1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2021.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd ym Mhowys? OQ56773
Llywydd, diolchaf i Russell George am y cwestiwn yna. Ymhlith y camau eraill a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf i wella cyfleusterau ysbyty presennol ym Mhowys, yn ogystal â chefnogi achos busnes i adeiladu campws llesiant amlddisgyblaeth newydd yn y Drenewydd.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna, ac, yn wir, mae bwrdd iechyd Powys, gan weithio gyda'r awdurdod lleol, wedi cyflwyno'r cynigion ar gyfer y cynllun—y cynnig yr ydych chi wedi ei amlinellu. Rwyf i wedi codi'r mater hwn gyda chi sawl gwaith o'r blaen, Prif Weinidog. Byddai'r cynllun yn arwain at gyfleuster newydd arloesol, ysbyty cymunedol newydd, â gwasanaethau ychwanegol hefyd yn cael eu lleoli yn y Drenewydd i wasanaethu pobl gogledd Powys. Byddai'r cyfleuster hefyd yn gwella canlyniadau iechyd a llesiant hefyd, ac yn golygu y gall pobl dderbyn apwyntiadau yn fwy lleol yn y Drenewydd, neu yng ngogledd Powys, yn hytrach na gorfod teithio y allan i'r sir. Felly, mae'r rhain yn sicr yn gynnig ac yn brosiect sy'n cael fy nghefnogaeth i.
Rwy'n deall bod y cynlluniau yn gweithio drwy broses graffu gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd, a byddwn yn ddiolchgar iawn, Prif Weinidog, pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw. Rwy'n awyddus i'r cynlluniau hyn gael eu cymeradwyo, ond byddwn yn awyddus i gael dealltwriaeth o pryd yr ydych chi'n meddwl y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r golau gwyrdd i'r prosiect pwysig iawn hwn i'r canolbarth.
Llywydd, diolchaf i Russell George am y cwestiwn ychwanegol yna, a diolchaf iddo yn wir am ei gefnogaeth gyson iawn i'r prosiect hwn, ac rwyf i'n cytuno ag ef y bydd yn cynnig yr holl fanteision hynny i'r boblogaeth leol yn y Drenewydd ac yn y cyffiniau. Ac fel y dywedodd Russell George, mae'n brosiect ar y cyd, yn brosiect enghreifftiol yn y modd hwnnw o sut y gall awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol ddod at ei gilydd i ddarparu cyfleuster iechyd newydd nad yw'n gyfleuster iechyd yn unig yn yr ystyr gul, ond sydd â'r holl agenda llesiant ac ehangach honno yr ydym ni'n gwybod sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth ym mywydau pobl sy'n ei defnyddio.
Mae Russell George yn iawn, Llywydd: mae'r achos busnes wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Ceir y broses ailadroddol honno nawr lle mae'r cynlluniau yn cael eu hymchwilio, mae cwestiynau yn cael eu gofyn, mae atebion yn cael eu derbyn. A'r newyddion da yw bod y broses honno wedi hen gychwyn erbyn hyn. Felly, edrychaf ymlaen, fel y mae yntau, at gwblhau'r prosiect hwnnw. Mae'n brosiect y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w gefnogi. Mae'n iawn bod proses graffu i sicrhau bod buddsoddiad o'r math hwn, sy'n fuddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth, sy'n gallu cyflawni'r holl bethau y byddai pobl yn lleol yn dymuno eu gweld, a bod yr arian y byddwn ni'n ei fuddsoddi ynddo yn sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl i'r gymuned leol honno.
Rwy'n siŵr y byddai Russell George hefyd yn cytuno â mi bod yr uwchraddiad gwerth £15 miliwn i ysbyty Machynlleth, sydd ar y gweill ar hyn o bryd diolch i Weinidogion Cymru ac arian Llywodraeth Cymru, i'w groesawu, fel y mae'r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd parhaus yn Llandrindod. Ond yn fwy na daearyddiaeth—ac mae'r pandemig wedi amlygu hyn yn arbennig—mae'r anghydraddoldeb mwyaf o ran canlyniadau iechyd rhwng ein cymunedau mwyaf cefnog a lleiaf cefnog. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai'r ffordd orau o wella canlyniadau iechyd ym Mhowys, ac mewn mannau eraill, yw adeiladu Cymru decach?
Diolchaf i Joyce Watson am hynna, Llywydd, a diolchaf iddi am dynnu sylw at ysbyty Bro Ddyfi ym Machynlleth. Dyna enghraifft dda o gynnig a gyflwynwyd gan fwrdd iechyd Powys, a gwblhaodd y broses achos busnes lawn ac a ganiataodd i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r £15 miliwn a fydd yn cael ei fuddsoddi yno ym mis Mawrth cyn yr etholiad.
