Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Y gyllideb ddrafft hon fydd y gyntaf yn y chweched Senedd, ac rwy’n gobeithio y gall y Pwyllgor Cyllid gydweithio â’r pwyllgorau polisi eraill. Gan ei bod yn debygol y caiff y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi cyn y Nadolig, rydym yn bwriadu ymgynghori ar y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb ddrafft nesaf yn nhymor yr hydref. Mi fuaswn i'n annog Cadeiryddion ac aelodau pwyllgorau i ymgysylltu â’r Pwyllgor Cyllid ynghylch sut y gall yr ymgynghoriad hwn gefnogi pwyllgorau unigol—