– Senedd Cymru am 2:36 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i agenda'r wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw gan Lywodraeth Cymru—y cyntaf gan y Gweinidog iechyd? Ac mae hynny'n ymwneud â'r pwysau sy'n wynebu ysbytai yn y gogledd ar hyn o bryd. Cefais sesiwn friffio ddoe gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a chefais wybod, oherwydd bod y farchnad ar gyfer gwyliau gartref mor sylweddol, a bod y gogledd yn gyrchfan mor boblogaidd, fod ganddyn nhw—ac mae hyn y tu allan i wyliau haf yr ysgol—ddwy ward yn llawn pobl o'r tu allan i Gymru yn defnyddio gwelyau yn y rhanbarth. Mae hynny'n amlwg yn disodli'r gofal iechyd sydd ar gael i drigolion lleol, ac mae'n bryder i'r bwrdd iechyd. Ac rwy'n credu bod angen ffrwd refeniw ychwanegol er mwyn helpu'r bwrdd iechyd ymdopi â'r pwysau sylweddol hynny yn y dyfodol.
A gaf i ofyn hefyd, yn natganiad Llywodraeth Cymru yfory gan y Prif Weinidog, ynghylch y cyfyngiadau coronafeirws, a fydd sôn am eglwysi a mannau addoli? Oherwydd rwy'n credu bod galw mawr nawr am dynnu'r gofyn i wisgo mygydau oddi ar ein heglwysi, er mwyn i bobl allu canu'n uchel. Rydym wedi gweld golygfeydd ledled Cymru, gyda phobl mewn tafarndai yn gwylio'r sgriniau mawr, i weld gemau'r Ewros yn cael eu chwarae. Yn amlwg, mae'r cyffro, yr angerdd a'r brwdfrydedd hwn yn digwydd hefyd mewn eglwysi, ond nid yw'r cymeradwyo brwd hwnnw'n ymwneud â phêl-droed, mae'n ymwneud â'r Iesu, a chanu clod i'r Iesu. Ac mae pobl eisiau cael gwared ar y masgiau hyn—maen nhw wedi cael digon arnynt bellach. Mae digon o le yn y rhan fwyaf o adeiladau i gadw digon o bellter cymdeithasol, ac mae awyru da yn ogystal mewn llawer o'n heglwysi a'n capeli ledled Cymru. Ac rwy'n credu bod pobl nawr eisiau gweld rhywfaint o newid. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe byddai modd cael cyfeiriad penodol at addoldai yn y datganiad yfory, felly os gallwch roi rhywfaint o sicrwydd imi, byddaf i'n edrych ymlaen at weld y datganiad hwnnw pan gaiff ei gyflwyno.
Wel, o ran eich ail bwynt, byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud sawl gwaith fod y Cabinet yn dal i gael trafodaethau ynghylch adolygu'r rheoliadau yr wythnos hon, a bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yma yn y Siambr brynhawn yfory.
Rwy'n credu ichi wneud pwynt perthnasol iawn am y byrddau iechyd, ac, fel y dywedwch, yn sicr rydym yn gweld mwy o bobl yn mynd ar wyliau yng Nghymru eleni, fel y gwnaethom ni y llynedd. Ac yn amlwg, mae hyn yn cael effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Un rheswm dros archwilio cynigion ar gyfer dadl ynghylch treth dwristiaeth yw ystyried sut y gallwn ni barhau i ariannu—[Torri ar draws.] Gall yr Aelod ysgwyd ei ben, ond mae'n rhywbeth y byddai modd ei godi ar bobl sy'n dewis mynd i'r ardaloedd hynny, mewn modd ffordd fach iawn, ond yna gallai fod yn gyfle pwysig iawn inni fuddsoddi yn yr amodau hynny sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant, ac mae hynny'n amlwg yn un ohonyn nhw.
Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar amddiffyn pobl rhag llygredd aer. Mae trigolion Cwmfelinfach yn pryderu am gyfleuster trin gwastraff ar ystâd ddiwydiannol Nine Mile Point sydd wedi cael caniatâd cynllunio. Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wrthod trwydded amgylcheddol yn wreiddiol, oherwydd y modd y gallai allyriadau effeithio ar iechyd preswylwyr, ond cefnodd CNC ar ei benderfyniad, ar ôl i'r cwmni gyflwyno apêl. Ac, er gwaethaf y ffaith y gallai'r ffatri ryddhau degau o filoedd o dunelli o garbon deuocsid bob blwyddyn, mae'r gwaith adeiladu ar y gweill o dan gwmni newydd. Nawr, Trefnydd, rwy'n gwybod na all y Llywodraeth wneud sylwadau ar y manylion, yn enwedig oherwydd yr adolygiad barnwrol posibl, ond mae'n ymddangos bod yr achos hwn yn brawf o'r argyfyngau hinsawdd a natur a ddatganwyd gennym. Rwyf eisoes wedi sôn am lygredd aer a fydd yn effeithio ar breswylwyr o'r safle hwn yn unig. Bydd cannoedd o lorïau hefyd yn gyrru drwy'r pentref a bydd coedwigoedd ac ecosystemau lleol yn debygol o gael eu dinistrio. Mae awdur lleol, Patrick Jones, wedi ysgrifennu ataf gan ddweud, 'Yn drasig iawn, mae'n eironig, mewn man lle bu farw glowyr ar ôl blynyddoedd o anadlu llwch glo, ein bod ni nawr yn cyfreithloni gwenwyn arall a fydd yn cyfyngu ar fywydau ein cenhedlaeth nesaf.' Felly, Trefnydd, a all datganiad nodi beth mae'r argyfyngau hinsawdd a natur yn ei olygu, os caiff cynlluniau fel hyn ganiatâd i fynd rhagddynt?
