rŷn ni'n cadarnhau, i bob pwrpas, yr ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod, lle efallai y byddwn i'n awyddus i ni gael mwy o gyfle i drafod dyraniadau posib yn edrych ymlaen, yn symud ymlaen o safbwynt y gyllideb o fewn y flwyddyn yma. Y peryg yw y bydd yr ail gyllideb atodol nawr, wrth gwrs, yn edrych yn ôl ar rai o'r dyraniadau y bydd wedi digwydd o heddiw ymlaen, hefyd, sydd jest yn elfen o rwystredigaeth, efallai, o'm rhan i.

Rŷn ni wedi clywed, wrth gwrs, bod yna £2 biliwn o arian wrth gefn sydd heb ei glustnodi, ac mae rhywun yn deall y risg o bethau fel trydedd don a'r angen i sicrhau bod modd gan Lywodraeth Cymru ymateb i hynny, ond mae yna risg, dwi'n meddwl, ein bod ni'n colli cyfle yn y flwyddyn ariannol yma. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn glir ynglŷn â'r angen i greu mwy o stimiwlws economaidd drwy fuddsoddi mewn seilwaith i gael yr economi i symud unwaith eto. Mae'r her newid hinsawdd, wrth gwrs, yn cynnig ei hun fel canfas eang eithriadol o safbwynt interventions posib mewn projectau seilwaith mawr y byddwn ni i gyd, dwi'n siŵr, yn cytuno sydd angen eu gwireddu. Rŷn ni hefyd wedi bod yn glir ynglŷn â'r angen i'r Llywodraeth roi ei phwerau benthyg ar waith yn fwy effeithiol. Roedd y Gweinidog, wrth agor y ddadl, yn dweud ei bod hi'n awyddus i gael mwy o hyblygrwydd pan fo'n dod i bwerau benthyg—wel, defnyddiwch y pwerau sydd gyda chi yn y lle cyntaf, gyda chi. Os nad ydych chi'n credu bod angen defnyddio'r pwerau hynny ar hyn o bryd, wrth i ni geisio adeiladu'n ôl yn well, yn decach, yn wyrddach, yna pryd fydd hynny, dywedwch? 

Nawr, o safbwynt rhai o'r dyraniadau—dwi'n ymwybodol o'r amser—penodol yn y gyllideb atodol yma, o safbwynt iechyd, wrth gwrs, rŷm ni'n croesawu ac yn cydnabod y buddsoddiad o £128 miliwn ychwanegol at adfer a lleihau rhestrau aros—sy'n frawychus o hir, byddem ni gyd yn cytuno—o fewn y gwasanaeth iechyd. Ond mae angen mynd tu hwnt i hynny a rhoi strategaethau clir mewn lle gyda chyllid digonol i'w gweithredu nhw, sydd nid yn unig yn adfer gwasanaethau ac yn delio efo'r backlog ar ôl COVID, ond sydd hefyd yn galluogi'r gwaith o adeiladu NHS sy'n fwy gwydn a chynaliadwy nag o'r blaen; hynny yw, sy'n caniatáu ail-ddylunio gwasanaethau ar gyfer y tymor hir. Mae gan fyrddau iechyd gynlluniau, dwi'n gwybod, sydd angen eu gweithredu, a nawr yw'r amser i fynd ati o ddifrif i greu'r isadeiledd newydd yna sy'n creu gwasanaeth iechyd gwladol mwy cydnerth, a mwy ffit ar gyfer y dyfodol hirdymor.

