Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Liciwn i ddechrau trwy ddweud gair o ddiolch i'r Llywodraeth am gynnal y drafodaeth yma yn absenoldeb y Pwyllgor Cyllid yn ystod y cyfnod yma. Dwi'n credu ei bod yn beth pwysig bod y Senedd yn cael cyfle i drafod y gyllideb cyn i'r Llywodraeth sefydlu'r gyllideb, so mae gennym ni gyfle i ddweud, fel cynrychiolwyr pobl Cymru, beth yw ein blaenoriaethau ni fel cenedl. A dwi eisiau dechrau trwy ofyn i'r Gweinidog os gallech chi yn eich ymateb i'r drafodaeth yma esbonio lle mae'r Llywodraeth yn sefyll ar hyn o bryd ar yr holl bwnc o gyllideb ddeddfwriaethol. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi trafod hyn ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a dwi yn meddwl bod hyn yn rhywbeth sy'n bwysig, yn arbennig yn y Senedd yma.
Ond fel eraill, mae yna ambell le ble dwi'n meddwl y dylai'r Llywodraeth bennu ei blaenoriaethau. Fel eraill hefyd, mi fuaswn i'n awgrymu hinsawdd, mynd i’r afael â thlodi—dwi'n credu bod hynny’n hynod o bwysig—a diogelu dyfodol gwasanaethau cyhoeddus. Fuasai dim un ohonoch chi yn cael eich synnu gan y fath flaenoriaethau, ac mi fyddai'r peth rhwyddaf yn y byd i ddweud hynny, ond dwi hefyd eisiau dweud ei bod yn bwysig yn ystod y blynyddoedd nesaf fod y Llywodraeth yn gwneud pethau sydd efallai ddim yr un mor boblogaidd.
Dwi wedi dadlau dros y blynyddoedd—a dwi'n credu ei bod hi'n hen bryd nawr i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hyn—fod Llywodraeth Cymru yn rhy fach i actually cyrraedd y nod dŷn ni'n ei osod iddi hi. Dwi'n credu bod angen i ni fuddsoddi yn rhwydwaith y Llywodraeth ei hun. Y peth rhwyddaf yn y byd—ac mae pob un ohonom ni'n ei wneud e, pob un blaid, y gwrthbleidiau ac Aelodau meinciau cefn Llafur—yw beirniadu'r Llywodraeth am beidio cyflwyno beth mae eisiau gwneud. Ond am yn rhy hir hefyd, dŷn ni i gyd, pob un ohonom ni, wedi bod yn dadlau dros doriadau i'r gwasanaeth sifil a thoriadau i weinyddiaeth y Llywodraeth. Ac os ydyn ni o ddifrif amboutu y polisïau gwahanol sydd gyda ni—dwi wedi sôn amboutu'r hinsawdd, dwi'n sôn amboutu tlodi—mae'n rhaid inni hefyd gael Llywodraeth sy'n gallu gwneud hynny, ac mae hynny'n meddwl ein bod ni'n buddsoddi yn y Llywodraeth, a dwi'n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny.
A dwi'n falch iawn bod y Prif Weinidog yn ei sêt y prynhawn yma ar gyfer y drafodaeth yma, ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth ymateb i gwestiynau fod datganiad yn mynd i fod gan y Llywodraeth ar sut mae’r Llywodraeth bresennol, newydd yn mynd i gyflwyno gwaith yn y Cymoedd. Mi wnes i ac eraill arwain gwaith ar dasglu'r Cymoedd yn ystod y Senedd sydd newydd ddod i ben, a dwi'n awyddus i ddeall sut mae'r gyllideb yn mynd i ystyried buddsoddi yn ein cymunedau mwyaf tlawd yn y wlad. Dwi yn clywed beth mae pobl yn ei ddweud amboutu pob man yn y wlad, ac mae'n bosibl gwneud dadl gref iawn dros fuddsoddi ym mhob un cymuned—dwi'n cydnabod hynny—ond dŷn ni i gyd yn gwybod hefyd fod y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn Ewrop yn dal i fod yn y Cymoedd, a dwi'n credu bod angen i'r Llywodraeth yma wneud datganiad clir fod buddsoddiadau'n mynd i fod yn y rhanbarth yma.
Y peth olaf dwi eisiau dweud yw amboutu sut dŷn ni'n fforddio hyn i gyd, achos dŷn ni i gyd yn dal yn meddwl amboutu cyllideb fel cynllun gwario, a does dim un cyfraniad wedi bod eto yn ystod y drafodaeth yma amboutu o ble mae'r incwm yn dod. Mae gyda ni gyfle yn fan hyn i godi trethi, os dyna beth ydy nod y Llywodraeth; dwi wedi dadlau yn y gorffennol bod angen gwneud hynny er mwyn diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond beth dwi eisiau clywed gan y Gweinidog ydy hyn: mae hi wedi dweud beth ydy blaenoriaethau'r Llywodraeth, a dwi'n cyd-fynd â phob un ohonyn nhw, ond gaf i ofyn i'r Gweinidog oes yna ddigon o cash yn y banc i wneud hynny? Ac os nad oes, o ble mae'r arian yn dod? Pa fath o impact mae'r pandemig wedi'i gael ar yr incwm o drethi Cymreig? Ydyn ni'n gwybod hynny eto? Oes yna ddadansoddiad wedi bod o ble mae'r incwm yn dod? Achos dwi'n credu, fel rhan o aeddfedu fel Senedd, fod yn rhaid inni symud i gyllideb ddeddfwriaethol, ond mae'n rhaid iddi fod yn gyllideb, a dim jest cynllun gwario. Dwi'n credu mai dyna'r gwendid rydyn ni wedi'i gael yn ein trafodaethau yn y gorffennol. Mae pob un eisiau gwario arian, a does neb yn cynnig o ble mae'r arian yn dod. Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni ddechrau ystyried hynny yn ystod y misoedd nesaf. Diolch yn fawr.