Diolch. Byddwn i'n cynghori'r Aelod i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd. Er, yn amlwg, ni all wneud sylw ynghylch cyfleuster penodol, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, ond rwy'n credu y gall roi ateb i'ch cwestiwn, yn hytrach nag aros hyd nes bydd y tymor newydd yn dechrau.
Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Mae'r cyntaf yn ymwneud â sut y caiff iechyd ei wella a sut y bydd disgwyliad oes yn cynyddu drwy wella iechyd cyffredinol pobl yng Nghymru, yn hytrach nag ymyrryd pan fydd pobl yn ddifrifol wael ac angen mynd i'r ysbyty. Ystyriwch ddiabetes math 2—mae modd lleihau nifer yr achosion drwy ddeiet ac ymarfer corff. Mae angen gwneud mwy o ran atal, yn hytrach na gwario miliynau a miliynau o bunnoedd, neu gannoedd o filiynau o bunnoedd, ar ymyrryd pan fydd pobl yn mynd yn sâl.
Yr ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano yw strategaeth gwrthdlodi. Rwy'n un o'r rhai a oedd yn anhapus iawn bod Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben. Roeddwn i'n credu ei fod yn gamgymeriad enfawr gan y Llywodraeth flaenorol. Ond mae wedi'i wneud, felly does dim mynd yn ôl. Ond rwy'n gofyn am strategaeth gan y Llywodraeth i leihau tlodi, yn enwedig mewn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig, oherwydd mae gennym ni lawer iawn o bobl hynod dlawd yng Nghymru, ac mae angen inni wneud rhywbeth i geisio eu cefnogi.
Diolch, Mike Hedges, am y ddau gais hynny. O ran yr eitem gyntaf, rwy'n cytuno'n llwyr: mae atal yn amlwg yn well na gwellhad, ac yn sicr mae gennym ni ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Mae hynny'n nodi ein huchelgeisiau hirdymor i leihau gordewdra ledled Cymru. Mae gennym ni ein cynllun cyflawni ar gyfer 2021-22, ac mae hynny wedi canolbwyntio hefyd ar bandemig COVID-19 a lleihau anghydraddoldebau iechyd, ac mae hynny wedi cael cefnogaeth cronfa gwerth £6.5 miliwn.
O ran tlodi, yn amlwg—Llywodraeth Cymru—roedd Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen flaenllaw inni ers blynyddoedd lawer, a daeth hynny i ben, fel y dywedwch, yn nhymor blaenorol y Llywodraeth. Fodd bynnag, mae gennym amrywiaeth o gynlluniau lle'r ydym yn ceisio gweithio gyda'r rheini yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, a byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog cydraddoldeb cymdeithasol, ar yr adeg fwyaf priodol, yn cyflwyno datganiad ynghylch strategaeth newydd.
Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Yn gyntaf, ar gymorth Llywodraeth Cymru i bobl ag anableddau dysgu. Dair wythnos yn ôl, lansiodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ei adroddiad ar nyrsio anabledd dysgu, 'Connecting for Change'. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddirywiad sylweddol yn nifer y nyrsys anabledd dysgu ledled y DU. Mae'r Pwyllgor Nyrsio Brenhinol yn nodi bod rhywfaint o'r gostyngiad hwn yn deillio o'r newid cadarnhaol yn y cymorth i bobl ag anableddau dysgu o fodel meddygol i fodel gofal cymdeithasol. Er eu bod yn credu bod llawer o nyrsys anabledd dysgu wedi symud ymlaen gyda phobl ag anableddau dysgu, a'u bod nawr yn darparu cymorth medrus mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, nid oes data ynghylch y gweithlu hwn, ac nid oes strategaeth gan y Llywodraeth ar gyfer cynllunio neu ddatblygu gwaith nyrsys mewn gofal cymdeithasol. Gwnaeth yr adroddiad hefyd ddarganfod gwahaniaethau sylweddol ledled pedair gwlad y DU. Er enghraifft, mae gan lawer o siroedd yn Lloegr dimau anabledd dysgu cymunedol plant gyda nyrsys anabledd dysgu. Fodd bynnag, mae diffyg gwasanaethau anabledd dysgu i blant yng Nghymru. Yn benodol i Gymru, mae'r adroddiad wedi tynnu sylw at y ffaith bod niferoedd myfyrwyr nyrsio anabledd dysgu wedi aros yn sefydlog ar gyfer y tair blynedd diwethaf, a dim ond un nyrs anabledd dysgu sydd ar lefel nyrs ymgynghorol ledled Cymru. Rwyf i felly yn galw am ddatganiad sy'n rhoi manylion am ymateb Llywodraeth Cymru i alwad yr RCN am gynllun gweithlu i gyd-fynd â datblygiad strategol gwasanaethau anabledd dysgu ledled Cymru yn ystod y degawd nesaf.