Ac, yn olaf, mae'r £206 miliwn sydd wedi cael ei roi i awdurdodau lleol drwy'r gronfa caledi llywodraeth leol, wrth gwrs, yn chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol yma yn rhywbeth, dwi'n gwybod, mae awdurdodau lleol yn ei groesawu, ond mae arweinwyr cyngor yn dweud wrthyf i eu bod nhw dal ddim yn glir ynglŷn â'r bwriad ar gyfer ail hanner y flwyddyn ariannol yma. Rŷch chi wedi awgrymu eich bod chi yn ymrwymo i barhau i ariannu hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol, ond ydy hwnna yn £206 miliwn arall? Ydy e'n swm amgen, neu ydy'r £206 miliwn yna i fod para hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol? Mae arweinwyr cynghorau yn dweud wrthyf i eu bod nhw dal ddim yn glir, ac mi fyddai eglurder ar hynny yn rhywbeth dwi'n credu fyddai'n cael ei groesawu. Diolch.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:51, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r gyllideb atodol gyntaf hon ar gyfer 2021-22 yn fawr iawn. Mae'n gyfnod eithriadol i'r ddeddfwrfa hon ac i bobl Cymru na welwyd erioed o'r blaen mewn cyfnod o heddwch. Wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a thrawsnewid, mae Cymru yn parhau i gael cyllid bloc 3 y cant yn is y pen nag yn 2010. Rydym yn wynebu ansicrwydd gwirioneddol o ran pontio ar ôl ymadael â'r UE, amwysedd ariannol o golli cronfeydd pontio y DU, wrth i hen ardaloedd Amcan 1 gael eu hepgor yn llwyr o gyllid codi'r gwastad y DU, a'r hyn y gellir ei alw ar y gorau yn ail-grynhoi cyfansoddiadol, yn groes i ddatganoli a'n mandad deddfwriaethol, a diffyg gwirioneddol a chronig mewn hyblygrwydd ariannol a'r adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar goll. A thrwy hyn i gyd, Llywydd, rydym yn brwydro'r pandemig byd-eang ei hun, y cyfan y mae wedi ei olygu i'n pobl, ein heconomi a'n hymwrthedd cenedlaethol.

Rwy'n croesawu cael fy ailbenodi i Bwyllgor Cyllid Cymru, ac yn cwtogi fy sylwadau i ganolbwyntio ar argymhelliad 10 o waith craffu'r Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb atodol gyntaf. Felly, nid wyf i'n petruso rhag pwysleisio pwysigrwydd llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl, yn aml y rhai mwyaf agored i niwed ar adegau o normalrwydd. Mae'r pandemig wedi dangos ac yn dystiolaeth o ba mor hanfodol fu llywodraeth leol yn ein hadferiad o ran logisteg pandemig, o ran gwaith cydgysylltu, gweinyddu a chefnogi brys. Yn fyr, mae llywodraeth leol wedi bod yn hanfodol i frwydr Cymru yn erbyn COVID-19.

Mae paragraffau 68 i 73 o adroddiad y Pwyllgor Cyllid, tudalennau 24 a 25, yn canolbwyntio ar lywodraeth leol yn y gyllideb atodol gyntaf, ac roedd y gyllideb derfynol yn cynnwys £206.6 miliwn i gefnogi llywodraeth leol ar gyfer y chwe mis cyntaf hynny drwy'r gronfa galedi llywodraeth leol. Ac mae hynny'n ychwanegu at dros £660 miliwn o ddyraniad ychwanegol i lywodraeth leol yn 2021. Felly, roeddwn i wedi fy nghalonogi yn fawr o weld bod y Gweinidog wedi cadarnhau, yn ogystal â'r cyllid ar gyfer y gronfa galedi llywodraeth leol am y chwe mis cyntaf a gyhoeddwyd yn y gyllideb derfynol, fod y Gweinidog wedi cytuno ar £76 miliwn ychwanegol drwy'r gronfa galedi, yn arbennig ar gyfer pwysau gofal cymdeithasol.

Mae'r gronfa galedi wedi darparu cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, taliadau hunanynysu ac ychwanegiadau at dâl salwch gweithwyr gofal cymdeithasol, ac wedi ariannu profion hollbwysig a phodiau ymwelwyr yn ein cartrefi gofal, ymysg llawer o ymyriadau eraill. Ac rydym yn gwybod nad yw'r pandemig hwn ar ben, er bod Cymru wedi ei chadw'n ddiogel gan ddull pwyllog Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi'i ysgogi gan epidemioleg, a'r rhaglen frechu hynod lwyddiannus sy'n arwain y ffordd yn y byd, gan sicrhau ein bod yn un o'r gwledydd sydd wedi'i brechu fwyaf ar y ddaear. Ac, o'r herwydd, rwy'n croesawu yn fawr sylwadau'r Gweinidog i'r lle hwn ar 23 Mehefin y gellid dyrannu rhagor o arian drwy'r gronfa galedi, pe bai ei angen, ac mae ei angen yn wir. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw Cymru'n ddiogel wrth sicrhau hefyd fod ein harian yng Nghymru, o dan yr amgylchiadau anoddaf a brofwyd erioed gan y ddeddfwrfa hon a'n gwlad, mewn cyflwr da, ac rwy'n cefnogi cymeradwyaeth y gyllideb atodol gyntaf hon ar gyfer 2021-22. Anogaf bob Aelod i wneud yr un peth. Diolch. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:55, 13 Gorffennaf 2021

Y Gweinidog cyllid nawr i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans. 

