Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy'n sicr yn croesawu'r buddsoddiad hwnnw yn yr ysgol feddygol ym Mangor. Rwy'n siŵr y byddech chithau hefyd yn cytuno bod cael y cyfleusterau iawn ledled y rhanbarth a'r wlad yn ffactor pwysig o ran sicrhau bod gofal iechyd o ansawdd da yn cael ei ddarparu. Ac wrth edrych ar y buddsoddiad mewn cyfleusterau dros y pum mlynedd diwethaf, mae bwlch sylweddol rhwng yr hyn sy'n cael ei wario yn y gogledd a'r hyn sy'n cael ei wario yn y de. Ar sail fesul pen, mae gwariant yn y gogledd, yn fy rhanbarth i, tua hanner hynny ar gyfer rhai rhannau o'r de. Ac mae hyn wedi bod yn ystod cyfnod pan fo'r bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig hefyd. Felly, pam ydych chi'n meddwl bod cymaint o fwlch a beth fyddwch chi'n ei wneud i gau'r bwlch hwn?