1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r pwynt a wnaethoch chi ynglŷn â siarad ag is-ganghellor y brifysgol yn Namibia yn un da—sef, oni bai ein bod ni i gyd yn cael ein brechu, ni fydd yr un ohonom ni yn ddiogel ar ddiwedd hyn, ac mae'n broblem fyd-eang y mae angen i ni i gyd ganolbwyntio arni. Ond rydym ni'n symud i sefyllfa well; rydym ni'n symud i sefyllfa nawr lle gellir dad-wneud rhai o'r cyfyngiadau. A thynnodd yr Athro John Watkins sylw ddoe at hynny gyda llwyddiant cyflwyno'r brechiad a'r lefelau imiwnedd—. Gallaf glywed grwgnach o feinciau'r cenedlaetholwyr, ond rwy'n siŵr yr hoffen nhw wrando ar yr arbenigwyr, gan fy mod i'n hoffi gwrando ar yr arbenigwyr hefyd ar y pwnc penodol hwn. Rydym ni wedi clywed llawer o gyfeiriadau at Brifysgol Caerdydd hefyd, ac mae'r Athro John Watkins yn aelod o'r staff academaidd yno. A ydych chi'n credu bod ei haeriad bod dod â'r cyfyngiadau symud i ben yn gywir ac a fyddwch chi'n cefnogi hynny, Prif Weinidog?
Llywydd, darllenais yn ofalus iawn yr hyn oedd gan yr Athro Watkins i'w ddweud ac nid wyf i'n credu ei fod yn dadlau o gwbl dros gefnu ar yr holl fesurau diogelu sy'n gwneud gwahaniaeth i'n hamddiffynfeydd rhag coronafeirws. Roedd yn dweud bod adeg yn dod pan fo'n rhaid i ni allu symud y tu hwnt i'r mesurau diogelu hynny ac rwy'n cytuno â hynny, ac rwy'n gobeithio, pan fyddaf i yma eto, yfory, yn gwneud datganiad ar ganlyniad yr adolygiad tair wythnos presennol, y bydd camau y gallwn ni eu cymryd i'r cyfeiriad hwnnw. Yr hyn na fydd yn digwydd fydd cefnu llwyr ar y camau cyfunol yr ydym ni wedi eu cymryd yn ystod y pandemig ac sy'n parhau i gadw Cymru yn ddiogel yn wyneb trydedd don o coronafeirws, sydd eisoes yn profi ein gwasanaeth iechyd—roedd 760 o bobl yn sâl gyda coronafeirws yng Nghymru ddoe yn unig; y nifer fwyaf ar un diwrnod ers wythnosau lawer iawn, iawn. Ac mae'r syniad bod hwnnw yn gyd-destun addawol i symud yn gyflym oddi wrth y mesurau diogelu sy'n dal yno i'n cadw yn ddiogel—nid wyf wedi fy narbwyllo mai dyma'r adeg ar gyfer dull gweithredu o'r fath.
Deallais o'ch sylwadau, Prif Weinidog, y bydd gennym ni ddull llawer mwy pwyllog gennych chi yfory ac na fydd gennym y symud oddi wrth cyfyngiadau a welwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae hwnnw yn benderfyniad i'r Llywodraethau ei wneud. Ond mae un o'r sgyrsiau sy'n cael ei chynnal ledled y DU yn ymwneud â phasbortau brechu a'r defnydd o basbortau brechu. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gwrthwynebu defnydd gorfodol o'r fath o basbortau brechu; rwy'n credu eu bod nhw'n segmentu ein cymdeithas ac maen nhw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl a allai fod â rhesymau dilys dros beidio â chael eu brechu. A wnewch chi gadarnhau mai safbwynt parhaus Llywodraeth Cymru yw peidio â chefnogi'r defnydd gorfodol o basbortau brechu, ac os ydyn nhw'n mynd i gael eu defnyddio o gwbl, y byddai hynny ar sail canllawiau yn unig?