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau meddylgar. Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn rhan bwysig o broses y gyllideb, sy'n caniatáu i'r Senedd adrodd am newidiadau a chraffu arnyn nhw, ac rwy'n croesawu'r ddadl adeiladol yr ydym wedi ei chael y prynhawn yma. Fel yr amlinellais yn fy sylwadau agoriadol, er ein bod wedi rheoleiddio nifer o ddyraniadau a gyhoeddwyd yn flaenorol o'r cronfeydd wrth gefn i barhau â'n hymateb i'r pandemig, mae'r gyllideb hon yn ein dychwelyd at yr arfer mwy arferol a ddatblygwyd gennym o ran cyllidebau atodol sy'n fwy technegol eu natur.

Rydym ni wedi mabwysiadu dull gweithredu cyfrifol wedi ei dargedu sy'n canolbwyntio ar y cymorth uniongyrchol sydd ei angen yng nghyd-destun pandemig sy'n symud yn gyflym, ac rydym wedi ymateb yn bendant i gefnogi economi Cymru a sicrhau bod gan ein gwasanaethau cyhoeddus y gallu i ymdrin ag amgylchiadau sy'n datblygu.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod Gweinidogion cyllid ledled y byd wedi dewis rhoi hyblygrwydd i'w hunain drwy gynnal lefel briodol o gronfeydd wrth gefn, ac, wrth gwrs, mae hynny yr un mor berthnasol i'r Canghellor sy'n cadw cronfeydd sylweddol wrth gefn er mwyn parhau i ymateb i'r argyfwng. Ac yng Nghymru, wrth gwrs, nid ydym wedi bod yn wahanol. Rydym yn cadw cronfeydd COVID wrth gefn i gadw'r hyblygrwydd hwnnw er mwyn ein galluogi ni i ymateb.

Serch hynny, fel yr wyf wedi ei amlinellu i'r Pwyllgor Cyllid, rydym wedi cytuno ar £26 miliwn ychwanegol i ymestyn y cyllid sydd ar gael yn y gronfa galedi llywodraeth leol ar gyfer gofal cymdeithasol, ac, yn ogystal, rwyf wedi dyrannu £10 miliwn ychwanegol i gronfa galedi awdurdodau lleol ar gyfer yr ymateb brys i ddigartrefedd; £4 miliwn ychwanegol i helpu pobl i hunanynysu, gan ymestyn y cymorth hwnnw tan ddiwedd mis Mawrth 2022; ac £1.5 miliwn i ddarparu grantiau argyfwng COVID Cymru ac Affrica. A byddaf yn bwriadu gwneud rhagor o gyhoeddiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig cydnabod ar y pwynt hwn mai natur cronfa COVID yw ei bod yn anghylchol, felly ni allwn ddibynnu ar y ffaith y bydd unrhyw ran o'r arian hwn ar gael y flwyddyn nesaf, ac mae hynny yn ychwanegu at yr heriau i ni o ran y math o ymyriadau yr hoffem eu rhoi ar waith.

Fe wnes i sôn am y gronfa galedi llywodraeth leol, ac rwyf i yn awyddus i gofnodi'r ffaith fy mod i wedi rhoi'r cadarnhad hwnnw i arweinwyr awdurdodau lleol mai fy mwriad i yw y bydd y gronfa honno yn parhau i fod ar waith drwy gydol y flwyddyn ariannol hon, ac mae swyddogion yn gweithio gyda swyddogion yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar hyn o bryd, ac mewn awdurdodau lleol, i ddeall yr angen sy'n gysylltiedig â'r gronfa benodol honno ar gyfer eleni, gan fy mod i yn cydnabod, fel y mae eraill wedi ei wneud, pa mor hanfodol y bu i gefnogi ymateb llywodraeth leol i'r pandemig.

