Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ie, lai nag wythnos sydd yna, rŵan, tan y codir y cyfyngiadau COVID yn llwyr yn Lloegr. Mae cadeirydd cyngor y BMA, Dr Chaand Nagpaul, wedi disgrifio'r amseru, wrth i nifer yr achosion gynyddu'n gyflym, fel bod yn anghyfrifol, a hynny ar ben sylwadau diweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o