Rwy'n galw hefyd am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar brofion PCR COVID-19 ar gyfer gwledydd rhestr werdd. Clywais ymateb y Prif Weinidog yn gynharach, ond ni fydd yn bodloni'r etholwr a anfonodd e-bost ddydd Sadwrn fel a ganlyn:
'Prynais i wyliau pecyn drwy Tui, ond yn wahanol i drigolion Lloegr, ni allaf fanteisio ar eu pecyn profi ar gost o £20 am bob prawf. Yn hytrach, mae'n rhaid i mi dalu £88 y person ar gyfer y prawf PCR dychwelyd yn unig, ynghyd â thâl ychwanegol ar gyfer prawf antigen dychwelyd i'r DU. I'r pedwar oedolyn a'r ddau blentyn sy'n teithio, mae hyn yn ychwanegu cost arall o fwy na £400.'
Roeddwn i hefyd yn trafod heddiw gyda menyw sydd i fod mynd ar ei gwyliau olaf gyda'i gŵr sydd â salwch terfynol ac efallai y bydd yn rhaid iddi ailystyried yn awr oherwydd y gost ddiangen hon. Mae'r math hwn o driniaeth ar gyfer pobl sydd wedi dilyn yr holl reolau—
Rwy'n credu bod eich amser chi wedi dod i ben nawr, Mark Isherwood, felly gofynnaf i'r Gweinidog ymateb.
Diolch. O ran ei ail bwynt, nid wyf yn credu y gallaf i ychwanegu dim byd arall at sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach.
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wrthi'n dadansoddi'r adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato—cynllun y gweithlu gan y Pwyllgor Gofal Cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod nifer o'r byrddau iechyd yng Nghymru wedi dilyn hyfforddiant penodol o ran anabledd dysgu gyda'u nyrsys. Rwy'n gwybod fod rhywfaint o waith sylweddol wedi'i wneud yn ysbyty Maelor, er enghraifft. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod y cymorth hwnnw ar gael ledled Cymru, ac nid gan un neu ddau fwrdd iechyd yn unig.
Drefnydd, dwi wedi bod yn ffodus iawn yn ddiweddar i gyfarfod â nifer o ysgolion yng Nghaerdydd—ysgol Gwaelod y Garth, ysgol Plasmawr ac ysgol uwchradd gorllewin Caerdydd—i siarad am waith arbennig y Senedd Ieuenctid. Bob tro fydd yna sesiwn cwestiwn-ac-ateb ar y diwedd, mae'r amgylchedd yn dod i fyny bob tro yn eu cwestiynau nhw. Roeddem ni i gyd, yn drawsbleidiol, dwi'n credu, yn siomedig nad oedd y Ddeddf aer glân yn y datganiad deddfwriaethol yr wythnos diwethaf. A gawn ni, plîs, amserlen i weld pryd gawn ni'r Ddeddf aer glân, a hefyd i ddiddymu defnyddio plastig untro? A gawn ni ddatganiad am hynny, os gwelwch yn dda?
Diolch. Fe fyddwch chi'n—. Rwy'n credu mai Gweinidog y Cyfansoddiad a roddodd ddatganiad y rhaglen ddeddfwriaethol yma yn y Siambr ddydd Mawrth diwethaf, ac fe fyddwch chi'n sylweddoli bod y rhaglen honno newydd nodi'r ddeddfwriaeth ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Nid yw'n golygu nad yw Biliau eraill y gobeithiwn eu cyflwyno yn ystod y tymor Llywodraeth hwn yn cael eu paratoi ar hyn o bryd. Mae'n debyg y bydd llawer iawn o waith paratoi yn cael ei wneud ar y Ddeddf aer glân yn awr, oherwydd mae'r Biliau hyn yn cymryd nifer o fisoedd i'w drafftio a sicrhau eu bod yn barod i gael eu rhoi gerbron y Senedd. Felly, cyn gynted ag y gallwn ni—ac fe fyddwn ni'n edrych, yn amlwg, tuag at yr ail flwyddyn—byddwn yn gallu cyflwyno datganiad.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i'r rhai sy'n byw gyda diabetes. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch o gadeirio cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes yn y chweched Senedd. Yn y cyfarfod hwn, fe glywsom gan Dr Rose Stewart, seicolegydd clinigol ymgynghorol mewn diabetes sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rhoddodd Dr Stewart gyflwyniad ardderchog o ran yr angen dybryd am well cymorth iechyd meddwl arbenigol i bron 200,000 o bobl sy'n byw gyda diabetes ledled Cymru. Mae'r achos dros wella'r ddarpariaeth iechyd meddwl arbenigol ar gyfer diabetes yn glir. Fe wnaeth adroddiad 'Too often missing' gan Diabetes UK ddarganfod bod saith o bob 10 o bobl â diabetes yn teimlo eu bod wedi'u llethu gan reoli eu cyflwr. Mae anhwylderau bwyta deirgwaith mor gyffredin ymysg pobl ifanc â diabetes math 1 na'r rhai sydd heb ddiabetes, ac mae pobl sydd â diabetes ddwywaith yn fwy tebygol o brofi iselder na'r rhai sydd heb y cyflwr. Os nad oes modd ymdrin â'r materion hyn, gall iechyd seicolegol sy'n gwaethygu arwain at reoli diabetes yn gwaethygu, lle gall cymhlethdodau fynd yn ddifrifol yn gyflym. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad neu ddadl gynnar ar ôl y toriad ar fuddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl arbenigol i'r rhai sy'n byw gyda diabetes.