Ie, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud. Rwyf innau hefyd yn gwrthwynebu gwneud pasbortau brechu yn orfodol. Rydym ni'n sicrhau bod tystysgrifau brechu ar gael i ddinasyddion Cymru oherwydd weithiau mae pobl sy'n dymuno teithio dramor neu weithiau fynd i ddigwyddiadau mewn mannau eraill eu hangen nhw, ond materion o ddewis yw'r rheini—does neb yn gorfod mynd ar wyliau, nid oes yn rhaid i neb fynd i gyngerdd—ac mae gwneud ardystiad brechu yn orfodol yn fater cwbl wahanol yn fy marn i. Rwyf i wedi cael nifer o sgyrsiau gyda Gweinidogion yn Llywodraeth y DU ac maen nhw wedi fy sicrhau bob amser nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i wneud ardystiad brechu yn orfodol ychwaith. Ac er bod Prif Weinidog y DU, rwy'n gweld erbyn hyn yn annog y defnydd o ardystiad brechu mewn rhai lleoliadau gwirfoddol, rwy'n credu bod hynny yn dal i fod ymhell o sefyllfa orfodi.
Rwy'n falch o glywed hynna, Prif Weinidog, a byddaf innau hefyd yn ymuno â chi i gefnogi'r achos hwnnw, oherwydd, fel y dywedais, rwy'n credu y byddai'n creu rhaniadau diangen yn ein cymdeithas. Ac rwy'n sylweddoli ein bod ni'n mynd i gael y datganiad yfory, ac nid yw'n edrych fel pe byddai—. Yn amlwg, bydd gwahaniaethau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Nawr, mae Senedd yr Alban, er enghraifft, mewn sesiwn adalw ar hyn o bryd, rwy'n credu, am 2 o'r gloch y prynhawn yma—nid yw'n 2 o'r gloch eto, ond yn cyfarfod am 2 o'r gloch y prynhawn yma—fe wnaeth Prif Weinidog y DU ei gyhoeddiadau ddoe; byddwch chi yn gwneud eich cyhoeddiadau yfory. Gyda thraean o boblogaeth Cymru yn byw o fewn 20 milltir i ffin Cymru, mae'n rhaid cael dealltwriaeth o'r rhwymedigaethau a'r rheolau sydd ar waith mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig er mwyn cydymffurfio â'r rheolau hynny, ac mae'n bwysig iawn, pan fo'n bosibl, y gellir cyrraedd tir cyffredin. Gan ein bod ni'n disgwyl y bydd gwahaniaethau rhwng yr hyn y byddwch chi'n ei gyhoeddi yfory a'r hyn a gyhoeddwyd yn Lloegr, sut byddwch chi'n ceisio creu'r tir cyffredin hwnnw fel y gall dinasyddion y gwledydd sy'n cael eu heffeithio gan y rheolau a'r rheoliadau hyn wybod yn union beth a ddisgwylir ganddyn nhw? Gan nad wyf i'n credu bod neb eisiau gweld trydedd, pedwaredd, pumed don, ac rydym ni eisiau dathlu llwyddiant y rhaglen frechu a'r imiwnedd sydd wedi datblygu mewn cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Ond rydym ni ar adeg dyngedfennol nawr, pan ellir dychwelyd hawliau, a dylid dychwelyd cynifer o'r hawliau hynny â phosibl, Prif Weinidog.
Wel, Llywydd, cefais gyfarfod ddoe gyda Phrif Weinidog yr Alban, uwch Aelodau o Ogledd Iwerddon a Michael Gove o Swyddfa'r Cabinet. Rwy'n credu ein bod ni—. Dywedais yn y cyfarfod hwnnw ei bod hi'n dal yn ymddangos i mi fod pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn symud i'r un cyfeiriad yn fras. Efallai ein bod ni'n gwneud hynny ar gyflymder ychydig yn wahanol ac mewn gwahanol ffyrdd, ond mae'r cyfeiriad teithio sylfaenol yr un fath rhyngom ni i gyd. Rydym ni i gyd eisiau parhau i lacio cyfyngiadau; rydym ni i gyd eisiau ei wneud mewn ffordd sy'n cadw pobl yn ddiogel.
