Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 13 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:03, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am y geiriau yna. Rydych chi'n bendant yn iawn ei fod yn fater o bwyso a mesur risgiau, ac o ystyried natur y ddadl mewn rhai mannau nawr, bydd rhai pobl yn gwrando arnaf i heddiw ac arnoch chithau ac yn meddwl fy mod i'n bod yn or-ofalus, fy mod i'n bod yn rhy amharod i fentro, ac nid dyna'r gwirionedd. Rwy'n edrych ar dystiolaeth o ran masgiau, er enghraifft, ac os gall tystiolaeth dynnu sylw at ffyrdd y gallwn ni lacio cyfyngiadau, gadewch i ni ddilyn y dystiolaeth honno hefyd. Mae'n gweithio y ddwy ffordd.

Felly, wrth i ni gyrraedd gwyliau'r ysgol, naill ai rydych chi'n credu bod teithio dramor yn ddiogel, gyda'r mesurau diogelu perthnasol ar waith, neu rydych chi'n credu nad yw'n ddiogel. Ac os nad ydych chi, rhowch y dystiolaeth i ni a chyflwynwch reoliadau y gallwn ni bleidleisio arnyn nhw. Yr hyn nad wyf i'n credu y gallwch chi ei wneud yw gofyn i bobl ddefnyddio eu crebwyll, ac rydych chi wedi dweud dro ar ôl tro nad ydych chi'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud, i rywun fynd dramor. Rwyf i'n llwyr o blaid pobl yn cymryd cyfrifoldeb personol, ond, yn y cyd-destun hwn, rwy'n credu na ellir disgwyl i grebwyll personol ddisodli tystiolaeth wyddonol gadarn. Felly, a wnewch chi roi'r eglurder sydd ei angen ar bobl o ran y mater hwnnw?