Siawns mai'r pwynt cyffredinol y mae Joyce Watson yn ei wneud, Llywydd, yw'r un iawn—mai dim ond un enghraifft yw anghydraddoldebau iechyd o'r anghydraddoldebau ehangach yr ydym ni'n eu gweld yn ein cymdeithas. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymrwymo'r Senedd hon i weithio dros Gymru fwy cyfartal. A byddai Cymru fwy cyfartal, lle byddai'r bwlch rhwng y brig a'r gwaelod yn gulach nag y mae heddiw, yn cael effeithiau cadarnhaol i bobl mewn llawer o agweddau ar eu bywydau, ac yn sicr yn arwain at well canlyniadau iechyd. Rydym ni'n gwybod bod cymdeithasau mwy cyfartal ledled y byd yn mwynhau gwell canlyniadau iechyd na chymdeithasau mwy anghyfartal. Dyna pam mae agenda'r Llywodraeth hon yng Nghymru—yn ei hagenda gwaith teg, yn ei gwaith ar gyfer Cymru decach—wedi ymrwymo i'r union fath o ganlyniad y mae Joyce Watson wedi ei awgrymu.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru yn dweud y gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol fod cynddrwg i gleifion â chyflyrau hirdymor cronig. Mae unigrwydd yn rhoi pobl mewn 50 y cant yn fwy o berygl o farwolaeth gynnar. Roedd 41 y cant o bobl mewn amddifadedd materol yn unig, o'u cymharu â'r rhai o tua 12 y cant nad ydyn nhw mewn amddifadedd materol, ac mae hynny yn dilyn ymlaen o'r mater a gododd Joyce yn gynharach. Felly, a gaf i ofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i sicrhau bod cymaint a phosibl o gyfleoedd a gwasanaethau i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau symud? Diolch.
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd.
Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, ein bod ni'n llawer mwy ymwybodol heddiw nag y byddem ni wedi bod hyd yn oed 18 mis yn ôl o'r effaith y mae unigrwydd ac ynysigrwydd yn ei chael ar synnwyr pobl o lesiant ac, yn wir, ar eu hiechyd corfforol hefyd. Ac mae llawer iawn i ni ei ddysgu o brofiad y pandemig wrth fynd i'r afael ag effaith unigrwydd ac ynysigrwydd ym mywydau dinasyddion Cymru. Fe wnaethom ni wynebu hyn yn rheolaidd, Llywydd, mae'n ymddangos i mi, yn ystod argyfwng y pandemig. Yn gynnar iawn, byddwch yn cofio ein bod ni wedi newid y rheolau yng Nghymru, i ganiatáu i bobl fynd allan i gynnal ymarfer corff—a byddwch yn cofio ar un adeg mai dim ond unwaith y dydd yr oeddem ni'n cael mynd allan i ymarfer corff. Yna fe wnaethom ni newid y rheolau i ganiatáu i rywun fynd gyda chi ar gyfer yr ymarfer corff hwnnw, oherwydd adroddiadau a gawsom, yn enwedig gan fenywod, am deimlad o ynysigrwydd pe byddai'n rhaid iddyn nhw ymarfer corff ar eu pennau eu hunain. Fe wnaethom ni newid y rheolau yng Nghymru fel y gallai aelwyd un person ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd arall cyn i ni allu rhyddfrydoli'r rheolau ar aelwydydd estynedig yn fwy cyffredinol. A hefyd roedd hynny oherwydd y dystiolaeth o'r ffordd yr oedd angen cefnogaeth aelwyd arall ar aelwydydd sengl—yn enwedig aelwydydd lle'r oedd un oedolyn yn gofalu am blant yn ogystal â'i hunan—am y rhesymau y mae Jane Dodds wedi eu hawgrymu.
Mae ein gweithredoedd ar lefel gymunedol gydag awdurdodau lleol ond hefyd gyda'r trydydd sector, sydd â rhan bwysig iawn i'w chwarae yn hyn i gyd. A Llywydd, dim ond i roi un enghraifft, sefydlwyd y cynllun Ffrind Mewn Angen a oedd yn rhan o'r ymateb i COVID, ym mis Mehefin y llynedd ac mae'n cael ei redeg gan Age Cymru, ac mae'n golygu y gall person hŷn sy'n byw ar ei ben ei hun gael galwad ffôn wythnosol gan rywun sydd wedi cael ei hyfforddi fel cyfaill gwirfoddol. Mae'n gyngor, mae'n gefnogaeth, mae'n gyfle anffurfiol dim ond i glywed llais dynol arall. Ac rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl, yn enwedig pobl oedrannus, yn byw ar eu pennau eu hunain sy'n gallu mynd ddyddiau ar y tro heb gael cyfarfod person arall o gwbl, gyda'r holl effeithiau niweidiol y cyfeiriodd Jane Dodds atyn nhw. Ac mae'r cynllun rhagorol hwnnw—y cynllun Ffrind Mewn Angen—wedi ei gynllunio yma yng Nghymru i wneud gwahaniaeth i'r unigrwydd a'r ynysigrwydd y mae pobl yn eu dioddef yn y ffordd honno.