Rydym ni'n amlwg yn cydnabod effaith seicolegol byw gyda chyflwr hirdymor fel diabetes, a soniodd Jayne Bryant fod miloedd lawer o bobl yn byw gyda'r cyflwr hwnnw ledled Cymru. Yn amlwg, rydym yn disgwyl i'r byrddau iechyd roi cymorth priodol ar waith i bobl sydd â chyflwr mor hirdymor. Mae hynny'n cynnwys gofal cefnogol gan glinigwyr cyffredinol ac arbenigol fel bod pobl yn cael cymorth i reoli eu cyflwr, yn ogystal â chyfle, lle bo angen, i fanteisio ar seicoleg glinigol fwy arbenigol. Mae gwella'r cyfle i fanteisio ar therapïau seicolegol, ac ansawdd ac ystod y therapïau seicolegol, yn faes blaenoriaeth sydd wedi'i nodi yn ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'—rwy'n credu mai nôl yn 2019 oedd hynny.
Drefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf o ran ymateb y Lywodraeth hon i'r ffaith bod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod yr wythnos diwethaf alwadau i roddi £1.2 biliwn o gronfeydd pensiwn i gyn-lowyr, gan fynnu dal gafael ar yr arian. A sut fydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r glowyr a'r teuluoedd i gael cyfiawnder a'r hyn maent yn haeddu ei dderbyn?
Yn ail, yr wythnos diwethaf bûm yn lwcus i gael y cyfle i ymweld â thwnnel y Rhondda, ynghyd ag Aelodau eraill o'r Senedd hon. Gwn fod nifer o eiriolwyr ar ran y prosiect yn y Siambr, a gwn hefyd fod y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd yn gweld potensial aruthrol i'r prosiect hwn. Ond mae yna broblem: mae'r twnnel yn berchen i Lywodraeth Prydain. Ond, gyda phwyslais y Llywodraeth hon ar daclo'r argyfwng hinsawdd, hyrwyddo teithio actif a hybu twristiaeth yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy, a llai o wario ar adeiladu ffyrdd, mae angen troi brwdfrydedd y Llywodraeth hon i mewn i gamau pendant. A gawn ni, felly, ddatganiad yn y tymor newydd gan y Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r camau nesaf i fynd â'r prosiect yma rhagddo, ynghyd ag amserlen?
Diolch. O ran y mater sy'n ymwneud â phensiynau glowyr, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog perthnasol yn cyflwyno sylwadau i Weinidog Llywodraeth y DU, oherwydd nid wyf yn credu y gall hynny aros tan y tymor nesaf.
Ac o ran twnnel y Rhondda, mae'n amser maith ers imi glywed twnnel y Rhondda yn cael ei grybwyll yn y Siambr. Rwy'n cofio mai Leighton Andrews oedd y person cyntaf i—. Nid oeddwn i'n ymwybodol iawn o dwnnel y Rhondda, ond rwy'n cofio dysgu popeth am y twnnel wrtho ef. A byddaf i, yn sicr, yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod drwy lythyr, ac efallai roi hynny yn y llyfrgell fel y bydd pob Aelod yn ymwybodol ohono, oherwydd nid wyf i'n hollol siŵr beth yw'r camau nesaf, ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt da iawn.