Gwnaeth bob un ohonom ni apêl drwy Mr Gove y dylai Prif Weinidog y DU, yn ei gynhadledd i'r wasg, ei gwneud hi'n eglur ei fod yn gwneud cyhoeddiadau ar gyfer Lloegr yn unig. Roedd yn siomedig, eto, canfod bod Prif Weinidog y DU yn gweld hynny yn beth mor anodd i'w wneud, oherwydd byddai wedi helpu—byddai wedi helpu gyda'r eglurder. Ac rwy'n cytuno â'r hyn y mae Andrew R.T. Davies wedi ei ddweud yn y fan yna, Llywydd: mae ceisio bod yn eglur gyda'n gwahanol boblogaethau beth yw'r sefyllfa mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig yn her, ac mae'n un y mae'n rhaid i bob un ohonom ni fynd i'r afael â hi. Byddai wedi helpu pe byddai Prif Weinidog y DU wedi bod yn fwy eglur gyda phobl nad oedd yn gwneud cyhoeddiad ar gyfer Gogledd Iwerddon na'r Alban na Chymru.
Rwy'n credu bod pobl ar ein ffiniau wedi dod yn fwy cyfarwydd â hyn. Maen nhw wedi byw drwy 18 mis o wahaniaethau dros y ffin, ac mae pobl yn fwy effro iddo ac yn cadw llygad amdano yn fwy. Byddwn yn sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu, pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud—a bydd y Cabinet yn cyfarfod eto bore yfory; nid ydym ni wedi cwblhau'r holl gyhoeddiadau a fydd yn cael eu gwneud yfory eto—byddwn yn gwneud ein gorau i wneud yn siŵr bod y rheini yn cael eu cyfleu mor eglur i ddinasyddion Cymru ag y gallwn.
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ie, lai nag wythnos sydd yna, rŵan, tan y codir y cyfyngiadau COVID yn llwyr yn Lloegr. Mae cadeirydd cyngor y BMA, Dr Chaand Nagpaul, wedi disgrifio'r amseru, wrth i nifer yr achosion gynyddu'n gyflym, fel bod yn anghyfrifol, a hynny ar ben sylwadau diweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o
'wacter moesol a ffolineb epidemiolegol'.
Rŵan, ydych chi yn cytuno, o ystyried mai gwarchod pobl o'ch cwmpas ydych chi drwy wisgo masg, efo rhywfaint o warchodaeth i chi'ch hun, fod cael gwared ar yr angen i wisgo gorchudd wyneb rŵan yn anghyfrifol?
Wel, Llywydd, wrth gwrs mae'r pethau sy'n digwydd yn Lloegr yn codi pryderon gyda ni, fel Llywodraeth, ond dwi ddim yn dod yma i fod yn feirniadol am beth y mae pobl eraill yn ei wneud; lan iddyn nhw yw hi i wneud pethau o fewn maes eu cyfrifoldebau nhw. Beth rŷn ni'n ei weld fan hyn yng Nghymru, Llywydd, yw: mae'r berthynas rhwng y feirws a'r brechlyn wedi newid, ond ddim wedi diflannu.
Ddoe, roedd 69 o bobl yn ein hysbytai yma yng Nghymru yn confirmed COVID patients—69. Lai na mis yn ôl, roedden ni'n siarad am llai nag 20 o bobl, so mae'r nifer o bobl sy'n cwympo mor dost o'r amrywiolyn delta yn tyfu bron bob dydd yma yng Nghymru hefyd. Dyna pam, pan fydd y Cabinet yn ystyried y posibiliadau sydd gyda ni yng Nghymru, dŷn ni'n mynd ati yn y ffordd rŷn ni wedi gwneud pethau dros y pandemig i gyd—yn ofalus, yn ystyried y dystiolaeth sydd gyda ni, ac yn mynd at bethau cam wrth gam.
Diolch. Gofyn i chi roi'ch barn ar beth ydych chi'n meddwl sy'n gyfrifol neu'n anghyfrifol yng Nghymru ydw i, wrth gwrs, a dwi yn eich annog chi i gadw'r angen i orfod gwisgo gorchudd wyneb ym mhob lleoliad lle mae pobl yn dod i gyswllt agos â'i gilydd, yn cynnwys mewn siopau. Mi ddarllenais i un senario dros y Sul: y byddai'n od iawn, meddai'r Cynghorydd Gwynfor Owen o Wynedd, pe bai gweithiwr siop yn gorfod gwisgo masg i fynd i syrjeri y doctor ond y doctor ddim yn gorfod gwisgo masg i fynd i'r siop.
