Amrywiolion COVID-19 sy'n Peri Pryder

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 13 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:17, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, gwyddom fod cyfraddau COVID yn cynyddu unwaith eto yn ein cymunedau, ac ar ôl 16 mis hir o gyfyngiadau symud, mae'n ddealladwy bod aelodau o'r cyhoedd wedi blino ar y cyfyngiadau, ond mae'r amrywiolion newydd yn anhygoel o drosglwyddadwy, felly sut y mae cyfleu'r neges honno i'r cyhoedd sy'n clywed negeseuon anghyfrifol a dryslyd yn dod o Lywodraeth yn Lloegr sy'n methu â phenderfynu ar ei safbwynt ynglŷn â masgiau?