Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru yn dweud y gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol fod cynddrwg i gleifion â chyflyrau hirdymor cronig. Mae unigrwydd yn rhoi pobl mewn 50 y cant yn fwy o berygl o farwolaeth gynnar. Roedd 41 y cant o bobl mewn amddifadedd materol yn unig, o'u cymharu â'r rhai o tua 12 y cant nad ydyn nhw mewn amddifadedd materol, ac mae hynny yn dilyn ymlaen o'r mater a gododd Joyce yn gynharach. Felly, a gaf i ofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i sicrhau bod cymaint a phosibl o gyfleoedd a gwasanaethau i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau symud? Diolch.