Canlyniadau Iechyd ym Mhowys

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 13 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 1:34, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr y byddai Russell George hefyd yn cytuno â mi bod yr uwchraddiad gwerth £15 miliwn i ysbyty Machynlleth, sydd ar y gweill ar hyn o bryd diolch i Weinidogion Cymru ac arian Llywodraeth Cymru, i'w groesawu, fel y mae'r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd parhaus yn Llandrindod. Ond yn fwy na daearyddiaeth—ac mae'r pandemig wedi amlygu hyn yn arbennig—mae'r anghydraddoldeb mwyaf o ran canlyniadau iechyd rhwng ein cymunedau mwyaf cefnog a lleiaf cefnog. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai'r ffordd orau o wella canlyniadau iechyd ym Mhowys, ac mewn mannau eraill, yw adeiladu Cymru decach?