Trefnydd, rwy'n eithaf trist ac yn rhwystredig iawn wrth sylweddoli, yn Aberconwy, yn aml, fod rhai o'n tafarndai, ein gwestai a'n bwytai yn gorfod troi darpar gwsmeriaid ac ymwelwyr i ffwrdd. Mae yma un caffi sydd ond yn gallu gweithredu dri diwrnod yr wythnos, ac mae trwyddedai arall sydd â dau fusnes ond yn gallu cadw un o'i fusnesau ar agor. Ac mae yma westywyr eraill sy'n ei chael hi'n anodd iawn ddod o hyd i staff hyfforddedig. Yn wir, y sectorau lletygarwch a manwerthu yw'r mannau perffaith i ddysgu sgiliau bywyd newydd a hanfodol, gan gynnwys gwaith tîm, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli amser. Ar ôl dod drwy gyfnod hynod anodd oherwydd cyfyngiadau symud mynych, dyma'r peth olaf sydd ei angen ar ein busnesau ni. Rwy'n chwarae fy rhan i wrth wynebu'r broblem hon drwy gynnal bord gron rithwir yr haf hwn gyda pherchnogion busnes, colegau lleol a'r rheini a all helpu i wynebu rhai o'r heriau hyn.
Mae llawer o wahanol faterion sydd wedi cyfrannu at y prinder staff presennol—llwybrau aneglur o addysg ffurfiol, her sefydledig o ran enw da, yn ogystal â mater lefelau cyflog. Mae hyfforddiant yn broblem fawr iawn i'r busnesau hyn. Felly, Trefnydd, mewn gwirionedd, yr hyn yr wyf i'n chwilio amdano yw datganiad ar yr hyn yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r busnesau hyn. A ydych chi'n debygol neu'n bwriadu darparu grant hyfforddi, oherwydd, yn amlwg, pan fydd pobl yn dod oddi ar hunanynysu, a staff eraill sy'n cyflenwi drostynt, nid oes ganddynt y capasiti na'r cyfleuster i hyfforddi staff? Holwyd imi droeon nawr, 'Beth fyddwch chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru?' Diolch.
Yn sicr, rwy'n cytuno â'r Aelod fod y sector lletygarwch, a'r sector bwyd a diod yn ei gyfanrwydd, yn cynnig gyrfa ddeniadol iawn i lawer o bobl. Un o'r rhesymau mwyaf yr ydym ni'n gweld prinder yn y sector hwn—oherwydd, yn amlwg, mae hyn yn dod o fewn fy mhortffolio fy hun ac mae wedi'i godi gyda mi droeon—yw'r ffaith nad ydym wedi gweld gweithwyr o'r UE yn gallu teithio mor rhydd i'r DU ag yr oedden nhw, a hefyd rydym ni wedi gweld llawer o weithwyr nad ydyn nhw eisiau dychwelyd i'r DU. Rydym yn gweld prinder gweithwyr yn y sector prosesu bwyd a gweithgynhyrchu hefyd. Felly, mae hwn yn fater yr wyf i'n ei godi gyda'r sectorau. Yn wir, mae gennyf gyfarfod yfory, gyda'r sector manwerthu bwyd, er enghraifft. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU. Roedd yn rhywbeth yr oeddwn i'n mynd i'w godi mewn cyfarfod dwyochrog gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ddoe, y bu'n rhaid ei ganslo yn anffodus, ond byddaf i'n parhau i'w godi gydag ef y tro nesaf.
Drefnydd, a gaf i ofyn am un datganiad ar fater hwyl a chwarae?
Bydd dydd Mercher cyntaf mis Awst yn Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol, ac, wrth gwrs, bydd ein sefydliadau yng Nghymru yn cymryd rhan yn hynny, ledled y wlad, gan gynnwys, wrth gwrs, Ganolfan Galw Heibio Llanharan, sydd ym Mryncae a Brynna a Llanharan, yn darparu'r Cylch Chwarae Playtots, a meithrinfa ddydd, a chlybiau gwyliau, a grŵp lles a chymorth Happy Dayz, a chlybiau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid hefyd. Fe fyddan nhw ar y diwrnod hwnnw yn dathlu eu pumed pen-blwydd ar hugain—25 mlynedd o ddarparu gwasanaeth mor wych i blant a theuluoedd a phobl ifanc yng nghymunedau'r ardal honno. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ar sut y bydd Llywodraeth Cymru a'i sefydliadau hyd braich yn cefnogi'r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol—byddai datganiad ysgrifenedig yn ddigonol—ond hefyd pe gallai ymuno â mi i groesawu'r gwaith anhygoel sydd wedi ei wneud gan sefydliadau fel Canolfan Galw Heibio Llanharan yn ystod 25 mlynedd.
Diolch. Wel, rwy'n sicr yn llongyfarch Prosiect Datblygu Cymunedol Llanharan ar eu pumed pen-blwydd ar hugain. Nid ar chwarae bach y mae cyflawni hynny, ac mae prosiectau fel hyn yn darparu cymaint o gyfleoedd yn ein cymunedau ni i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi gwerth mawr ar chwarae a'i bwysigrwydd ym mywydau pob plentyn yn ein cymdeithas. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi sôn am y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 4 Awst, a'i thema yw 'haf o chwarae', ac fe fyddwch yn ymwybodol o ddatganiad y Dirprwy Weinidog am yr haf o hwyl sydd, yn fy marn i, yn cynnwys chwarae hefyd. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn â Chwarae Cymru i sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i hawl plant i chwarae, ac mae gennym ni gyfoeth o gyfleoedd chwarae i blant ledled Cymru. Ac rydym wedi rhoi cymorth o £5 miliwn i'r haf hwnnw o hwyl y soniais i amdano.
