Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddwyn i mewn yn hwyr iawn i'r parti gan Lywodraeth y DU o ran y seilwaith ffiniau y bydd ei angen, yng Nghaergybi ac, yn amlwg, yn y De-orllewin. Mae Gweinidog yr Economi'n arwain ar y maes hwn, ac rwy'n gwybod ei fod yn edrych ar rywfaint o gyngor ar hyn ar hyn o bryd. Fe fyddaf i'n gofyn iddo gyflwyno datganiad ysgrifenedig pan fydd ganddo fwy o wybodaeth i'w rhannu â'r Aelodau.