Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi arwain ar y math hwn o ddadl ac, yn arferol, byddai'r pwyllgor yn cynnal digwyddiad mawr i randdeiliaid neu ymgyrch ar-lein i glywed barn rhanddeiliaid ynghylch lle y dylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu ei gwariant. Byddai'r wybodaeth hon wedyn yn cyfrannu at ddadl o'r math hwn fel bod aelodau'n cael cyfle i drafod penderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru a dylanwadu arnyn nhw cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft. Fel pwyllgor, rydym ni'n credu y dylai'r ddadl hon gael ei harwain gan y Pwyllgor Cyllid yn y dyfodol. Rydym ni wedi ysgrifennu at y Gweinidog ac at y Pwyllgor Busnes i ofyn am eu cytundeb ar gyfer y ddadl flynyddol hon dan arweiniad y Pwyllgor Cyllid.
Y llynedd, dim ond setliad un flwyddyn a ddarparodd Llywodraeth y DU, felly rydym ni unwaith eto mewn sefyllfa lle bydd cyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn cael ei ohirio nes bod gan Lywodraeth Cymru sicrwydd ynghylch ei setliad cyllid. Mae Canghellor y Trysorlys wedi nodi ei fwriad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o wariant amlflwydd, sy'n debygol o ddod i ben yn yr hydref.
Mae'n siomedig y bydd cyllideb ddrafft gyntaf Llywodraeth Cymru hon yn cael ei chyhoeddi yn ystod toriad y Nadolig. Er ein bod ni'n gwerthfawrogi'r ansicrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu, mae'r amserlen arfaethedig hon ar gyfer ystyried y gyllideb ddrafft yn cwtogi ar waith craffu gan y Senedd hon. Byddem ni'n annog y Gweinidog i ystyried unrhyw gyfle i gyflwyno'r dyddiad cyhoeddi yn gynt. Serch hynny, rydym ni'n falch y bydd adolygiad cynhwysfawr o wariant yn cael ei gynnal eleni fel bod gan Gymru rywfaint o sicrwydd o gyllid ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gynllunio'n effeithiol a darparu cyllid dangosol hirdymor ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'n anochel y bydd y gyllideb ddrafft sydd ar y gweill yn adlewyrchu adferiad parhaus Llywodraeth Cymru o COVID-19. Yng nghyllideb ddrafft y llynedd, roedd Llywodraeth Cymru yn dal cronfeydd sylweddol heb eu dyrannu oherwydd yr angen ar gyfer rhywfaint o hyblygrwydd i ymdrin â'r ymateb i'r pandemig. Rydym ni'n gobeithio eleni y byddwn ni'n gweld cyllideb ddrafft fanylach yn canolbwyntio ar adferiad y GIG, ar gyfer llywodraeth leol ac economi Cymru.