Jane Dodds.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Trefnydd hefyd.
Cyn COVID, roedd un o bob tair menyw yn wynebu rhyw fath o drais, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Nid yw effaith lawn y pandemig ar fenywod sy'n wynebu trais wedi'i bennu eto, ond yn anffodus, o dystiolaeth anecdotaidd, mae'n debygol bod y niferoedd wedi cynyddu. Cyflwynwyd adroddiad gan Gymorth i Fenywod Cymru yn 2020, a dywedwyd ganddynt nad yw'r ddarpariaeth o gyllid cynaliadwy ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf 2015, wedi'i chyflawni eto. Rwy'n talu teyrnged i ymrwymiad y Llywodraeth hon i atal trais rhywiol drwy Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Ond a gaf i ofyn i'r Gweinidog gyflwyno datganiad ynghylch darparu cyllid parhaus i gefnogi'r gwasanaethau hynny sy'n helpu menywod sy'n wynebu trais domestig, ac i ystyried mesurau ataliol yn erbyn cam-drin domestig a thrais rhywiol? Diolch.
Diolch i Jane Dodds am y pwynt hwnnw. Mae'r gyllideb refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hon yn £6.825 miliwn. Mae hynny'n cynnwys cyllid byrhoedlog ychwanegol o £1.575 miliwn, ac mae hynny mewn gwirionedd yn gynnydd ar y gyllideb flaenorol. Yn sicr, rwy'n credu ei bod yn drist dweud ein bod ni wedi gweld cynnydd yn nefnydd ein gwasanaethau yn ystod yr 16 mis diwethaf. Ond mae'r arian ychwanegol hwnnw wedi golygu y gall pob sefydliad—fe wnaethoch chi sôn am un yn benodol—ddarparu cymorth ychwanegol i ddarparwyr gwasanaethau fel y gallan nhw barhau i fanteisio ar y gwasanaethau hanfodol hynny a, fel y dywedais i, ymdrin â'r galw cynyddol yr ydym ni wedi'i weld yn ystod y pandemig.
Trefnydd, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynghylch darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru? Rwy'n ei chael hi'n hynod siomedig nad yw'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cael y cyfle eto i ddarparu datganiad ar iechyd meddwl yn ystod y tymor hwn, o ystyried y data sy'n peri pryder. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos rhai tueddiadau pryderus iawn mewn un neu ddau o'r byrddau iechyd. Er enghraifft, ym mis Mawrth, dim ond 25 y cant o asesiadau gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol CAMHS a gynhaliwyd o fewn 28 diwrnod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gan ostwng i 13 y cant o'r holl asesiadau ar gyfer yr holl wasanaethau o fewn y targed hwn. Rwy'n pryderu, o ran y gwasanaethau i bobl dan 18 oed ledled Cymru, y bydd un o bob tri yn aros am fwy na mis i gael asesiad yng Nghymru. O ystyried canlyniadau arolwg Mind Cymru a gafodd ei gyhoeddi ddoe, a ddangosodd fod yr effaith fwyaf wedi bod ar y bobl ifanc hŷn, rwy'n credu y byddai ymateb manylach gan y Llywodraeth yn ddefnyddiol nawr. Diolch, Llywydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol ledled Cymru ar gyfer ein gwasanaethau iechyd meddwl, ac, yn benodol, iechyd meddwl plant. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn i ddiogelu iechyd meddwl pobl ifanc, er gwaethaf y pandemig. Fe fyddwch chi'n ymwybodol ein bod wedi datblygu'r pecyn cymorth iechyd meddwl, rydym wedi buddsoddi mwy yn ein gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac rydym wedi cynnwys cymorth lle nad yw dysgwyr yn yr ysgol. Felly, rwy'n credu, ar draws nid yn unig ein hysgolion, ond ein byrddau iechyd hefyd, fod cyllid sylweddol i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl—. Ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod ôl-groniad o ran gallu manteisio ar y gwasanaethau hynny, ond rydym wedi gwneud gwaith sylweddol i fynd i'r afael â hynny.
Trefnydd, hoffwn i godi hawliau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, roedd yr adroddiad 'Drws ar glo', a gafodd ei gomisiynu gan eich Llywodraeth chi, yn ysgytwad i lawer mewn awdurdod, gan ei fod yn manylu ar sut yr oedd y pandemig wedi arwain at wahaniaethu meddygol a chyfleoedd cyfyngedig i fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus a chymorth cymdeithasol, ynghyd â gwanhau hawliau dynol sylfaenol i bobl anabl yn gyffredinol.
Gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ymateb i'r adroddiad hwn gyda datganiad gan y Cabinet, a oedd yn ymdrin â rhai o'r pwyntiau a godwyd. Rwy'n awyddus i weld a yw argymhellion eraill yr adroddiad yn cael eu hystyried. Mae hyn yn dilyn achos y mae etholwyr wedi tynnu fy sylw i ato, a oedd yn ymwneud â theulu anabl yn ceisio teithio i Lundain ar y trên, ond heb allu gwneud hynny oherwydd bod cyfyngiad ar nifer y cadeiriau olwyn ar gerbydau. Er gwaethaf archebu eu tocynnau ymhell ymlaen llaw, bu'n rhaid i'r teulu gael eu gwahanu a theithio ar drenau ar wahân, sy'n annerbyniol. Mae'r achos hwn yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r adroddiad bod angen i'ch Llywodraeth, ac rwy'n dyfynnu:
'ymdrin â'r cyfyngiadau ar symudedd pobl anabl fel mater o frys drwy gynyddu arian i alluogi pobl anabl i ddefnyddio teithio "mwy diogel" a hygyrch.'
A all y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sut y mae modd gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy teg i bobl anabl yn ein gwlad ni fel rhan o'ch ymateb chi i'r adroddiad 'Drws ar glo'? Diolch.
Diolch. Mae'n debyg ei bod braidd yn rhy gynnar i gyflwyno datganiad arall; fel y dywedwch, cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad ac, ar hyn o bryd, rwy'n gwybod ei bod hi'n ystyried yr holl argymhellion a'r canfyddiadau yn yr adroddiad. Rwy'n credu bod gwaith sylweddol i'w wneud a gwn ei bod hi'n sefydlu tasglu, tasglu dan arweiniad y Gweinidog, a fydd yn cynnwys cynrychiolaeth sylweddol o bobl anabl a grwpiau anabledd i'w galluogi i ymdrin â'r mathau hynny o anghydraddoldebau ystyfnig a dwfn y tynnodd yr adroddiad sylw atynt.
Trefnydd, a gawn ni ddatganiad ynghylch credyd cynhwysol, os gwelwch yn dda, yn benodol ar asesiad Llywodraeth y DU o'r bwriad i dynnu'r swm £20 atodol yn ôl ddiwedd mis Medi? Mae'n debyg bod y Torïaid yn benderfynol o dynnu arian allan o bocedi'r rhai sy'n gallu ei fforddio leiaf. Yng Nghymru, roedd dros 237,000 o aelwydydd ar gredyd cynhwysol ym mis Chwefror, ac roedd dros 30,000 o'r rheini'n deuluoedd yn fy rhanbarth i.
Ledled y DU, yr amcangyfrif yw bod y cynnydd wedi helpu dros 700,000 o bobl i aros yn uwch na'r llinell dlodi, ac mae rywsut yn anghredadwy y byddai Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn benderfynol o ddewis gwneud aelwydydd incwm isel yn dlotach, o gofio holl ansicrwydd yr hydref a'r gaeaf o'n blaenau ni. Felly, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth o ran hynny ar ran yr unigolion a'r teuluoedd hynny.
Diolch. Rydym ni'n hynod siomedig bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu dod â'r taliad wythnosol credyd cynhwysol ychwanegol o £20 i ben o ddiwedd mis Medi. Does dim dwywaith y bydd yn effeithio ar rai o'n cartrefi tlotaf yng Nghymru, sydd eisoes yn cael trafferth o ganlyniad i bandemig COVID-19. Roeddwn i'n credu ei bod yn ddiddorol iawn bod chwe chyn-Ysgrifennydd Gwladol wedi llofnodi llythyr—Ysgrifenyddion Gwladol Torïaidd—at yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau pan gadarnhaodd ef y byddai'r £20 credyd cynhwysol wythnosol yn dod i ben ddiwedd mis Medi. Yr hyn y gallwn ni ei wneud fel Llywodraeth yw parhau, ynghyd â sefydliadau eraill, i gefnogi'r sefydliadau sy'n helpu pobl yr effeithir arnyn nhw'n sylweddol gan benderfyniad di-deimlad Llywodraeth y DU.
A gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar frys ynglŷn ag isadeiledd ffiniau ym mhorthladd Caergybi? Mae yna rannau o'r isadeiledd sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru a rhannau ohono fo i Lywodraeth Prydain drwy HMRC. Dwi wedi cael llond bol ar ddiffyg tryloywder a chyfathrebu gan HMRC. Rydyn ni'n clywed rŵan eu bod nhw wedi prynu truck stop Roadking, lle mae pobl yn mynd i fod yn colli eu swyddi. Mae o'n adnodd pwysig i'r dref ar hyn o bryd.