Mi ydych chi wedi dweud na fydd disgyblion yn gorfod gwisgo masg mewn dosbarthiadau ysgol o fis Medi. Mae gen i gonsýrn am hyn, o ystyried mor agos at ei gilydd mae disgyblion, ac rydw i'n annog y Llywodraeth i fod yn ddigyfaddawd wrth wthio am warchodaeth i blant a phobl ifanc drwy bethau fel strategaethau ar sicrhau digon o awyr iach mewn dosbarthiadau a hefyd drwy wthio brechu i blant a phobl ifanc. Ac un gyrrwr yn hyn o beth i fi ydy pryder cynyddol am effaith COVID hir ac effaith COVID hir ar blant a phobl ifanc. Mae degau o filoedd o blant a phobl ifanc ar draws Prydain yn dioddef. Gaf i ofyn, ydy’r Prif Weinidog yn cytuno efo’r consýrn yna sydd gen? A gaf i ofyn am gamau pendant i ddatblygu arbenigedd yn y maes yma er mwyn gwarchod plant a phobl ifanc yn benodol o COVID hir?
Wel, Llywydd, dwi yn rhannu y consýrn, ac mae mwy o dystiolaeth gyda ni nawr am effaith COVID hir ar bobl ifanc, ac mae'n bwysig i ni fwrw ymlaen i gasglu mwy o wybodaeth a chael mwy o gyngor gan bobl sy'n gweithio yn y maes. Yn y llythyr anfonodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at yr ysgolion yng Nghymru, beth roedd e'n ei ddweud oedd doedd dim rhaid defnyddio mygydau mewn dosbarth 'as a matter of routine'.
Felly, nid oedd yn gyngor na ddylid byth gwisgo masgiau mewn ystafell ddosbarth; mae'n fwy o fater o'r risgiau hynny yn cael eu pwyso a'u mesur mewn gwahanol ddosbarthiadau. Rydym ni'n gwybod bod ystafelloedd dosbarth yn amrywio yn enfawr; o ysgol fodern yr unfed ganrif ar hugain i ysgol a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'r amodau ffisegol yn wahanol iawn. Fel y digwyddodd, Llywydd, cefais sgwrs gyda phennaeth ysgol fawr yng Nghaerdydd brynhawn dydd Gwener, a oedd newydd dderbyn y llythyr, ac roedd ef, rwy'n credu, yn gadarnhaol iawn yn ei gylch. Roedd yn ymwybodol iawn o gyngor Comisiynydd Plant Cymru ar yr effaith niweidiol y mae'n ei chael ar blant pan fyddan nhw'n gwisgo masgiau awr ar ôl awr yn yr ysgol, ac roedd yn teimlo yn ffyddiog iawn y byddai ef a'i staff yn gallu gwneud y dyfarniadau hynny yn y lleoliadau penodol yr oedden nhw'n eu hwynebu o ran pryd y byddai gwisgo masg yn ddoeth a phryd y gallech chi ganiatáu yn ddiogel i blant ddysgu heb gael eu cyfyngu iddyn nhw.
Y pwynt olaf, Llywydd, a wnaeth Rhun ap Iorwerth oedd gwneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael i bobl ifanc ac eraill sy'n mynd yn sâl drwy COVID hir, a gwnaeth fy nghyd-Weinidog y Gweinidog iechyd ddatganiad diweddar ar y mater hwnnw. Mae'n un o'n rhesymau am betruso o dan yr amgylchiadau presennol oherwydd er ei bod yn sicr bod y cysylltiad rhwng mynd yn sâl a mynd i'r ysbyty wedi cael ei ddiwygio drwy frechu, ni ddylid diystyru nifer fawr o bobl yn mynd yn sâl yn y gymuned fel pe na byddai hwnnw yn destun pryder parhaus, oherwydd y mwyaf o bobl sy'n mynd yn sâl yn y gymuned, y mwyaf o risg fydd yna y bydd rhai o'r bobl hynny hefyd yn dioddef nid yn unig salwch dros dro neu fân salwch, ond salwch a fydd yn byw gyda nhw am wythnosau a misoedd y tu hwnt i hynny.