Rwyf i yn croesawu sylwadau'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'u diddordeb ym mherthynas Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU, ac, wrth gwrs, rwyf i mor awyddus ag unrhyw un y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gynnal ymgysylltiad a chydweithrediad cryf, yn enwedig yn dilyn yr uwchgynhadledd adfer ar ôl COVID. Ond, nawr, mae angen i ni weld hynny'n cael ei gadarnhau drwy weithredu a newid sylweddol gwirioneddol yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn rhyngweithio â Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig felly, yn fy marn i, o ran cyllid.

Roedd y warant COVID a gawsom y llynedd yn ddatblygiad defnyddiol iawn, ac mae hynny'n rhywbeth yr oeddwn i yn rhan o'i dylunio, er mwyn sicrhau ei bod yn diwallu ein hanghenion ni yma yng Nghymru. Ond, eleni, mae wedi bod yn llawer anoddach gan fod Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiadau ers i ni gael ein cyllid COVID yn gynharach eleni ac nid ydym yn gwybod a ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y warant honno ai peidio. Fe wnaethon nhw gyhoeddiadau mawr am gyllid ar gyfer addysg, er enghraifft, ac nid ydym yn gwybod eto ai cyllid ychwanegol yw hwnnw, a yw'n gyllid a oedd wedi ei gyhoeddi'n flaenorol, neu a yw'r cyllid wedi ei symud o rannau eraill o gyllideb Llywodraeth y DU. Felly, mae wedi bod gryn amser erbyn hyn ers iddyn nhw wneud y cyhoeddiad hwnnw, felly nid yw'n dderbyniol o gwbl i ni beidio â gallu cael yr eglurder hwnnw sydd ei angen arnom o ran y cyllid hwnnw.

Hoffwn i sôn yn fyr hefyd am y cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd. Rwy'n gweithio gyda'r Gweinidog iechyd ar hyn o bryd i benderfynu pa gyllid ychwanegol y gallai fod ei angen ar iechyd yn ychwanegol at y £100 miliwn hwnnw er mwyn ei gefnogi drwy weddill y flwyddyn ariannol hon, gyda'r pwyslais gwirioneddol hwnnw ar adferiad. Ond mae'r £100 miliwn sydd eisoes wedi ei gyhoeddi ar gael i helpu i ddechrau mynd i'r afael â'r ôl-groniad, a chyhoeddwyd y cyllid hwnnw pan wnaethom gyhoeddi'r ddogfen 'Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru—COVID-19: Edrych tua'r dyfodol', a bydd yn cael ei ddefnyddio ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol, i leihau anghydraddoldeb a gwella'r capasiti ar gyfer gofal wedi ei gynllunio. Ond, fel y dywedais i, bydd rhagor o gyhoeddiadau yn cael eu gwneud ynghylch hynny ac amrywiaeth o faterion eraill yn ddiweddarach.

Ac i ymdrin â'r materion a godwyd ynghylch Maes Awyr Caerdydd, mae'r cyllid hwnnw yno i raddau helaeth yn erbyn cynllun pum mlynedd i achub ac ailstrwythuro'r maes awyr. Ac rydym wedi cytuno ar y buddsoddiad hwnnw drwy grant o hyd at £42.6 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, er mwyn galluogi'r maes awyr i ailstrwythuro ei weithrediadau a sicrhau ei hyfywedd hirdymor. Ac, unwaith eto, byddwn i'n dweud nad yw hyn yn anarferol—nid yw'n anarferol i Lywodraethau fod yn cefnogi meysydd awyr yn y cyfnod arbennig o heriol hwn i'r sector hwnnw.

Felly, byddaf yn dechrau cloi trwy nodi'r sylwadau ynghylch pwysigrwydd tryloywder a phwysigrwydd craffu. A rhoddaf fy ymrwymiad i'r Senedd hon y byddaf yn parhau i fod mor gwbl dryloyw ag y gallaf fod, ac i groesawu gwaith craffu, a chroesawu her, wrth gwrs, ar bob cam yn ystod proses y gyllideb. Ac yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon yn parhau i ariannu'r ystod o fesurau yr ydym wedi eu rhoi ar waith i ymateb i'r pandemig. Rwyf i wedi sôn y bydd dyraniadau eraill, ond bydd y dyraniadau hynny yn cael sylw yn yr ail gyllideb atodol, y bwriadaf ei chyflwyno i'r Senedd maes o law. Cynigiaf y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:01, 13 Gorffennaf 2021

Diolch, Weinidog. Y cwestiwn yw felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.