Dwi'n aros am eglurhad gan HMRC, ond mae angen clywed beth yn union ydy safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn hefyd. Pa drafodaethau y mae Gweinidogion wedi'u cael efo Llywodraeth Prydain ynglŷn â swyddi—sicrwydd i bobl sy'n gweithio yn Roadking rŵan o ran cael swyddi yn y datblygiad tollau newydd? A fyddan nhw'n cael symud yn syth yno heb doriad yn eu cyflogaeth nhw? Beth fydd yn digwydd i'r lorïau sydd wedi bod yn parcio yn Roadking? Mae o'n adnodd mor bwysig, fel rhan o isadeiledd y porthladd.
Ond hefyd, rŵan, dwi'n clywed o bosib fod Llywodraeth Cymru yn symud y datblygiad yr oeddech chi yn ei baratoi—wedi'i baratoi—ym Mharc Cybi i mewn i ddatblygiad Roadking. Mae cymuned Caergybi a phobl Ynys Môn angen gwybod beth sydd yn digwydd, felly a gawn ni'r datganiad yna ar frys, os gwelwch yn dda?
Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddwyn i mewn yn hwyr iawn i'r parti gan Lywodraeth y DU o ran y seilwaith ffiniau y bydd ei angen, yng Nghaergybi ac, yn amlwg, yn y De-orllewin. Mae Gweinidog yr Economi'n arwain ar y maes hwn, ac rwy'n gwybod ei fod yn edrych ar rywfaint o gyngor ar hyn ar hyn o bryd. Fe fyddaf i'n gofyn iddo gyflwyno datganiad ysgrifenedig pan fydd ganddo fwy o wybodaeth i'w rhannu â'r Aelodau.
Yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Heddiw, es i gasglu'r bocsys o ffrwythau a llysiau i'w dosbarthu i'r banc bwyd lleol yr wyf i wedi bod yn dosbarthu iddo yn ystod y 18 mis diwethaf. Nid oedd modd imi gael unrhyw beth oherwydd yr argyfwng cyflenwadau y mae'r cyfanwerthwyr yng Nghaerdydd yn ei wynebu. Yn syml, nid oes digon o ffrwythau a llysiau'n cyrraedd, sy'n wirioneddol drychinebus i mi, gan fy mod i'n deall pa mor bwysig ydyw i bawb gael ffrwythau a llysiau ffres.
Mae hyn yn digwydd ar adeg anterth y tymor tyfu, pan fo digonedd o ffrwythau a llysiau ar gael. Mae'n ymddangos mai'r broblem yw (a) prinder gweithwyr i gasglu'r cynnyrch y mae pobl yn ei dyfu—mae'n cael ei adael yn y caeau—a (b) prinder gyrwyr lorïau i ddosbarthu'r cynnyrch i'r marchnadoedd cyfanwerthu.
Nawr, mae'n amlwg mai'r archfarchnadoedd sy'n cael y dewis cyntaf o'r holl gynnyrch oherwydd eu bod yn holl-bwerus. Ond hyd yn oed yn yr archfarchnadoedd rwyf wedi sylwi ar silffoedd gwag mewn mannau lle mae cyflenwad helaeth o ffrwythau a llysiau fel arfer. Felly, mae hyn, i mi, yn agoriad llygad gwirioneddol o ran ein diogelwch bwyd, ar adeg pan fo'r—amhariad i'n cyflenwadau yn digwydd o ganlyniad i ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw hyn erioed wedi digwydd imi ar anterth y pandemig, felly tybed, Gweinidog—ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn eich portffolio chi—a gawn ni ddatganiad ar sut yr ydym ni'n mynd i reoli'r sefyllfa hon yn ystod y misoedd llawer mwy anodd pan fydd angen inni fewnforio ein holl gyflenwadau.
Diolch. Byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud mewn ateb cynharach i Janet Finch-Saunders ein bod ni'n gwybod—rydym ni'n ymwybodol iawn o brinder gweithwyr yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y sefyllfa ar ei mwyaf difrifol o ran logisteg; fe wyddom fod gennym brinder mawr o yrwyr cerbydau nwyddau trwm, er enghraifft. Mae hynny wedi gwaethygu oherwydd gyrwyr yn methu cymryd eu profion yn ystod y pandemig, er enghraifft; rydym wedi cael gweithwyr ar ffyrlo ac, yn amlwg, soniais yn gynharach am y broblem o weithwyr mudol o'r UE yn methu teithio'n rhydd bellach a rhai ohonynt yn dewis peidio â dychwelyd.
Fe fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud fy mod yn cael cyfarfod gyda'r archfarchnadoedd yfory, oherwydd mae hwnnw'n faes y maen nhw eisiau ei godi gyda mi. Felly, wrth—. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud o ran yr archfarchnadoedd, ond maen nhw'n pryderu hefyd ynghylch diffyg gyrwyr HGV. Ac yn union ar ôl imi gael rhagor o wybodaeth ganddyn nhw, ac ar ôl imi gael y cyfle i gael fy nghyfarfod dwyochrog gydag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA—oherwydd, yn amlwg, mae'r rhan fwyaf o hyn yn eu dwylo nhw, o ran hynny—byddaf i'n hapus iawn i wneud datganiad ysgrifenedig.
Diolch i'r Trefnydd.