Diolch am y geiriau yna. Rydych chi'n bendant yn iawn ei fod yn fater o bwyso a mesur risgiau, ac o ystyried natur y ddadl mewn rhai mannau nawr, bydd rhai pobl yn gwrando arnaf i heddiw ac arnoch chithau ac yn meddwl fy mod i'n bod yn or-ofalus, fy mod i'n bod yn rhy amharod i fentro, ac nid dyna'r gwirionedd. Rwy'n edrych ar dystiolaeth o ran masgiau, er enghraifft, ac os gall tystiolaeth dynnu sylw at ffyrdd y gallwn ni lacio cyfyngiadau, gadewch i ni ddilyn y dystiolaeth honno hefyd. Mae'n gweithio y ddwy ffordd.
Felly, wrth i ni gyrraedd gwyliau'r ysgol, naill ai rydych chi'n credu bod teithio dramor yn ddiogel, gyda'r mesurau diogelu perthnasol ar waith, neu rydych chi'n credu nad yw'n ddiogel. Ac os nad ydych chi, rhowch y dystiolaeth i ni a chyflwynwch reoliadau y gallwn ni bleidleisio arnyn nhw. Yr hyn nad wyf i'n credu y gallwch chi ei wneud yw gofyn i bobl ddefnyddio eu crebwyll, ac rydych chi wedi dweud dro ar ôl tro nad ydych chi'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud, i rywun fynd dramor. Rwyf i'n llwyr o blaid pobl yn cymryd cyfrifoldeb personol, ond, yn y cyd-destun hwn, rwy'n credu na ellir disgwyl i grebwyll personol ddisodli tystiolaeth wyddonol gadarn. Felly, a wnewch chi roi'r eglurder sydd ei angen ar bobl o ran y mater hwnnw?
Wel, dyma'r unig eglurder y gallaf i ei roi, Llywydd. Nid yw cyngor Llywodraeth Cymru wedi newid ers wythnosau lawer iawn. Ein cyngor i bobl yng Nghymru yw mai dyma'r flwyddyn i aros yng Nghymru ac i fynd ar eich gwyliau gyda phopeth sydd gan Gymru i'w gynnig. Bydd y penderfyniad i deithio dramor yn dod â risgiau ychwanegol gydag ef—risgiau i chi fel unigolyn, a risgiau i eraill ar ôl i chi ddychwelyd. Gellir osgoi'r risgiau hynny; dydyn nhw ddim yn risgiau y mae'n rhaid i chi eu cymryd. Felly, yng nghyd-destun pandemig byd-eang a thrydedd don o coronafeirws, cymaint gwell fyddai osgoi'r risgiau hynny a mynd ar wyliau yma yng Nghymru?
Y rheswm na allwn ni wneud hynny yn gyfraith yng Nghymru yw y byddai'n amhosibl ei gorfodi. Nid oes unrhyw ffordd yn syml y gallech chi wneud ffon gyfreithiol o'r fath, oherwydd mae tri chwarter y bobl sy'n teithio dramor o Gymru yn gwneud hynny o feysydd awyr dros ein ffin, lle na fydd ataliad o'r fath. Ac nid wyf i'n dychmygu—nid wyf i erioed wedi gweld cynnig gan Blaid Cymru—y byddem ni'n atal pobl o Gymru rhag teithio dros y ffin i Loegr, a chyn gynted ag y byddwch chi'n caniatáu i hynny ddigwydd, yna byddai pobl yn gallu teithio a byddai pobl yn gwneud hynny. Felly, nid wyf i'n canfod—. Byddai'n dda gen i pe byddem ni mewn gwahanol sefyllfa i'r un yr ydym ni ynddi, ond, o ystyried mai dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, mae'r cyngor y gallwn ni ei roi mor glir ag y gallwn ni ei wneud: mae risgiau yn bodoli, nid oes angen eu cymryd, mae dewisiadau eraill, a dewisiadau eraill gwych ar gael i chi.