Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, ein bod ni'n llawer mwy ymwybodol heddiw nag y byddem ni wedi bod hyd yn oed 18 mis yn ôl o'r effaith y mae unigrwydd ac ynysigrwydd yn ei chael ar synnwyr pobl o lesiant ac, yn wir, ar eu hiechyd corfforol hefyd. Ac mae llawer iawn i ni ei ddysgu o brofiad y pandemig wrth fynd i'r afael ag effaith unigrwydd ac ynysigrwydd ym mywydau dinasyddion Cymru. Fe wnaethom ni wynebu hyn yn rheolaidd, Llywydd, mae'n ymddangos i mi, yn ystod argyfwng y pandemig. Yn gynnar iawn, byddwch yn cofio ein bod ni wedi newid y rheolau yng Nghymru, i ganiatáu i bobl fynd allan i gynnal ymarfer corff—a byddwch yn cofio ar un adeg mai dim ond unwaith y dydd yr oeddem ni'n cael mynd allan i ymarfer corff. Yna fe wnaethom ni newid y rheolau i ganiatáu i rywun fynd gyda chi ar gyfer yr ymarfer corff hwnnw, oherwydd adroddiadau a gawsom, yn enwedig gan fenywod, am deimlad o ynysigrwydd pe byddai'n rhaid iddyn nhw ymarfer corff ar eu pennau eu hunain. Fe wnaethom ni newid y rheolau yng Nghymru fel y gallai aelwyd un person ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd arall cyn i ni allu rhyddfrydoli'r rheolau ar aelwydydd estynedig yn fwy cyffredinol. A hefyd roedd hynny oherwydd y dystiolaeth o'r ffordd yr oedd angen cefnogaeth aelwyd arall ar aelwydydd sengl—yn enwedig aelwydydd lle'r oedd un oedolyn yn gofalu am blant yn ogystal â'i hunan—am y rhesymau y mae Jane Dodds wedi eu hawgrymu.
Mae ein gweithredoedd ar lefel gymunedol gydag awdurdodau lleol ond hefyd gyda'r trydydd sector, sydd â rhan bwysig iawn i'w chwarae yn hyn i gyd. A Llywydd, dim ond i roi un enghraifft, sefydlwyd y cynllun Ffrind Mewn Angen a oedd yn rhan o'r ymateb i COVID, ym mis Mehefin y llynedd ac mae'n cael ei redeg gan Age Cymru, ac mae'n golygu y gall person hŷn sy'n byw ar ei ben ei hun gael galwad ffôn wythnosol gan rywun sydd wedi cael ei hyfforddi fel cyfaill gwirfoddol. Mae'n gyngor, mae'n gefnogaeth, mae'n gyfle anffurfiol dim ond i glywed llais dynol arall. Ac rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl, yn enwedig pobl oedrannus, yn byw ar eu pennau eu hunain sy'n gallu mynd ddyddiau ar y tro heb gael cyfarfod person arall o gwbl, gyda'r holl effeithiau niweidiol y cyfeiriodd Jane Dodds atyn nhw. Ac mae'r cynllun rhagorol hwnnw—y cynllun Ffrind Mewn Angen—wedi ei gynllunio yma yng Nghymru i wneud gwahaniaeth i'r unigrwydd a'r ynysigrwydd y mae pobl yn eu dioddef yn y ffordd honno.